Cytundebau taliad gohiriedig ar gyfer pobl sy'n berchen ar eu cartref ac sy'n symud i mewn i gartref gofal

Os ydych yn symud o’ch cartref i gartref gofal ac os yw’r rhan fwyaf o’ch arian ynghlwm â’ch eiddo ac nid oes gennych lawer iawn o gynilion, gallai’ch awdurdod lleol gynnig cytundeb taliad gohiriedig i chi. Golyga hyn nad oes raid i chi werthu’ch cartref yn syth i dalu ffioedd y cartref gofal.

Egluro cytundebau taliad gohiriedig

Cytundeb gyda’r awdurdod lleol yw cytundeb taliad gohiriedig sy’n galluogi pobl i ddefnyddio gwerth eu cartref i helpu gyda’r gost o dalu costau cartref gofal. Os ydych yn gymwys, bydd y cyngor yn helpu i dalu am eich biliau cartref gofal. Gallwch oedi cyn ad-dalu’r cyngor hyd nes i chi ddewis gwerthu’ch cartref, neu ar ôl i chi farw.

Bydd angen i chi lofnodi cytundeb cyfreithiol gyda’r cyngor, gan ddweud y bydd yr arian yn cael ei ad-dalu pan werthir eich cartref.

Fel arfer mae’r cyngor yn sicrhau bod yr arian sy’n ddyledus gennych mewn ffioedd gofal yn cael eu had-dalu trwy roi arwystl cyfreithiol ar eich eiddo. Mae’n gwneud hyn trwy gysylltu â’r Gofrestrfa Dir i osod yr arwystl. Mae’r arwystl yn cael ei ddiddymu pan fydd y ddyled wedi ei had-dalu.

Fel arfer ni allwch ddefnyddio mwy na 90% o werth eich cartref i dalu am ffioedd. Yn ymarferol, bydd amryw o awdurdodau lleol yn gosod terfyn rhwng 70% ac 80%.

Mae hyn er mwyn sicrhau bod gennych chi neu ysgutor eich ewyllys ddigon o arian i dalu costau’r gwerthiant ac i wneud yn siŵr bod yr awdurdod lleol yn cael ei arian yn ôl os yw prisiau tai yn gostwng.

Bydd cynllun taliad gohiriedig yn dod i rym ar ôl i chi fod mewn cartref gofal am 12 wythnos neu fwy. Y rheswm am hyn yw y dylai’r awdurdod lleol helpu gyda chyllido eich gofal heb ystyried gwerth eich eiddo am y 12 wythnos gyntaf. Nid yw’r cynllun hwn yn berthnasol i gyfnodau byr mewn cartref gofal.

Mae’r modd yr ariennir gofal yn amrywio ledled y DU. Mae talu ffioedd cartref gofal yn faes cymhleth ac yn dibynnu ar amryw o bethau sy’n unigryw i chi. Am ragor o wybodaeth yn:

Yr Alban

Cymru

Gogledd Iwerddon

Ad-dalu’r swm i’r awdurdod lleol

Rhaid ad-dalu unrhyw arian sy’n ddyledus ar y cytundeb talu a ohiriwyd, yn cynnwys llog a chostau gweinyddu os byddwch yn gwerthu’ch cartref neu’n gadael y cartref gofal.

Os byddwch yn marw, ysgutor eich ewyllys fydd yn gyfrifol am ad-dalu’r swm sy’n ddyledus ar ba bynnag un o’r dyddiadau canlynol sydd gynharaf:

  • dyddiad gwerthu neu waredu’r eiddo neu’r ased
  • 90 diwrnod ar ôl marwolaeth

Gall eich awdurdod lleol roi cyfnod hirach i’r ysgutor ad-dalu’r swm os ceir anawsterau neu oedi wrth ad-dalu. Dylai’ch ysgutor gysylltu â’r awdurdod lleol os bydd yn rhagweld y bydd anhawster.

A ydw i’n gymwys i ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?

