Diogelu eich hawliau ar berchen cartref wrth wahanu os oeddech chi’n cyd-fyw

Os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner, ond nid ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, gall fod camau ar gael i chi fedru diogelu eich hawliau cartref. Bydd beth allwch chi ei wneud yn dibynnu ar bwy sydd yn berchen ar yr eiddo. Dysgwch pa gamau y dylech chi eu cymryd.

Sut fath o berchnogaeth sydd i’ch cartref

Chi sydd piau eich cartref (y cyfan neu ran ohono) os yw’ch enw chi ar ddogfen gyfreithiol o’r enw gweithredoedd teitl. Gall eich cartref fod ym mherchnogaeth:

  • un ohonoch, sy’n golygu ei fod yn enw un ohonoch
  • ar y cyd, gan y ddau ohonoch (ac mae mathau gwahanol o berchenogaeth ar y cyd); neu
  • gan rywun arall (fel aelod o’r teulu)

Gall y modd yr ydych chi’n berchen ar eich cartref effeithio ar y camau y bydd angen i chi eu cymryd yn y dyddiau cynnar.

Eiddo ym mherchnogaeth un ohonoch

Os yw’ch cyn bartner yn berchen ar gartref y teulu yn ei enw ef neu hi yn unig, nid oes gennych hawl cyfreithiol fel mater o drefn i aros yno.

Gall eich partner:

  • eich troi allan heb gael gorchymyn llys
  • osod neu werthu’r cartref heb eich caniatâd chi
  • gymryd benthyciad yn erbyn yr eiddo heb eich caniatâd chi

Sefydlu’ch diddordeb chi yn yr eiddo

Os ydych wedi talu tuag at y morgais, neu dalu tuag at welliannau neu estyniad, efallai y byddwch chi’n medru sefydlu diddordeb yn eich cartref. Golyga hyn fod y llys yn cydnabod bod gennych yr hawl:

  • i barhau i fyw yn yr eiddo
  • i gael cyfran o’i werth pan gaiff ei werthu

Bydd eich hawliau chi i’r eiddo, a’r hyn sydd yn rhaid i chi ei wneud er mwyn cofrestru hynny, yn dibynnu ymhle yn y DU yr ydych yn byw:

  • Yng Nghymru a Lloegr: Pa un a ydych wedi gwneud unrhyw gyfraniadau ariannol neu beidio, efallai y gallech gael ‘gorchymyn meddiannaeth’, ond byddech angen defnyddio cyfreithiwr i wneud hyn. Er eich bod wedi cyfrannu tuag at y morgais, nid yw hyn yn golygu fel mater o drefn bod hawl gennych i gael cyfran o eiddo’ch cyn bartner. Ond nid yw’n angenrheidiol eich bod wedi arwyddo dogfen gyfreithiol ffurfiol gyda’ch cyn bartner i hawlio’r hyn a elwir yn ‘ddiddordeb buddiol’ yn yr eiddo.
  • Yng Ngogledd Iwerddon: Efallai y gallech gael ‘gorchymyn meddiannaeth’, ond byddech angen defnyddio cyfreithiwr i wneud hyn. Efallai y byddwch yn medru cofrestru rhybudd neu ‘Lis pendens’ gyda’r Gofrestrfa Tir ac Eiddo berthnasol os credwch fod gennych chi ddiddordeb yn yr eiddo. Golyga hyn na fydd hi’n bosib gwerthu’r eiddo heb i chi gael gwybod.
  • Yn yr Alban: Os ydych yn dymuno parhau i fyw yn y cartref teuluol neu y credwch fod gennych hawl i gael cyfran o’i werth, efallai y gallech chi ymgeisio i’r llys i gael ‘hawliau meddiannaeth’. Nid yw’n broses mater o drefn; yn hytrach, bydd y llys yn ystyried nifer o ffactorau, yn cynnwys a oes gennych chi blant, unrhyw le arall i fyw, ac am ba hyd y buoch chi’n byw yno. Gall y partner wrthwynebu rhoi hawliau meddiannaeth i chi.

Mae’n faes cymhleth ac mae’n beth doeth cael cyngor gan gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn manylion perthynas byw ar y cyd. Gallwch siarad â chynghorwr o elusen hawliau tai hefyd.

Eiddo sy’n perthyn i’r ddau ohonoch

Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi cyngor i chi am y ffordd orau i fod yn berchen ar eich cartref ar y cyd pan brynoch chi’r eiddo. Y ddau ddewis ar gyfer hyn yw:

  • Tenantiaid ar y cyd (a elwir yn ‘berchnogion ar y cyd gyda chyrchfan goroesedd’ yn yr Alban) – lle mae’r berchnogaeth yn gyfartal ar y cyd rhyngoch. Pan fydd un ohonoch yn marw, mae’r llall yn etifeddu cyfran y partner a gollwyd, waeth beth a nodir yn ewyllys y partner neu os oes gan y partner ewyllys neu beidio.
  • Tenantiaid ochr yn ochr (a elwir yn berchnogion ar y cyd yn yr Alban) – lle mae’r naill ohonoch yn berchen ar gyfran o’r eiddo. Gallwch rannu’r berchnogaeth yn gyfartal rhyngoch (50:50) neu gallwch benderfynu y bydd un yn berchen ar gyfran uwch na’r llall. Bydd eich cyfran chi o’r eiddo’n cael ei drosglwyddo i bwy bynnag a enwir gennych yn eich ewyllys.

