Cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio yw un pan fydd y swm a delir i chi yn seiliedig ar faint o flynyddoedd y buoch yn gweithio i’ch cyflogwr a’r cyflog a enilloch.
Sut y mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn gweithio
Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn talu incwm sicr am oes sy’n cynyddu bob blwyddyn.
Efallai y bydd gennych chi un os ydych wedi gweithio i gyflogwr mawr neu yn y sector cyhoeddus.
Mae eich cyflogwr yn cyfrannu at y cynllun ac yn gyfrifol am sicrhau bod digon o arian pan fyddwch yn ymddeol i dalu eich incwm pensiwn.
Gallwch gyfrannu at y cynllun hefyd.
Fel arfer maent yn parhau i dalu pensiwn i’ch priod, partner sifil neu eich dibynyddion pan fyddwch yn marw.
Eich incwm pensiwn
Mae’ch incwm yn seiliedig ar:
Sail incwm |
Sut bernir incwm |
Wasanaeth pensiynadwy |
Nifer y blynyddoedd rydych wedi bod yn aelod o’r cynllun |
Enillion pensiynadwy |
Efallai mai eich cyflog wrth ymddeol fydd y rhain (a elwir yn ‘gyflog terfynol’), neu gyfartaledd y cyflog dros yrfa (‘cyfartaledd gyrfa’), neu ryw fformiwla arall |
Cyfradd gronni |
Y gyfran o’ch enillion a gewch fel pensiwn ar gyfer pob blwyddyn yn y cynllun (yn aml fel 1/60 neu 1/80) |
Sut i gyfrifo’ch incwm pensiwn
Cyfrifir eich incwm pensiwn fel arfer fel a ganlyn:
- Blynyddoedd yn y cynllun
- Rhennir gan gyfradd gronni
- Lluosogir gan enillion pensiynadwy
Er enghraifft os:
- Roedd gan eich cynllun gyfradd gronni o 1/60
- Roeddech mewn cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio am 10 mlynedd
- Rydych yn ymddeol yn 65 oed ar gyflog o £24,000 y flwyddyn
Byddai hyn yn rhoi pensiwn i chi o:
10 (mlynedd) wedi ei luosi â £24,000 (cyflog)
Wedi ei rannu â 60 (cyfradd gronni) = £4,000 y flwyddyn (llai os bydd yn cymryd unrhyw lwmp swm arian parod di-dreth).
Gwirio’ch incwm pensiwn
Bydd eich cyfriflen bensiwn ddiweddaraf yn rhoi syniad i chi faint all eich incwm pensiwn fod.
Os nad oes gennych un, gofynnwch i’ch gweinyddwr pensiwn anfon un atoch.
Fel arfer mae cyfriflenni’n dangos eich pensiwn yn seiliedig ar:
- Eich cyflog presennol
- Pa mor hir rydych wddi bod yn y cynllun
- Beth allai’ch pensiwn fod os arhoswch yn y cynllun hyd oedran ymddeol arferol (65 oed fel arfer)
Os ydych wedi gadael y cynllun, byddwch yn parhau i gael cyfriflen yn flynyddol yn dangos beth yw gwerth eich pensiwn.
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y pensiwn yn cynyddu fesul swm penodedig yn flynyddol hyd at oedran ymddeol.
Os bydd eich cynllun yn caniatáu i chi gymryd rhan o’ch pensiwn fel cyfandaliad di-dreth, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod a yw’ch cyfriflen yn dangos y swm a gewch cyn neu ar ôl cymryd y cyfandaliad hwnnw.
Hefyd, peidiwch ag anghofio y bydd eich gwir incwm pensiwn yn drethadwy.
Pryd allaf fi gymryd fy mhensiwn?
Mae gan y rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn â buddion wedi’u diffinio oed ymddeol arferol o 65.
Dyma’r oed fel arfer y bydd eich cyflogwr yn stopio talu cyfraniadau at eich pensiwn a phryd y bydd eich pensiwn yn dechrau cael ei dalu.
Yn ddibynnol ar eich cynllun, efallai y gallwch gymryd eich pensiwn o 55 oed ond gall hyn leihau’r pensiwn a gewch.
