Egluro taliadau uniongyrchol

Mae talu am eich gwasanaethau cymorth a gofal eich hun ag arian a gafwyd yn uniongyrchol gan eich cyngor lleol yn rhoi annibyniaeth, dewis a rheolaeth i chi, ond mae anfanteision hefyd wrth reoli’ch cyllideb gofal eich hun.

Beth yw taliadau uniongyrchol?

Os yw’ch awdurdod lleol (neu’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) yn cytuno i ariannu rhywfaint neu’r cyfan o’ch gwasanaethau gofal, byddwch yn cael dewis rhwng:

  • y cyngor yn darparu’r gwasanaethau’n uniongyrchol ichi
  • cael taliadau uniongyrchol gan y cyngor, a threfnu’ch gwasanaethau cymorth a gofal eich hun a thalu amdanynt eich hun

I gael taliadau uniongyrchol, mae angen ichi gysylltu’n gyntaf â’ch cyngor lleol neu’ch ymddiriedolaeth leol i ofyn iddynt asesu’ch anghenion gofal. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol, ac efallai bydd angen ichi ychwanegu ychydig o’ch arian eich hun ato.

Sut mae taliadau uniongyrchol yn gweithio?

Mae taliadau uniongyrchol yn mynd yn syth i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa’r Post neu Gynilion Cenedlaethol, ond ni allwch wario’r arian ar unrhyw beth – rhaid i’r cyngor fod yn fodlon ei fod yn mynd tuag at anghenion gofal dilys a’r gwasanaethau y cytunwyd arnynt yn eich cynllun gofal.

Mae cynllun gofal yn gytundeb ysgrifenedig rhyngoch chi a’ch swyddog iechyd proffesiynol a/neu’r gwasanaethau cymdeithasol i roi cymorth i chi reoli’ch gofal a’ch lles o ddydd i ddydd.

Mae’r cynllun gofal yn seiliedig ar yr hyn a ddymunwch, felly chi sy’n rheoli. Mae’r holl wybodaeth yn eich cynllun gofal yn breifat a chewch ei rhannu fel y mynnwch.

Cewch adolygiad o’ch cynllun gofal unwaith y flwyddyn o leiaf. Cewch ofyn am adolygiad hefyd os teimlwch nad yw’r cynllun yn gweithio neu os bydd pethau eraill yn eich bywyd yn newid.

Gallai taliadau uniongyrchol fod yn addas i chi:

  • os ydych am gadw’ch gwasanaethau cymorth a gofal eich hun neu gael rheolaeth arnynt
  • os ydych am fwy o ddewis wrth ddewis y cynhyrchion a’r gwasanaethau sy’n bodloni’ch anghenion penodol
  • rydych yn hyderus gydag arian a gwaith papur neu fod gennych chi bobl i roi cymorth i chi gyda hynny
  • os ydych yn fodlon cadw derbynebau ac anfonebau a chyflwyno’r rhain i’r gwasanaethau cymdeithasol mewn pryd

Mae’n debygol nad yw taliadau uniongyrchol yn addas i chi:

  • rydych yn teimlo’n anesmwyth am fod yn gyflogwr – efallai bydd angen i chi reoli’r bobl sy’n gofalu amdanoch, er mae cymorth ar gael i wneud y trefniadau hynny
  • nid ydych yn hyderus am gadw cofnodion gofalus a ffeilio dogfennau pwysig fel derbynebau, yn ddiogel, er mae cymorth i wneud y trefniadau hynny ar gael
  • os ydych yn treulio cyfnodau aml neu hir yn yr ysbyty
  • os ydych yn fodlon gadael i’ch awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau gofal i chi

Sut i wneud cais am daliadau uniongyrchol

Os ydych eisoes yn cael gwasanaethau gofal, holwch eich cyngor lleol am daliadau uniongyrchol. Os ydych yn gwneud cais am wasanaethau gofal am y tro cyntaf, dylai’ch gweithiwr cymdeithasol drafod y dewis taliadau uniongyrchol gyda chi pan fydd yn asesu’ch anghenion gofal.

Os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Loegr gwnewch gais am daliadau uniongyrchol trwy wefan GOV.UK.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch ragor am daliadau uniongyrchol ar wefan nidirectyn agor mewn ffenestr newydd.

Beth sydd gan eraill i’w ddweud am daliadau uniongyrchol

Enghraifft 1

“Cymerodd flynyddoedd imi gael gofalwyr y gallwn ddibynnu arnyn nhw, a theimlo’n gyffyrddus gyda nhw yn fy nghartref fy hun. Roedd Joan a Derek fel teulu wedyn, yn sydyn, dywedodd y cyngor wrthyf ei fod yn rhoi’r contract i gwmni preifat.”

“Roedd Joan a Derek yn mynd i golli eu swyddi felly gofynnais iddyn nhw a fydden nhw’n ystyried gweithio imi’n uniongyrchol. Roedden nhw wrth eu boddau a chytunodd yr adran gwaith cymdeithasol hefyd – doedden nhw ddim am imi ddioddef unrhyw aflonyddu pellach.

“Mae’r cyngor yn talu’r arian yn syth i’m cyfrif Swyddfa’r Post a fi sy’n talu Joan a Derek. Mae ychydig o waith papur ychwanegol i’w gwblhau ond mae fy mab yn rhedeg ei fusnes ei hun, felly mae e’n cadw trefn arnaf.” – George

Enghraifft 2

“Roedden ni’n briod ers 45 mlynedd a thra byddwn i’n magu’r plant, byddai Jim bob amser yn gofalu am yr ochr ariannol. Ac yntau wedi mynd, rwy’n cael trafferth.”

“Dw i’n gallu ymdopi â’r biliau ond byddwn ar goll petawn i’n gorfod talu gofalwyr a’u tebyg. A beth am y ramp a’r rheiliau newydd a osododd y cyngor fis diwethaf? Fyddwn i ddim wedi gwybod ble i ddechrau trefnu hynny.”

“Na, rwy’n ddigon bodlon i’r cyngor ddelio â’r cyfan – gallaf siarad â gweithwyr cymdeithasol unrhyw bryd os wyf yn poeni am rywbeth.” – Maureen

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?