I gymryd rhan mewn cynllun taliad gohiriedig:

  • dylech gael cynilion a chyfalaf sy’n werth llai na swm penodol, heb gynnwys gwerth eich cartref (£23,250 yw hyn yn Lloegr) – mae trefniadau cyllido’n wahanol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, felly gwiriwch gyda’ch awdurdod lleol
  • rhaid eich bod yn berchen ar eich cartref neu ased arall y gall yr awdurdod lleol ddefnyddio fel sicrwydd
  • ni ddylai fod unrhyw un arall yn byw yn yr eiddo sydd angen aros yno, megis cymar, partner, plentyn dibynnol, perthynas dros 60 oed neu rywun sy’n sâl neu’n anabl
  • mi fyddwch mewn cartref gofal am yr hirdymor, neu’n cynllunio ar gyfer hynny – ni fyddwch yn gallu cymryd cytundeb taliad gohiriedig am gyfnodau dros dro mewn gofal

Os oes gennych forgais heb ei glirio, gwiriwch yr amodau a’r telerau a siaradwch â’ch darparwr morgais. Ni fydd rhai darparwyr yn caniatáu i chi gymryd benthyciad arall wedi ei ddiogelu yn erbyn y cartref.

A oes unrhyw daliadau gyda chytundeb taliad gohiriedig?

Gall yr awdurdod lleol godi ffioedd cyfreithiol a gweinyddol arnoch chi i dalu costau sefydlu’r taliad gohiriedig. Os nad yw’r eiddo wedi ei gofrestru, efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi i’r Gofrestrfa Dir. Efallai bydd rhaid i chi dalu costau gwerthusiad ar yr eiddo.

Taliadau llog ar daliadau gohiriedig

Gallai’ch awdurdod lleol godi llog ar y taliadau gohiriedig i dalu am ei gostau.

Yn Lloegr, mae’r Ddeddf Ofal yn weithredol felly gall yr awdurdod lleol osod y swm mae’n godi, ond ni all fod yn fwy na chyfradd safonol gymeradwy’r llywodraeth - sy’n gysylltiedig â chyfradd stociau’r llywodraeth sy’n cael ei chyhoeddi bob 6 mis plws 0.15%. Ar hyn o bryd mae hyn yn gyfystyr â thua 2 %.

Yng Nghymru, mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn weithredol felly gall yr awdurdod lleol osod y swm mae’n godi, ond ni all fod yn fwy na “chyfradd berthnasol” gymeradwy’r llywodraeth sydd unwaith eto tua 2%.

Yn yr Alban, ni chodir unrhyw log hyd nes y bydd yr unigolyn yn dod â’r cytundeb i ben neu wedi 56 diwrnod ers ei farwolaeth ef neu hi. Wedi’r cyfnod hwn, dylid codi llog ar “gyfradd resymol” a osodir gan y cyngor lleol.

Os nad yw’r arian yn cael ei ad-dalu’n brydlon ar ddiwedd y cytundeb, gallai’r awdurdod lleol godi llog ychwanegol hyd nes bod y ddyled wedi’i thalu. Mae’n bosib hefyd y bydd ffioedd gweinyddu parhaus ar ben y llog.

Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes system gohirio taliadau ffurfiol, ond gall fod ar gael serch hynny, gofynnwch i’r Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Beth yw’r manteision o ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?

  • Bydd y cyngor yn talu costau eich gofal fel nad oes rhaid i chi ddod o hyd i’r arian ar unwaith.
  • Dim ond ar gyfer y cyfnod amser pan fyddwch chi mewn gofal fyddwch chi’n cronni dyled yn erbyn gwerth eich cartref. Os ydych chi’n gwybod ei bod yn debygol mai dim ond cyfnod byr fyddwch chi angen ei dreulio mewn gofal, er enghraifft am fod eich cyflwr yn farwol, gallai hyn fod yn opsiwn gwerth ei ystyried.
  • Gallai gwerth eich cartref barhau i gynyddu, gan gyfrannu at dalu eich costau gofal.
  • Efallai y gallech osod eich eiddo a defnyddio’r rent i dalu rhywfaint o’ch ffioedd.
  • Gallwch ddal i hawlio Lwfans Gweini, Lwfans Byw i’r Anabl (cydran gofal), neu Daliad Annibyniaeth Personol (cydran byw dyddiol), os oes gennych hawl i unrhyw un o’r buddion hyn.

Beth yw’r anfanteision o ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?