Mae’n bosibl cymryd eich pensiwn heb ymddeol hefyd.
Efallai y gallwch hefyd ohirio cymryd eich pensiwn.
Gallai hynny olygu y cewch incwm uwch pan benderfynwch ei gymryd. Gwiriwch eich cynllun am fanylion.
Ar ôl i’ch pensiwn ddechrau cael ei dalu, bydd yn cynyddu’n flynyddol o swm penodol am oes (bydd rheolau eich cynllun yn dweud wrthych o faint).
Pan fyddwch yn marw, efallai y bydd y pensiwn yn parhau i gael ei dalu i’ch priod, partner sifil neu ddibynyddion.
Canran benodol fydd hyn fel arfer (50% er enghraifft) o’ch incwm pensiwn ar ddyddiad eich marwolaeth.
Cymryd eich pensiwn fel cyfandaliad
Efallai y byddwch yn gallu cymryd eich pensiwn cyfan fel cyfandaliad arian parod.
Os byddwch yn gwneud hyn, bydd hyd at 25% o’r swm yn ddi-dreth a bydd y gweddill yn ddarostyngedig i dreth incwm.
Gallwch wneud hyn o 55 oed (neu yn gynharach os byddwch yn ddifrifol wael) ac os yw:
- Cyfanswm gwerth eich holl gynilion pensiwn yn llai na £30,000.
- Gwerth eich pensiwn yn llai na £10,000, waeth faint yw gwerth eich cynilion pensiwn eraill. Gallwch wneud hyn am hyd at dri phensiwn personol gwahanol neu unrhyw faint o bensiynau galwedigaethol (buddion wedi’u diffinio neu gyfraniadau wedi’u diffinio).
Darganfyddwch fwy am Gymryd eich cronfa bensiwn gyfan fel arian parod.
Trosglwyddo eich pensiwn buddion wedi’u diffinio
Os ydych mewn cynllun pensiwn sector preifat buddion wedi’u diffinio neu gynllun sector cyhoeddus a ariennir, gallwch drosglwyddo i bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio cyn belled nad ydych eisoes yn cymryd eich pensiwn.
Gall pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio gael eu defnyddio yn hyblyg o 55 oed felly gall hyn ymddangos yn ddewis deniadol.
Ond os trosglwyddwch o gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio byddwch yn ildio buddion gwerthfawr a gallech fod yn waeth eich byd, hyd yn oed os yw’ch cyflogwr yn cynnig unrhyw beth i’ch cymell i newid.
Cyn i chi benderfynu, mae’n syniad da cael cyngor gan gynghorydd ariannol a reoleiddir sy’n arbenigo yn y math hwn o drosglwyddiad.
Os yw’ch cynilion pensiwn yn werth £30,000 neu ragor, bydd yn ofynnol i chi gymryd cyngor ariannol p’run bynnag.
Os byddwch mewn cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio heb ei ariannu (cynlluniau pensiwn sector cyhoeddus yw’r rhain yn bennaf), ni fyddwch yn gallu trosglwyddo i gynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.
Fodd bynnag, byddwch yn dal i allu trosglwyddo i gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio arall.
Diogelu eich pensiwn buddion wedi’u diffinio
Diogelir cynlluniau buddion wedi’u diffinio gan y Gronfa Diogelu Pensiynau.
Mae’n talu rhywfaint o iawndal i aelodau cynlluniau y mae eu cyflogwyr wedi methdalu a phan nad oes gan y cynllun ddigon o arian i dalu buddion yr aelodau.
Efallai na fydd yr iawndal yn gyfwerth â’r swm llawn ac mae lefel y diogelwch yn ddibynnol ar a ydych:
- Eisoes yn derbyn buddion
- Yn parhau i gyfrannu i’r cynllun
- Yn aelod sydd wedi gadael y cynllun ond wedi cronni hawl
Olrhain pensiynau coll
Os na allwch chi ddod o hyd i fanylion hen gynllun pensiwn buddion diffiniedig, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Olrhain Pensiwnopens in new window.