Defnyddio sieciau a drafftiau banc

Cyflwynir drafftiau a sieciau banc yn yr un modd fwy neu lai, ond cânt eu cyhoeddi mewn dulliau gwahanol. Mae drafft banc yn rhagdaledig a chaiff ei gyhoeddi gan y banc. Nid yw siec, ar y llaw arall, yn rhagdaledig. Gall y ddau fod yn ddefnyddiol mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Sut allwch chi ddefnyddio siec?

Gallwch ddefnyddio siec i dalu rhywun, neu i gael eich talu gan rywun.

Dim ond gan rywun rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo ddylech chi dderbyn siec.

  • Talu rhywun. Gallwch dalu unrhyw un gyda siec, os ydyn nhw’n dewis ei derbyn. Mae rhai busnesau wedi penderfynu peidio â derbyn sieciau am fod ychydig o risg yn gysylltiedig os bydd y siec yn bownsio.
  • Cael eich talu. Dim ond gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddo ddylech chi dderbyn sieciau. Os yw’r siec yn un ffug, neu os nad oes gan y person ddigon o arian i dalu, gall fod yn anodd cael gafael ar yr arian.

Nodweddion sylfaenol ysgrifennu sieciau

Mae ysgrifennu sieciau’n syml ac yn ddiogel, ar yr amod eich bod chi’n llwyddo i ddeall y nodweddion sylfaenol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn:

  • Ysgrifennu enw’r unigolyn neu’r sefydliad rydych chi’n talu iddo.
  • Rhowch linell drwy unrhyw fylchau gwag ar y siec fel nad yw pobl yn gallu ychwanegu rhifau neu enwau ychwanegol.
  • Ychwanegwch fanylion (fel cyfeirnod neu rif cyfrif) at linell y talai. Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod yr arian yn cyrraedd y lle priodol.
  • Cofiwch gadw bonyn y siec a fydd yn cynnwys manylion a chyfeirnod y siec.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddigon o arian yn eich cyfrif i dalu gwerth y siec hyd nes y bydd yr unigolyn wedi ei thalu i mewn a’r arian wedi cael ei dynnu. Os na wnewch hynny, gallai rhai banciau godi ffi arnoch am y taliad a fownsiodd.

Pryd mae’r arian yn gadael/ cyrraedd eich cyfrif?

  • Pan ysgrifennwch siec, fel rheol mae’r arian yn gadael eich cyfrif dri diwrnod gwaith ar ôl i’r unigolyn dalu eich siec i mewn.
  • Pan dalwch siec i mewn, byddwch yn gallu defnyddio’r arian bedwar diwrnod gwaith yn ddiweddarach – ond ni fyddwch yn siŵr fod y siec wedi clirio (yr arian yn eiddo i chi) tan chwe niwrnod gwaith ar ôl i chi ei thalu i mewn. Os byddwch yn defnyddio’r arian yn y cyfamser, efallai bydd raid i chi ei dalu yn ôl.

Nid oes gan sieciau ddyddiad terfyn ond mae’n arferiad i wrthod siec a gyflwynir ar gyfer taliad sydd â dyddiad yn mynd yn ôl chwe mis a mwy. Mae hyn yn ôl disgresiwn y banc neu gymdeithas adeiladu.

Stopio sieciau a phroblemau eraill gyda sieciau

Stopio siec

Os credwch i chi wneud camgymeriad, er enghraifft wedi ysgrifennu enw anghywir ar eich siec, neu wedi ei cholli, gallwch ofyn i’ch banc ei chanslo. Codir ffi am hyn fel arfer.

Cofiwch gadw bonyn y siec a fydd yn cynnwys manylion a chyfeirnod y siec.

Mae’n werth cofio ei bod hi’n drosedd cyflwyno siec gan wybod y bydd hi’n bownsio neu eich bod yn bwriadu ei chanslo.

Cael gwybod a fydd siec yn clirio

Os nad oes gan yr unigolyn sy’n ysgrifennu’r siec ddigon o arian neu os yw’n cyflawni twyll, efallai na fydd y siec yn cael ei thalu a bydd yn ‘bownsio’. Golyga hyn na fyddwch yn medru cadw’r arian.

