Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
Os ydych chi wedi anghofio talu bil erioed, rydych chi’n gwybod bod hynny’n creu llawer o drafferth. Mae Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog yn newid hynny i gyd – maen nhw’n gwneud yn siŵr bod eich biliau chi’n cael eu talu’n awtomatig. Dysgwch sut a phryd i’w defnyddio, beth yw’r costau a sut mae datrys unrhyw broblemau.
Y gwahaniaeth rhwng Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
?
Peidiwch â chymysgu Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog gydag awdurdodau talu parhaus (CPAs). Dylid osgoi y rhain gan eu bod yn caniatau i gwmniau fel darparwyr benthyciadau diwrnod cyflog, neu rai gwasanaethau tanysgrifio neilltuol, gymryd yr arian y tybiant sydd arnoch iddynt, ar yr adeg pan gredant fod yr arian hwnnw’n ddyledus. Darllenwch ragor yn ein canllaw: Taliadau cylchol.
- Mae Debydau Uniongyrchol yn rhoi caniatâd i gwmni gymryd arian o’ch cyfrif banc ar ddyddiad a gytunir. Bydd angen i’r cwmni eich hysbysu ynglŷn ag unrhyw newid yn y swm neu’r dyddiad. Er enghraifft, gallech ddefnyddio Debyd Uniongyrchol i dalu’ch biliau nwy a thrydan.
- Mae archebion sefydlog yn rhoi cyfarwyddyd i fanc dalu union swm penodol i gyfrif arall yn rheolaidd. Er enghraifft, gallech sefydlu archeb sefydlog i dalu’ch rhent.
Beth yw Debyd Uniongyrchol?
Blwch testun: Yn ôl yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, rydych 24% yn llai tebygol o wynebu ffioedd gorddrafft heb eu trefnu os defnyddiwch ap bancio symudol a gwasanaeth rhybuddio drwy neges destun.
Pan sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol, rydych yn dweud wrth eich banc neu gymdeithas adeiladu am adael i sefydliad gymryd taliadau o’ch cyfrif.
- Yna gall y sefydliad gasglu faint bynnag sy’n ddyledus iddynt gennych chi, ond mae’n rhaid iddynt ddweud wrthych chi ymlaen llaw (deng niwrnod gwaith fel rheol) faint fyddant yn ei gymryd, pa bryd, a pha mor aml.
- Mae Debydau Uniongyrchol yn ddefnyddiol i dalu biliau rheolaidd, fel nwy neu drydan, yn enwedig os yw’r swm yn newid yn rheolaidd.
Beth sy’n dda amdanyn nhw?
-
Arbed amser ac ymdrech. Does dim angen poeni am gofio talu bil a does dim cosbau am dalu’n hwyr.
-
Cynilo arian. Mae llawer o ddarparwyr cyfleustodau (fel darparwyr nwy a thrydan) yn rhoi gostyngiad i chi am dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol.
-
Diogel a sicr. Bydd y banc yn talu unrhyw daliadau anghywir yn ôl i chi.
A oes unrhyw anfanteision?
-
Bydd angen i chi gadw rheolaeth ar bethau. Cadwch lygad ar eich Debydau Uniongyrchol a gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o arian i wneud y taliadau - ceisiwch sefydlu trefn atgoffa i chi’ch hun i wirio. Mae hyn yn rhwydd i’w wneud, yn enwedig os oes gennych chi fynediad ar-lein i’ch cyfrif. Os na gallech wynebu costau gan eich banc – gweler ‘Ydyn nhw’n costio unrhyw beth’ isod.
Pwy sy’n gallu eu defnyddio?
Unrhyw un gyda Chyfrif cyfredol a Chyfrif banc sylfaenol. Gellir defnyddio rhai cardiau rhagdaledig neu gyfrifon undeb credyd ond ni ellir gwneud hynny gyda chyfrifon cerdyn Swyddfa’r Post.
Fel rheol mae’n rhaid i chi fod dros 11 oed er mwyn defnyddio Debydau Uniongyrchol, gan ddibynnu ar eich cyfrif, felly holwch eich banc neu eich cymdeithas adeiladu.
Sut i sefydlu Debyd Uniongyrchol
- Bydd y sefydliad sy’n casglu’r taliadau’n dweud wrthych chi beth i’w wneud. Fel rheol rydych chi’n llenwi ffurflen ac yn ei hanfon atynt, neu’n ei sefydlu ar-lein neu dros y ffôn. Byddan nhw’n rhoi gwybod i’ch banc chi.
- Gallwch hefyd ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’ch banc.
Ydyn nhw’n costio unrhyw beth?
- Na. Nid yw banciau’n codi tâl arnoch am wneud neu sefydlu Debydau Uniongyrchol.
- Gwyliwch am daliadau a wrthodir. Os nad oes gennych ddigon o arian yn eich cyfrif i dalu Debyd Uniongyrchol gall eich banc wrthod gwneud y taliad a gall godi tâl arnoch - fel arfer rhwng £5 a £25. Hyd yn oed os byddant yn gwneud y taliad gallech fynd i’r coch heb sylwi – sy’n golygu y bydd raid i chi dalu ffioedd gorddrafft.
- Fodd bynnag, gyda’r ‘broses ailgynnig’ mae gennych chi tan 2pm - fel isafswm - i dalu arian i mewn i’r cyfrif ar gyfer y taliad pan fydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn ‘ailgynnig’ yn hwyrach yn y dydd. Bydd nifer o fanciau yn ceisio cysylltu â chi os bydd taliad wedi methu felly bydd gennych chi amser i roi’r arian yna i mewn. Os na fyddant yn cynnig hyn, ystyriwch newid i ddarparwr sydd. Dysgu mwy am y broses ailgynnig.
