Cyflogi rhywun i roi cymorth gyda’ch gofal

Gall gofalwyr neu gynorthwywyr personol roi cymorth i chi fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun. Os byddwch yn penderfynu penodi un yn uniongyrchol, gan ddefnyddio’ch arian eich hun neu drwy daliadau uniongyrchol, mae llawer i’w ystyried.

Beth all cynorthwyydd personol ei wneud i chi?

Yn fyr, rôl gofalwr neu gynorthwy-ydd personol yw eich cefnogi fel y gallwch fyw mor annibynnol â phosibl yn eich cartref eich hun. Efallai bydd yn gweithio am ychydig oriau’r wythnos yn unig, neu am nifer o oriau bob dydd (neu nos) ac yn helpu gydag amrywiaeth o dasgau fel:

  • gofal personol, fel ymolchi, gwisgo a defnyddio’r tŷ bach
  • paratoi prydau
  • siopa
  • cymorth gyda meddyginiaeth
  • gyrru neu’ch helpu i fynd o gwmpas
  • chefnogi gofalwyr teulu pan fydd angen seibiant arnyn nhw

Defnyddio taliadau uniongyrchol i benodi cynorthwyydd personol

Wyddoch chi?

Amcangyfrifir y bydd mwy na miliwn o gynorthwywyr personol yn gweithio yn y DU erbyn 2025.

Os ydych yn gymwys am gyllid i gael gofal cymdeithasol yn eich cartref, gallwch ddewis cael y taliadau’n syth i mewn i’ch cyfrif banc. Mae hynny’n golygu, yn lle cael cynorthwyydd personol sy’n cael ei ddarparu gan y cyngor, gallwch ei gyflogi’n uniongyrchol neu benodi asiantaeth gofal cartref i wneud hynny drosoch.

Defnyddio asiantaeth gofal cartref

I lawer o bobl, mae defnyddio asiantaeth gofal cartref yn llawer llai trafferthus. Ond nid yw’r un rheolaeth gennych dros rywun a fydd yn rhoi gofal a chymorth i chi o’i gymharu â phe byddech yn cyflogi rhywun fel eich cymhorthwr(wyr) personol.

Bydd yr asiantaeth yn ymdrin â phob taliad, treth ac yswiriant, a bydd yn gwneud gwiriadau heddlu ac yn ymchwilio i dystlythyrau. Fodd bynnag, efallai nad yr un person a fydd yn ymweld â’ch cartref bob amser. Ac, wrth gwrs, mae’n costio mwy – caniatewch £5 i £10 ychwanegol yr awr, gan ddibynnu ar eich anghenion gofal a ble rydych yn byw.

I ddod o hyd i asiantaeth gofal cartref, ewch i wefan y UK Home Care Association (UKHCA).

Cyflogi cynorthwyydd personol yn uniongyrchol

Mae’n amlwg bod rhai manteision yma. Drwy benodi rhywun eich hun, cewch fwy o ddewis a rheolaeth ar bwy sy’n gofalu amdanoch a pha dasgau a wna. Ond mae hefyd yn eich troi’n gyflogwr yn syth, gyda’r holl faterion cyfreithiol, ariannol ac ymarferol sydd ynghlwm wrth hynny.

Felly cyn dewis y llwybr hwn, bydd angen ichi ystyried llawer o bethau.

Cyflogi gofalwr neu gynorthwy-ydd personol

Oni bai bod rhywun rydych yn ei adnabod (efallai eich gofalwr asiantaeth neu gyngor), bydd angen ichi hysbysebu, cyfweld a gwneud gwiriadau. Ni fyddwch yn gallu talu ffrind nac aelod o’r teulu heblaw ei fod yn ofalwr cofrestredig. Gallai asiantaethau recriwtio godi tâl arnoch, ond gall fod yn werth hynny am y tawelwch meddwl ychwanegol.

