Eich hawliau cyfreithiol wrth wynebu dileu swydd

Os ydych yn wynebu dileu’ch swydd, rhaid i’ch cyflogwr eich trin yn deg ac ymddwyn yn unol â’ch contract a hawliau dileu swydd cyfreithiol. Mae hynny’n cynnwys sicrhau ei fod yn ymgynghori â chi, bod y broses ddewis gywir yn cael ei dilyn a’ch bod yn cael rhybudd priodol cywir. Os na, fe allech hawlio am ddiswyddo annheg, neu gallech hawlio iawndal am ddiffyg ymgynghori.

Eich hawl i broses deg

Mae dileu swydd yn digwydd pan fydd eich swydd yn diflannu. Nid yw’r un fath â chael eich diswyddo am resymau eraill

Rhaid i’ch cyflogwr ddefnyddio ffordd deg a gwrthrychol o ddewis swyddi i’w dileu, a rhoi gwybod ichi am y ffordd honno. Os ydych yn credu y cawsoch eich dewis yn annheg (er enghraifft, ar sail oedran, hil neu ryw), neu fod eich cyflogwr wedi ymddwyn yn annheg mewn ffyrdd eraill, gallwch apelio fel arfer. Os na fyddwch yn fodlon o hyd, gallwch ddwyn achos tribiwnlys yn erbyn eich cyflogwr.

Eich hawl i gyfnod rhybudd lleiaf

Blwch testun: Cofiwch ddarllen eich contract cyflogaeth, oherwydd gall nodi eich bod yn gallu hawlio cyfnodau rhybudd hirach.

Cyfnod rhybudd yw’r cyfnod o amser rhwng pan fydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i chi y byddwch yn cael eich diswyddo a’ch diwrnod gwaith olaf.

Yn ôl cyfraith dileu swydd, rydych yn gallu hawlio’r cyfnodau rhybudd lleiaf canlynol:

  • O leiaf wythnos o rybudd os ydych wedi’ch cyflogi rhwng mis a dwy flynedd.
  • Wythnos o rybudd am bob blwyddyn os ydych wedi’ch cyflogi rhwng dwy a 12 mlynedd.
  • 12 wythnos o rybudd os ydych wedi’ch cyflogi ers 12 mlynedd neu fwy.

Tâl yn lle rhybudd

Os nad yw’ch cyflogwr am ichi weithio eich cyfnod rhybudd, gall gynnig cyfandaliad ichi yn lle hwnnw – sef tâl yn lle rhybudd. Caiff tâl yn lle rhybudd ei drethu yn yr un ffordd â’ch cyflog arferol.

Absenoldeb garddio (absenoldeb gardd)

Mae’n bosibl y bydd gofyn ichi fod i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer eich rhybudd dileu swydd. Yr enw ar hyn yw ‘absenoldeb garddio’ ac, er na fyddwch yn gweithio mewn gwirionedd, mae’n golygu eich bod wedi’ch cyflogi’n gyfreithiol o hyd ac y byddwch yn cael eich cyflog a’ch buddion arferol ond:

  • Rhaid ichi gadw at reolau’ch contract
  • Fe allech gael eich galw’n ôl i’r gwaith os bydd eich angen
  • Ni allwch ddechrau swydd gyda chyflogwr newydd

Trefniadau cyfaddawd

Os nad yw’ch cyflogwr wedi dilyn gweithdrefn deg wrth ddewis dileu’ch swydd, gall ofyn weithiau ichi lofnodi cytundeb sy’n datgan na fyddwch chi’n mynd i dribiwnlys cyflogaeth (a hynny’n aml yn gyfnewid am dâl ychwanegol). ‘Cytundeb cyfaddawd’ yw’r enw ar hwn. Rhaid i’ch cyflogwr dalu ichi gael cyngor cyfreithiol annibynnol er mwyn ichi ddeall yn llwyr yr hawliau rydych chi’n eu hildio.