Beth os oes problem gyda Debyd Uniongyrchol?
?
Os oes gennych chi archebion sefydlog, Debydau Uniongyrchol neu Daliadau â Dyddiad yn y Dyfodol yn mynd allan o’ch cyfrif, gallai’r broses newydd o ‘geisio eto’ eich helpu i osgoi ffioedd. Gyda’r system hon, pan gaiff taliad ei wrthod gan nad oes digon o arian yn y cyfrif, mae gennych tan 2pm o leiaf i dalu arian i mewn i’r cyfrif er mwyn delio â’r taliad ac osgoi dirwy.
- Mae’r Gwarant Debyd Uniongyrchol yn eich gwarchod chi. Os bydd y banc neu’r sefydliad sy’n casglu’r Debyd Uniongyrchol yn gwneud camgymeriad (fel cymryd y swm anghywir), gallwch gael ad-daliad gan eich banc.
- Os cewch broblem gyda Debyd Uniongyrchol, dylech gysylltu â’ch banc.
Beth yw archeb sefydlog?
?
Gallwch ddefnyddio archeb sefydlog i drosglwyddo arian i’ch cyfrif cynilo yn awtomatig. Dechreuwch gyda swm bychan a gwyliwch eich cynilion yn tyfu.
Pan sefydlwch archeb sefydlog, rydych chi’n dweud wrth eich banc neu eich cymdeithas adeiladu am wneud taliadau rheolaidd i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu penodol.
- Nid ydynt yr un fath â Debydau Uniongyrchol. Maent yn talu’r union swm a ddewiswch, nid y swm sy’n ddyledus gennych chi i’r sefydliad.
- Gallwch eu sefydlu i ddal ati i dalu am gyfnod amhenodol, neu i orffen ar ddyddiad penodol neu ar ôl cyfres benodol o daliadau.
- Chi sy’n rheoli’n llwyr. Gallwch eu dechrau neu eu stopio neu newid y taliad pryd bynnag rydych chi’n dymuno.
- Mae archebion sefydlog yn ddefnyddiol ar gyfer talu costau sefydlog, fel eich rhent.
Beth sy’n dda amdanyn nhw?
-
Maent yn ddefnyddiol pan na allwch ddefnyddio Debyd Uniongyrchol. Er enghraifft, er mwyn gwneud taliadau rheolaidd i unigolyn, fel eich landlord.
-
Gallwch eu defnyddio i symud arian rhwng eich cyfrifon eich hun. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os oes arnoch eisiau talu swm penodol bob mis i gyfrif cynilo.
Pwy sy’n gallu eu defnyddio?
- Gallwch sefydlu Archebion Sefydlog o Gyfrifon cyfredol a Chyfrifon banc sylfaenol. Gellir defnyddio rhai cardiau rhagdaledig neu gyfrifon undeb credyd ar gyfer Archebion Sefydlog hefyd ond ni ellir gwneud hynny gyda chyfrifon cerdyn Swyddfa’r Post.
- Fel arfer mae’n rhaid i chi fod dros 11 i ddefnyddio archebion sefydlog gan ddibynnu ar eich cyfrif, felly holwch eich banc neu eich cymdeithas adeiladu.
Sefydlwch archeb sefydlog
- Gyda rhai banciau a chymdeithasau adeiladu, gallwch eu sefydlu ar-lein neu dros y ffôn.
- Gallwch lenwi ffurflen archeb sefydlog a’i rhoi i’ch banc. Bydd arnoch angen rhif y cyfrif a chod didoli y person rydych yn ei dalu.
- Gallwch ganslo archeb sefydlog ar unrhyw adeg, neu newid y swm neu ddyddiad y taliad
Ydyn nhw’n costio unrhyw beth?
- Na. Nid yw banciau yn codi ffi arnoch chi am sefydlu archebion sefydlog.
- Gwyliwch am daliadau a wrthodir. Os nad oes digon o arian yn eich cyfrif i dalu archeb sefydlog gall eich banc wrthod gwneud y taliad a gall godi tâl arnoch - fel arfer bydd y tâl hwnnw rhwng £5 a £25. Hyd yn oed os bydd y banc yn caniatáu’r taliad, gallech fynd i orddrafft heb sylwi – sy’n golygu y bydd raid i chi dalu taliadau a ffioedd gorddrafft
- Golyga’r ‘broses ailgynnig’ bod gennych chi tan 2pm ar y diwrnod - fel isafswm - i dalu arian i mewn i’r cyfrif ar gyfer y taliad pan fydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn ‘ailgynnig’. Bydd llawer o ddarparwyr yn cysylltu â chi ar y diwrnod os bydd taliad wedi methu. Mae hyn fel bod gennych chi amser i roi arian yn eich cyfrif. Os nad yw eich banc neu gymdeithas adeiladu yn gwneud hyn, ystyriwch newid i ddarparwr sydd. Dysgu mwy am y broses ailgynnigopens in new window.
Sut mae osgoi a datrys problemau gydag archebion sefydlog
- Adolygwch eich archebion sefydlog a thorri’n ôl ar wasanaethau nad oes eu hangen arnoch mwyach.
- Gwiriwch y manylion banc rydych chi’n eu rhoi ddwywaith, a’r swm a’r dyddiad talu.
- Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y taliad am y swm cywir os bydd yn newid. Er enghraifft ar gyfer taliad morgais os yw’r cyfraddau llog yn newid.
- Os cewch chi broblem gydag archeb sefydlog, cysylltwch â’ch banc.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?