Os oes arnoch angen cael gwybod ar frys a fydd siec yn bownsio gallwch ofyn am ‘gyflwyniad arbennig’. Bydd eich banc yn anfon y siec i ffwrdd i’r banc sy’n talu gyda phost dosbarth cyntaf ac yn ei ffonio y diwrnod canlynol i gadarnhau y bydd yn cael ei thalu. Codir ffi arnoch chi am y gwasanaeth hwn.

Ni fyddwch yn cael yr arian yn gynt, ond byddwch yn cael gwybod a ydych yn mynd i’w gael o gwbl.

Gwrthod sieciau gyda’r dyddiad arnynt yn rhy hen

Fel rheol mae banciau’n gwrthod sieciau sy’n hŷn na chwe mis. I osgoi problemau gyda sieciau gyda’r dyddiad arnynt yn rhy hen:

  • Dylech dalu pob siec i mewn cyn gynted â phosibl.
  • Os bydd rhywun rydych chi wedi talu iddo’n gofyn i chi am siec arall, gan ddweud ei fod wedi colli’r siec wreiddiol neu fod y dyddiad arni’n rhy hen – gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i’ch banc stopio’r siec flaenorol i ddechrau.

Sieciau wedi’u dyddio ymlaen

Mae siec wedi’i dyddio ymlaen yn un gyda dyddiad yn y dyfodol arni.

Peidiwch ag ysgrifennu na derbyn sieciau sydd wedi’u dyddio ymlaen – os byddwch chi’n talu siec wedi’i dyddio ymlaen i mewn efallai y caiff ei dychwelyd atoch chi heb ei thalu.

Beth yw drafft banc?

Fel rheol mae’n rhaid i chi roi rhybudd o 24 awr i fanc i baratoi drafft banc ac mae’n debygol o godi ffi arnoch chi am y gwasanaeth.

Mae cael drafft banc fel gofyn i fanc ysgrifennu siec i chi.

Rydych chi’n rhoi eich arian chi i’r banc ac mae’r banc yn rhoi siec i chi am y swm hwnnw, i’w rhoi i’r person rydych chi’n talu iddo. Am y rheswm hwn nid ydynt yn bownsio oherwydd prinder arian.

Faint o amser mae drafft banc yn ei gymryd i glirio?

Mae’r arian ar ddrafft banc ar gael am bedwar niwrnod wedi iddo gael ei dalu i mewn.

Fodd bynnag, ni fyddwch yn siŵr fod y siec wedi clirio (yr arian yn eiddo i chi) tan chwe niwrnod gwaith ar ôl i chi ei thalu i mewn. Os byddwch yn defnyddio’r arian yn y cyfamser, efallai bydd raid i chi ei dalu yn ôl.

Pryd ddylech chi ddefnyddio un?

Yn aml iawn defnyddir drafftiau banc ar gyfer symiau mwy pan na fydd pobl na sefydliadau’n derbyn siec bersonol.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch drosglwyddo arian i’ch cyfrif banc ac oddi yno a all fod yn gynt ac yn fwy diogel na defnyddio drafft banc.

chwiliwch am ffyrdd eraill i Dalu i mewn i’ch cyfrif banc.

Defnyddio drafftiau a sieciau banc yn ddiogel

  • Byddwch yn ofalus wrth dderbyn drafft banc. Yn enwedig ar gyfer symiau uwch oherwydd y nifer o ddrafftiau ffug a gyflwynir. Er enghraifft, taliadau am geir.
  • Nid yw drafftiau banc wedi’u gwarantu rhag twyll. Os byddwch chi’n colli drafft o’r fath neu os caiff ei ddwyn, gallai rhywun arall ei ddefnyddio mewn ffordd dwyllodrus. Byddwch yn ofalus iawn.
  • Cadwch gofnod o bob siec ac ysgrifennwch ar fonyn eich llyfr siec. Gwiriwch y rhain yn erbyn eich cyfriflen a rhowch wybod i’ch banc ar unwaith am unrhyw broblemau.
  • Ar gyfer symiau mwy, defnyddiwch ddrafft banc neu drosglwyddiad banc. Dysgwch am Wneud trosglwyddiad banc dros y ffôn ac ar-lein.
I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch, neu unrhyw agweddau eraill ar ddefnyddio sieciau a drafftiau banc, ewch i wefan Cwmni Clirio Sieciau a Chredyd.