Eich hawl i ymgynghoriad

Rhaid i gyflogwyr ymgynghori bob amser â’u cyflogeion cyn eu diswyddo ar sail dileu swydd. Yn fyr, rhaid i’ch cyflogwr ddweud wrthych beth sy’n digwydd a rhoi cyfle ichi ofyn cwestiynau a chodi gwrthwynebiadau.

Yn rhan o’r broses ymgynghori, rhaid i gyflogwyr:

  • Ystyried dewisiadau yn lle dileu swyddi
  • Ystyried ffyrdd o leihau nifer y swyddi sy’n cael eu dileu
  • Ystyried y ffordd y gallant leihau’r caledi a ddaw o ganlyniad

Bydd y broses y mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei dilyn yn dibynnu ar nifer y swyddi y bwriedir eu dileu.

Mathau o ymgynghoriadau sydd eu hangen a’r cyfnodau perthnasol

Nifer y cyflogeion i ddileu eu swyddi Math o ymgynghoriad sydd ei angen Amseru’r ymgynghoriad
Llai nag 20 o gyflogeion Mae angen i’ch cyflogwr ymgynghori â chi yn unigol yn unig. Ymhen amser rhesymol
20–99 o gyflogeion Rhaid i’ch cyflogwr gynnal ymgynghoriad ar y cyd. Mae hyn yn golygu ymgynghori â’ch cynrychiolydd undeb os oes un neu, os nad oes un o’r rheini, ymgynghori â’ch cynrychiolydd/cynrychiolwyr cyflogeion etholedig.

Mae’n arfer da iddynt ymgynghori â phob un ohonoch yn unigol hefyd.

Os bydd y cyflogeion yn penderfynu peidio ag ethol cynrychiolydd, bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ag unigolion yn unig.
30 diwrnod cyn y diswyddiad cyntaf
100+ o gyflogeion Rhaid i’ch cyflogwr gynnal ymgynghoriad ar y cyd. Mae hyn yn golygu ymgynghori â’ch cynrychiolydd undeb os oes un neu, os nad oes un o’r rheini, ymgynghori â’ch cynrychiolydd/cynrychiolwyr cyflogeion etholedig.

Mae’n arfer da iddynt ymgynghori â phob un ohonoch yn unigol hefyd.

Os bydd y cyflogeion yn penderfynu peidio ag ethol cynrychiolydd, bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ag unigolion yn unig.
45 diwrnod cyn y diswyddiad cyntaf

Ymgynghoriad unigol

Dylai’ch cyflogwr drefnu cyfarfod â chi er mwyn egluro beth sy’n digwydd a pham.

  • Gallwch ofyn am gael cwmni cynrychiolydd cyflogeion neu undeb llafur.
  • Gallwch godi gwrthwynebiadau ac awgrymu dewisiadau yn lle dileu swyddi, er enghraifft gwaith arall, gweithio amser byr neu derfynu cyflogaeth dros dro.
  • Bydd eich cyflogwr yn ystyried eich gwrthwynebiadau ac, os bydd yn penderfynu mynd ymlaen â dileu swyddi, rhaid iddo gadarnhau hyn i chi’n ysgrifenedig.
  • Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn rhoi hawl i chi apelio os nad ydych yn fodlon â’r penderfyniad, ond os nad yw’ch cyflogwr yn cynnig gweithdrefn apeliadau fewnol gallwch ystyried mynd i dribiwnlys.
  • Os yw’ch diswyddiad yn annheg, neu’n ymddangos yn annheg, a’ch bod wedi penderfynu llofnodi ‘cytundeb cyfaddawd’ rydych yn gwneud hyn pan fydd y trafodaethau gyda’ch cyflogwr ar ben.