  • Byddwch yn dal i orfod talu am gynnal a chadw eich cartref.
  • Efallai y bydd rhaid i chi ddal i dalu am wresogi a biliau goleuo fel nad yw’r tŷ yn edrych yn wag.
  • Bydd rhaid i chi ddal i dalu i yswirio eich cartref ac fe allai hyn fod yn broblem os nad oes neb yn byw yno.
  • Os oes gennych forgais ar yr eiddo o hyd, byddwch yn dal angen ei dalu.
  • Gallai prisiau tai ostwng gan eich gadael gyda llai o arian i dalu’r ffioedd yn ôl.
  • Mae’n gallu bod yn anodd gweinyddu’r gwaith o osod eich eiddo
  • Os oes gennych chi gynllun rhyddhau ecwiti yn barod, efallai na fyddwch yn gallu mynd i mewn i gynllun taliad gohiriedig.
  • Byddwch yn colli allan ar log y gallech fod wedi ei ennill pe byddech wedi gwerthu eich cartref a rhoi’r cyfalaf mewn cynilion neu fuddsoddiadau.

Gosod eich cartref i’w rentu os ydych chi’n derbyn cytundeb taliad gohiriedig

Gall gosod eich eiddo roi incwm ychwanegol i chi i dalu am eich ffioedd, ond rhaid ystyried ambell beth cyn i chi wneud hyn:

  • Rhaid i’ch awdurdod lleol gytuno y gallwch osod eich eiddo. Weithiau byddant yn cynnig gosod tenantiaid o’u rhestr aros am dai i eiddo gwag a thalu rhent i chi.
  • Os ydych chi’n gosod yr eiddo, mae’n bosib y bydd ei werth yn cyfrannu at eich cyfalaf a gallai hynny gael effaith neygddol ar fuddiannau sy’n ddibynnol ar brawf modd, fel y Credyd Pensiwn.
  • Efallai y bydd gennych gyfrifoldebau fel landlord na fyddwch yn gallu eu bodloni tra’ch bod mewn gofal.
  • Efallai y bydd rhaid i chi ddefnyddio asiant gosod neu gael aelod o’r teulu neu ffrind i reoli’r eiddo ar eich rhan.
  • Mae’n bosibl na fydd tenantiaid ar gyfer yr eiddo o hyd neu gallai costau’r cartref gofal godi’n gynt na’r swm o rent allwch chi godi. Efallai na fydd gennych ddigon o incwm o rent i dalu eich ffioedd neu gostau eraill ar bob adeg.

Os bydd yr incwm o rent yn talu’r cyfan neu fwy na’ch ffioedd cartref gofal, gallech ddewis gosod eich eiddo yn hytrach na chael Cytundeb Taliad Gohiriedig. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i chi sicrhau bod gennych ddigon o incwm i dalu costau a bod yn siŵr y bydd yr eiddo wedi ei reoli’n briodol.

Os ydych chi’n ystyried gosod eich cartref, mae’n syniad da i dderbyn cyngor ariannol annibynnol a siarad ag asiant gosod i weld sut mae’r farchnad rhentu yn eich ardal chi cyn gwneud penderfyniad.

Dylech gofio hefyd ar ôl gosod eich eiddo am 3 blynedd y bydd eich eiddo yn dod yn ased trethadwy o safbwynt Treth ar Enillion Cyfalaf os ydych chi’n ei werthu yn y dyfodol.

Sut mae’ch incwm yn effeithio ar gytundebau taliad gohiriedig

Bydd yn rhaid i’r rhan fwyaf o’ch incwm (fel eich budd-daliadau a rhai budd-daliadau incwm penodol) fynd tuag at dalu am eich costau gofal cyn y bydd yr awdurdod lleol yn talu am y diffyg yn beth allwch chi fforddio ei dalu.

Yn Lloegr, os oes gennych chi £23,250 neu fwy mewn cynilion a chyfalaf, fe ystyrir eich bod yn gallu hunan gyllido a bydd rhaid i chi dalu costau llawn eich gofal. Gall Awdurdodau Lleol fod yn fwy hael na hynny, felly os ydych yn agos at y trothwy, gwiriwch a ydych chi’n gymwys neu beidio.