Gwirio hawl rhywun i weithio yn y DU

A chithau’n gyflogwr, rhaid ichi sicrhau bod unrhyw ddarpar weithiwr yn gymwys i weithio yn y DU cyn ei gyflogi. Gofynnwch am weld pasbortau pobl neu brawf adnabod arall i brofi eu bod yn dod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu fod ganddynt fisa i weithio yma. Cofiwch gadw copi o’r gwaith papur.

I gael gwybod rhagor am yr hawl i weithio yn y DU, ewch i wefan y Swyddfa Gartref.

Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (gwiriadau CRB yn flaenorol)

Enwir Gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) yn awr yn wiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), neu wiriadau Diogelu Grwpiau Bregus (PVG) yn yr Alban. Rhaid i chi gael copi o’r gwiriad CRB ar gyfer unrhyw un rydych yn gobeithio eu gyflogi cyn i chi roi cyfweliad iddynt neu eu gadael i mewn i’ch cartref.

  • Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, cewch ragor o wybodaeth am wiriadau DBS ar y wefan GOV.UK.
  • Os ydych yn byw yn yr Alban, cewch ragor o wybodaeth ynglŷn â gwiriadau PVG ar wefan Disclosure Scotland.
  • Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi ofyn i’ch ymddiriedolaeth lleol neu sefydliad gwirfoddol lleol i gyflwyno’r cais am wybodaeth i’r DBS ar eich rhan. Dysgwch ragor ar wefan yr Adran Gyfiawnder.

Llunio cytundeb cyflogaeth ar gyfer gofalwr neu gynorthwy-ydd personol

Bydd angen ichi ddarparu datganiad ysgrifenedig o gyflogaeth, gan gynnwys y tasgau penodol y dylai’r cynorthwyydd personol eu darparu, lle gwaith, oriau gwaith, cyfradd dalu, hyd y gyflogaeth a hawl i wyliau.

Cyflog a threth

Rhaid ichi dalu’r isafswm cyflog o leiaf i’ch cynorthwyydd personol – yn realistig, rydych yn sôn am £10 yr awr, neu’n agosach at £12 os yw’ch anghenion gofal yn fwy cymhleth. Efallai hefyd y byddwch yn gyfrifol am ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol o’i gyflog.

Cewch wybod rhagor am dreth ac Yswiriant Gwladol wrth gyflogi pobl yn eich cartref eich hun ar wefan Cyllid a Thollau EM (HMRC)yn agor mewn ffenestr newydd.

Amser i ffwrdd, tâl salwch a thâl gwyliau

Bydd rhaid ichi dalu’r rhain, ond bydd hefyd angen ichi ddod o hyd i rywun i gymryd lle’r gweithiwr. Mae gan eich gofalwr neu’ch cynorthwyydd personol hawl:

  • i egwyliau gorffwys
  • i uchafswm o oriau gwaith mewn unrhyw wythnos
  • i dâl gwyliau
  • i dâl salwch (gan amlaf)

Yswiriant

A chithau’n gyflogwr, rhaid ichi gael Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus. Dylai fod eich taliadau uniongyrchol yn gallu helpu tuag at gost hyn, ond bydd yn dibynnu ar eich awdurdod lleol.

Defnyddio gofalwr neu gynorthwy-ydd personol i reoli eich taliadau uniongyrchol

Mewn rhai achosion, gall cynorthwywyr personol gael a rheoli taliadau uniongyrchol gan y cyngor – a hynny fel arfer ar ran rhywun sydd heb y gallu meddyliol i wneud hynny ei hun ac fel arfer gan fod teulu’r unigolyn wedi gofyn am y trefniant.

Yn amlwg, mae risgiau yn hyn o beth ac, yn arbennig, rhaid gwarchod oedolion sy’n agored i niwed rhag twyll. Felly, cyn cytuno i drefniant felly, rhaid bodloni’r awdurdod lleol fod y cynorthwyydd personol neu’r gofalwr yn ‘berson addas’ ac y bydd yn ymddwyn er budd pennaf y cleient.

Gofynnwch i’ch awdurdod lleol ddarparu manylion ysgrifenedig ei broses i sicrhau bod cynorthwyydd personol yn ‘berson addas’.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?