Ymgynghoriad ar y cyd

Yn ôl cyfraith dileu swydd, os oes swyddi 20 neu ragor o gyflogeion am gael eu dileu, mae’r broses ymgynghori’n fwy strwythuredig a rhaid iddi gynnwys cynrychiolwyr cyflogeion neu undeb llafur.

Beth sy’n digwydd ar ôl yr ymgynghoriad?

  • Byddwch yn cael rhybudd o ddileu swydd
  • Rhaid ichi gael y cyfnod rhybudd statudol o leiaf – sef 1-12 wythnos gan ddibynnu ers pryd y buoch yn y swydd
  • Fodd bynnag, mewn rhai achosion efallai y bydd gofyn i chi adael y gwaith cyn gynted ag y cewch eich rhybudd o ddileu swydd.
  • Mae gennych hawl i amser i ffwrdd gyda thâl – dau ddiwrnod fel arfer – i chwilio am waith a hefyd cyfnod rhesymol o absenoldeb di-dâl i chwilio am waith a hyfforddiant
  • Y swydd yn dod i ben

Eich hawl i amser i ffwrdd i chwilio am waith

Mae gennych hawl i amser i ffwrdd gyda thâl i chwilio am waith neu gael hyfforddiant. Rhaid i’r amser y gallwch ei gymryd fod yn rhesymol.

Os ydych wedi gweithio’n barhaus i’ch cyflogwr ers dwy flynedd o leiaf, rhaid iddo dalu hyd at 40% o gyflog wythnos ichi ar gyfer eich amser i ffwrdd.

Er enghraifft, os byddwch yn gweithio wythnos o bum diwrnod, gallwch gymryd dau ddiwrnod i ffwrdd i gyd er mwyn mynd i gyfweliadau a bydd rhaid i’ch cyflogwr eich talu am yr amser hwn. Os byddwch yn cymryd mwy o amser i ffwrdd na hyn, nid oes rhaid i’ch cyflogwr eich talu amdano.

Mae rhai cyflogwyr yn fwy hael felly mae’n werth trafod y peth gyda nhw.

Gadael eich swydd yn gynnar

Os cynigir swydd ichi a bod eich cyflogwr newydd yn dymuno ichi ddechrau cyn diwedd eich rhybudd o ddileu swydd, siaradwch â’ch cyflogwr i weld a allwch adael yn gynnar heb golli’ch tâl dileu swydd.

Cyflwynwch eich cais i adael yn gynnar yn ysgrifenedig i’ch cyflogwr gan ddweud pryd hoffech chi adael.

Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod, holwch eich undeb llafur, Cyngor ar Bopeth, Acas neu’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafuryn agor mewn ffenestr newydd am gyngor.

Os byddwch yn gadael yn gynnar heb ganiatâd eich cyflogwr, gallech golli ychydig neu’r cyfan o’ch tâl dileu swydd.

Rhestr wirio diwrnod olaf

Ar eich diwrnod olaf yn y gwaith, dylech gael y pethau canlynol.

  • Unrhyw dâl dileu swydd, cyflog, tâl gwyliau ac arian arall sy’n ddyledus i chi
  • Tystlythyrau swydd gan eich cyflogwr
  • Llythyr sy’n nodi dyddiad dileu eich swydd
  • Datganiad ysgrifenedig sy’n dangos y ffordd y mae’ch tâl dileu swydd wedi’i gyfrifo
  • Eich P45 (i’w rhoi i gyflogwr newydd er mwyn eich trethu’n gywir)
  • Manylion eich pensiwn

Am ragor o gymorth

Mae Acas yn cynnig cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim ar yr holl faterion hawliau cyflogaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Dysgwch fwy ar wefan Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu). Cysylltwch â Llinell Gymorth Acas ar 0300 123 1100.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur yn darparu gwasanaeth diduedd a chyfrinachol ar gysylltiadau cyflogaeth yng Ngogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy ar wefan yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur. Cysylltwch â Llinell Gymorth yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur ar 028 9032 1442.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?