Bydd yn rhaid i chi wneud cyfraniad o £1 ar gyfer pob £250 o gynilion a chyfalaf sydd gennych rhwng £14,250 a £23,250. Gelwir hyn yn incwm tariff. Efallai hefyd y cewch eich asesu ar gyfer cyfraniad o incwm arall, megis pensiynau neu fuddion â phrawf modd.

Ni fydd rhaid i chi wneud cyfraniad o unrhyw incwm a gewch o gynilion neu gyfalaf o lai na £14,250, ond efallai y byddwch yn cael eich asesu am gyfraniad tuag at gostau eich gofal o incwm arall a gewch.

Mae yna reolau cyllido ychydig yn wahanol os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Dylech wirio gyda’ch awdurdod lleol o ran faint allai’ch incwm effeithio ar eich cytundeb taliad gohiriedig.

Bydd buddion â phrawf modd, megis eich Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredyd Pensiwn yn cael ei gyfrif wrth gyfrifo faint sy’n rhaid i chi dalu.

Lwfans Incwm Gwario

Dan reolau Deddf Ofal 2014 sy’n weithredol yn Lloegr yn unig, rhaid i’ch awdurdod lleol ganiatáu i chi gadw isafswm o incwm bob wythnos os ydych chi’n ffurfio cytundeb taliad gohiriedig.

Gelwir hyn yn Lwfans Incwm Gwario (DIA) ac mae wedi ei osod ar £144 yr wythnos. Bydd y lwfans yn rhoi digon o arian i chi dalu am unrhyw gostau atodol y mae’n rhaid i chi ddal i’w talu am eich cartref, fel yswiriant, biliau ynni a chostau cynnal a chadw.

Gallwch ddewis cyfrannu mwy tuag at gostau eich gofal a chadw llai na £144 yr wythnos pe dymunwch. Fodd bynnag, ni all yr awdurdod lleol eich gorfodi i wneud hyn.

Cael cyngor ariannol am dalu am ofal hirdymor

Gyda chymaint o gynnyrch ariannol i ddewis ohonynt, mae’n bwysig iawn eich bod yn cael cyngor ariannol cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Gall cael cyngor ariannol annibynnol da eich helpu i:

  • gael help arbenigol gyda deall system ofal gymhleth, yn arbennig os ydych chi’n wynebu’r straen o anghenion gofal brys
  • deall pa fudd-daliadau allech chi eu hawlio, a allai gyfrannu tuag at gost eich gofal
  • rhoi mwy o ddewis i chi o ran yr opsiynau cymorth gofal na fyddech wedi dod o hyd iddynt eich hun
  • eich caniatáu i wneud penderfyniad cwbl wybodus am yr opsiwn gofal gorau i chi

Bydd hyn yn eich helpu i ganfod datrysiad sydd:

  • yn addas i’ch anghenion gofal a chefnogaeth chi
  • yn fforddiadwy i chi nawr ac i’r dyfodol yn
  • yn cyd-fynd â’ch agwedd tuag at risg a’ch blaenoriaethau ariannol
  • yn gwneud yn siŵr y darperir ar gyfer eich dibynyddion
  • yn eich helpu i wneud y penderfyniadau priodol am eiddo sy’n berchen i chi
  • yn gwneud y defnydd gorau o’ch incwm, cynilion ac asedau

Dywed y Ddeddf Gofal bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd i’ch helpu i ganfod cyngor ariannol. Gall hyn amrywio o help i lenwi ffurflenni hawlio budd-daliadau i gael cyngor ariannol annibynnol wedi ei reoleiddio am sut i dalu eich costau gofal yn yr hirdymor a’r opsiynau ariannol sydd ar gael i chi.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i weld sut allant eich helpu chwilio am eich cyngor lleol

Dysgwch fwy am gael cyngor ariannol i ariannu’ch gofal hirdymor.

I gael gwybod mwy am sut mae’ch incwm yn effeithio ar daliadau gohiriedig, gweler:

  • Taflen Ffeithiau FirstStop 2 - Care home Fees and Treatment of Property
  • Taflen Ffeithiau Age UK 10 Talu am ofal preswyl parhausopens in new window

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?