Eich sefyllfa ariannol mewn perthynas newydd

Os byddwch yn ailbriodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd neu’n byw gyda phartner newydd mae’n debygol o effeithio ar eich sefyllfa ariannol. Fe ddylai olygu eich bod yn gwario llai oherwydd eich bod yn rhannu costau’r aelwyd a gallai hefyd olygu eich bod yn agor cyfrif banc ar y cyd neu yn cymryd morgais gyda’ch gilydd. Darganfyddwch beth yw’r ffordd orau i gael trefn ar eich arian.

Mae’n bwysig i chi siarad am y ffordd y byddwch yn cael trefn ar faterion ariannol yr aelwyd. Efallai bod gan eich partner newydd syniadau gwahanol i’ch rhai chi am sut i dalu’r biliau a rheoli arian. Neu efallai y byddwch chi am reoli’r materion ariannol, os cawsoch brofiad drwg gyda phartner oedd yn rheoli popeth yn eich perthynas ddiwethaf.

Mae’n well os gallwch chi a’ch partner gytuno sut y byddwch yn rhannu’r biliau.

Nid yw’n hawdd siarad am arian bob tro. Os byddwch chi yn ei weld yn anodd, darllenwch ein canllaw Siarad am arian gyda’ch partner

Cytundebau cyn ac ar ôl priodas

Os ydych yn bwriadu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil gyda’ch partner newydd, efallai y byddwch am ddiogelu eich sefyllfa ariannol trwy lunio cytundeb cyn-briodasol (prenup) neu gytundeb ar ôl priodas (postnup). Mae’r rhain yn ddogfennau cyfreithiol a fydd yn nodi’r hyn yr ydych wedi ei gytuno.

Er enghraifft, gall ddweud na fydd un ohonoch yn hawlio yn erbyn y llall am ran o’i fusnes, buddsoddiadau neu etifeddiaeth deuluol oedd ganddo ef neu hi cyn i chi briodi neu ffurfio partneriaeth sifil.

Defnyddir cytundeb ar ôl priodas yn aml, sy’n cael ei lunio ar ôl i gwpl briodi neu ddod yn bartneriaid sifil, os bydd un partner yn etifeddu neu yn prynu ail eiddo. Gellir ei ddefnyddio hefyd os oes newid yn yr amgylchiadau, os cewch fabi er enghraifft.

Beth yw statws cyfreithiol cytundebau cyn ac ar ôl priodas?

Yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, nid yw cytundebau cyn ac ar ôl priodas yn gyfan gwbl rhwymol yn gyfreithiol, ond maen nhw’n cael eu hystyried gan y llysoedd os byddwch yn ysgaru neu yn diddymu eich partneriaeth sifil.

Yn Yr Alban, mae cytundebau cyn ac ar ôl priodas yn rhai y gellir eu gorfodi dan y gyfraith.

Byddai’r llys yn dymuno cael gwybod:

  • eich bod chi eich dau wedi cael cyngor cyfreithiol annibynnol
  • bod datgeliad ariannol llawn (eich bod wedi bod yn agored â’ch gilydd am eich arian)
  • nad oedd yr un ohonoch dan bwysau i lofnodi’r cytundeb cyn priodi
  • ei fod yn deg (bydd yr hyn sy’n ‘deg’ yn dibynnu ar amgylchiadau eich achos)

Os ydych chi a’ch partner yn ystyried llunio cytundeb cyn neu ar ôl priodi, gofynnwch am gyngor cyfreithiol annibynnol. Bydd arnoch angen cyfreithiwr i lunio’r cytundeb.

Cytundebau byw gyda’ch gilydd

Mae’n syniad da llunio ‘cytundeb byw gyda’ch gilydd’ os byddwch yn symud i fyw gyda’ch partner newydd ond nad ydych yn bwriadu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil. Mae hyn yn wir oherwydd mai ychydig iawn o hawliau sydd gan gyplau sy’n byw gyda’i gilydd yn gyfreithiol os daw’r berthynas i ben.

Petai’r gwaethaf yn digwydd a’ch bod chi a’ch partner yn gwahanu, gallai cytundeb byw gyda’ch gilydd arbed llawer o boen meddwl a gofid (a biliau cyfreithiol efallai). Mae’n nodi’r hyn yr ydych wedi ei gytuno i’w wneud am eich cartref, yr eiddo yr ydych wedi ei brynu neu yr ydych yn berchen arno, biliau a dyledion.