Mae nifer o gyplau sy’n byw ar y cyd yn berchen ar eu heiddo fel ‘tenantiaid ochr yn ochr’ (neu berchnogion ar y cyd yn yr Alban). Serch hynny, nid yw pawb yn gwneud felly, felly dylid gwirio.

Darganfod sut fath o berchnogaeth ar y cyd sydd ynghlwm â’ch eiddo

Os nad ydych yn gwybod sut fath o berchnogaeth sydd gennych ar eich cartref, dylech geisio canfod hynny. Bydd sut y gwnewch hynny’n dibynnu ymhle yn y DU rydych yn byw.

  • Yng Nghymru a Lloegr: Os cafodd eich cartref ei gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir gallwch gynnal chwiliad, sy’n costio £3 ar hyn o bryd. Os yw’n perthyn i ‘denantiaid ochr yn ochr’, bydd y geiriau ‘cyfyngiad Ffurf A’ wedi eu nodi wrth ymyl y wybodaeth am berchnogaeth.
  • Yng Ngogledd Iwerddon: Gallwch ganfod sut fath o berchnogaeth sydd ar eich cartref drwy gynnal chwiliad ar un o dair o Gofrestri Tir ac Eiddo. Dysgwch sut i gynnal chwiliad arnynt ar wefan NI Direct.
  • Yn yr Alban: Gallwch ganfod sut fath o berchnogaeth sydd ar eich cartref drwy gynnal chwiliad ar wefan Cofrestri’r Alban. Mae ffi ar gyfer gwneud hyn, sydd fel arfer yn costio tua £11-£14 a TAW.

A ddylech chi newid y berchnogaeth?

Os ydych yn berchen ar yr eiddo fel tenantiaid ar y cyd – (neu ‘berchnogion ar y cyd gyda chyrchfan goroesedd’ yn yr Alban) – efallai yr hoffech chi newid y berchnogaeth i denantiaid ochr yn ochr, neu ‘berchnogion ar y cyd’ yn yr Alban. Y rheswm dros wneud hyn yw rhag ofn i chi farw cyn i’r gwahaniad gael ei gwblhau. Petaech chi’n marw cyn i chi gytuno beth i’w wneud gyda’r cartref teuluol, byddai’ch cyfran chi o’r eiddo’n trosglwyddo i’ch cyn bartner.

Petaech chi’n newid y berchnogaeth, byddai’n golygu na fyddech fel mater o drefn yn etifeddu cyfran eich partner os digwydd i’ch partner farw cyn i chi gwblhau’r gwahaniad.

Mae’r broses o newid perchnogaeth yn amrywio ledled y DU.

Newid y berchnogaeth yng Nghymru a Lloegr

Yng Nghymru a Lloegr: gelwir hyn yn ‘terfynu’r denantiaeth ar y cyd’ ac mae’n broses ddigon syml. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ysgrifennu at eich cyn bartner a dweud eich bod yn dymuno torri’r denantiaeth ar y cyd. Nid yw’n ofynnol i’ch cyn bartner gytuno gyda’ch dymuniad i wneud hyn.

Os yw’r eiddo wedi’i gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir, gallwch gwblhau ffurflen SEV, sydd ar gael i’w lawrlwytho o wefan y Gofrestrfa Tir.

Newid y berchnogaeth yng Ngogledd Iwerddon

Byddwch angen cymorth cyfreithiwr os dymunwch newid perchnogaeth o denantiaid ar y cyd i denantiaid ochr yn ochr. Bydd y broses yn dibynnu ar a yw’ch eiddo wedi’i gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir (mae tua 25% o dir Gogledd Iwerddon heb ei gofrestru) neu’r Gofrestrfa Weithredoedd.

Fel arfer bydd angen i chi gael eich cyn bartner i gytuno i chi newid y denantiaeth o denantiaid ar y cyd i denantiaid ochr yn ochr. Bydd angen i chi ofyn hefyd i gyfreithiwr ddrafftio amodau newydd y denantiaeth a chofrestru hynny ar deitl yr eiddo. Bydd raid i chi dalu ffi i’r Gofrestrfa Tir neu i’r Gofrestrfa Weithredoedd i newid y berchnogaeth. Bydd eich cyfreithiwr yn codi ffi fel arfer hefyd.

Newid y berchnogaeth yn yr Alban

Mae newid perchnogaeth o berchnogion ar y cyd gyda chyrchfan goroesedd, i berchnogion ar y cyd, yn weithdrefn gymhleth iawn. Nid yw’n rhywbeth y dylech geisio ei wneud heb gyngor cyfreithiwr cyfraith teulu.

Cysylltu â’ch darparwr morgais

Os yw’ch enw ar y morgais, rydych yn gyfrifol am y ddyled gyfan, hyd yn oed os yw’n forgais ar y cyd ag eraill. Cysylltwch â’ch darparwr morgais os credwch y byddwch yn cael trafferth talu’r morgais, neu eich bod yn pryderu na fydd eich cyn bartner yn gwneud y taliadau a gytunwyd ganddo neu ganddi.

Efallai y bydd y darparwr morgais yn medru anfon copïau o gyfriflenni atoch. Os yw’n forgais ar y cyd, dylech wirio hefyd a allwch chi hefyd rwystro’ch cyn bartner rhag ymgeisio i gynyddu’r morgais.

Efallai eich bod yn gymwys i gael cymorth gyda thaliadau morgais os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau neilltuol. Darllenwch ragor yn ein canllaw Help gan y llywodraeth os na allwch chi dalu’ch morgais.

Eich cam nesaf

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?