Petai eich anghydfod yn cyrraedd y llys, gall y llys anwybyddu rhannau ohono, ond os oes gennych chi un mae’n debyg ei bod yn well na pheidio â chael dim o gwbl.

Darllenwch ragor am lunio cytundebau byw gyda’ch gilydd ar wefan advicenow.

Cyfrifon banc ar y cyd neu ar wahân

Un penderfyniad y bydd raid i chi a’ch partner ei wneud fydd a ydych am agor cyfrif banc ar y cyd. Mae llawer o gyplau yn dewis crynhoi eu cyflog, enillion ac incwm arall (fel pensiynau a budd-daliadau) mewn cyfrif ar y cyd.

Gall cyfrif ar y cyd fod yn fwy cyfleus, ond mae anfanteision hefyd. Y prif un yw y gall eich banc neu gymdeithas adeiladu ofyn i’r naill neu’r llall ohonoch dalu’r ddyled gyfan ar gyfrif ar y cyd (fel gorddrafft) os dymunant.

Bydd hynny’n golygu, petaech chi a’ch partner newydd yn gwahanu a’i fod ef neu hi yn gwrthod talu, y gallech chi orfod talu pob ceiniog.

Benthyciadau a dyledion ar y cyd – beth allai hyn ei olygu i’ch arian

Cyn i chi a’ch partner newydd gymryd benthyciadau ar y cyd, fel benthyciad banc neu forgais, mae’n bwysig bod yn glir beth allai hyn ei olygu i’r ddau ohonoch.

Yn gyntaf, mae’r ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu’r ddyled gyfan. Yn ail, pan fyddwch yn cymryd unrhyw fath o gredyd ar y cyd, mae eich cofnodion credyd (sy’n dangos pa mor brydlon yr ydych wedi ad-dalu arian yr ydych wedi ei fenthyca) yn cael eu cysylltu.

Bydd hyn yn golygu os byddwch chi neu eich partner yn gwneud cais am gredyd yn y dyfodol, y bydd y darparwr benthyciadau yn gallu gwirio cofnodion credyd y ddau ohonoch. Os na fydd eich partner wedi talu ei ddyledion/ei dyledion ef neu hi mewn pryd, neu, – yn waeth na hynny – wedi cael ei d/ddatgan yn fethdalwr, bydd yn effeithio ar eich gallu chi i gael credyd.

Darllenwch ragor yn Sut i wirio eich adroddiad credyd.

Yswiriant bywyd i chi a’ch partner

Efallai y bydd angen i chi adolygu’r yswiriant sydd gennych ar ôl i chi a’ch partner newydd symud i fyw gyda’ch gilydd. Os oes gennych forgais ar y cyd, dylech gymryd yswiriant bywyd (neu wirio bod y polisïau presennol yn cynnig yr yswiriant cywir).

Darllenwch ragor am adolygu yswiriant i’ch dibynyddion a’ch ewyllys ar ôl ysgariad neu ddiddymiad neu ar ôl gwahanu os oeddech chi’n cyd-fyw.

Efallai hefyd y bydd angen i chi gynyddu faint o yswiriant sydd gennych ar eich yswiriant cartref.

Newidiadau i daliadau cynhaliaeth a chynnal plant

Os byddwch yn ailbriodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil newydd, bydd unrhyw gynhaliaeth i ŵr neu wraig (lwfans cyfnodol yn yr Alban) yn dod i ben.

Ac os byddwch yn symud i fyw gyda’ch partner newydd, heb briodi neu ffurfio partneriaeth sifil, gall y taliadau barhau ond gall y swm newid. Fe all newidiadau ddigwydd hefyd i daliadau cynhaliaeth plant os bydd gan y rhiant sy’n talu blant eraill yn ei gartref (e.g. llysblant neu blant a aned i bartner newydd).

Eich cam nesaf

Os byddwch yn derbyn cynhaliaeth ar eich cyfer chi eich hun neu’n ei thalu i’ch cyn-bartner, dysgwch am newidiadau a allai effeithio ar daliadau cynhaliaeth.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?