Esbonio Cymorth i Gynilo

Mae Cymorth i Gynilo yn gynllun cynilo newydd i bobl ar incymau isel sy’n hawlio rhai budd-daliadau. Mae Cymorth i Gynilo yn rhoi taliad bonws i chi gan y llywodraeth o hyd at 50% (hanner) y cynilon a delir i’r cyfrif. Mae’r canllaw hwn yn esbonio pwy all agor cyfrif Cymorth i Gynilo, sut y gallwch chi dalu arian i mewn iddynt a sut y mae’r taliad bonws yn gweithio.

Pwy all gael cyfrif Cymorth i Gynilo?

A wyddech chi

Dim ond ar y diwrnod y byddwch chi’n gwneud cais am gyfrif Cymorth i Gynilo sydd angen i chi fod yn gymwys. Os bydd eich amgylchiadau yn newid ac na fyddwch chi’n derbyn Credyd Treth neu Gredyd Cynhwysol mwyach, bydd eich cyfrif Cymorth i Gynilo yn parhau yn weithredol a gallwch barhau i gynilo ynddo.

Gallwch ymgeisio am gyfrif Cymorth i Gynilo os:

  • ydych chi’n derbyn Credyd Treth Gwaith
  • oes gennych chi ddyfarniad nil am Gredyd Treth Gwaith, ond eich bod chi’n derbyn Credydau Treth Plant
  • ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ac enillodd isafswm o £ 542.88 yn ystod eich cyfnod asesu diwethaf.

Ar hyn o bryd mae nifer cyfyngedig o gyfrifon ar gael fel rhan o’r arbrawf.

Os byddwch chi’n cau’ch cyfrif, ni fyddwch chi’n gallu ei ailagor nac agor un newydd.

Mae’r cyfrifon yn para pedair blynedd, gyda thaliadau bonws o hyd at 50% ar gynilion ar ôl dwy a phedair blynedd.

Dysgwch fwy am Gredyd Treth Gwaith.
Dysgwch bopeth y mae angen ei chi ei wybod am Gredyd Cynhwysol.

A yw cyfrif Cymorth i Gynilo yn addas i mi?

Cofiwch

Dim ond un cyfrif Cymorth i Gynilo y gallwch chi fyth ei agor. Dewiswch yr amser gorau i’w agor er mwyn cael y budd uchaf. Mae gennych chi hyd at bum mlynedd o fis Medi 2018 i ymgeisio am gyfrif.

Gallai cyfrif Cymorth i Gynilo fod yn addas i chi os:

  • ü Allwch chi fforddio taliadau rheolaidd heb effeithio’n negyddol ar eich safonau byw.

Efallai na fydd yn addas i chi os:

  • û Y byddwch chi’n cael anhawster wrth fodloni ymrwymiadau dyledion dyledus, yn enwedig dyledion blaenoriaeth megis y Dreth Gyngor

Os benderfynwch chi nad ydych chi eisiau parhau i dalu mewn i’r cyfrif Cymorth i Gynilo, neu na allwch chi gynilo am gyfnod o amser, mae’n werth cadw’r cyfrif ar agor. Y rheswm dros hyn yw os bydd y cyfrif yn cael ei gau, ni allwch chi fyth ei ailagor ac ni fyddwch chi’n derbyn unrhyw daliadau bonws. Os byddwch yn ei gadw’n agored, byddwch chi o leiaf yn derbyn taliadau bonws ar eich cynilion cymwys.

Sut allaf i drefnu cyfrif Cymorth i Gynilo?

O fis Medi 2018, gallwch wneud cais am gyfrif Cymorth i Arbed ar-lein trwy ymweld â Gov.uk{:target=”_blank”}.

Os ydych chi’n gymwys ac eisiau gwneud cais, gallwch wneud cais ar-lein yn tax.service.gov.uk/help-to-save.

Bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn asesu’ch cymhwyster trwy’r Porth Llywodraeth ac ni fydd angen i chi gyflwyno unrhyw waith papur.

Bydd eich cyfrif Cymorth i Gynilo yn cael ei gadw gyda Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I).

Serch hynny, byddwch chi angen cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu hefyd er mwyn talu arian i mewn i’r cyfrif Cymorth i Gynilo ac i dderbyn eich taliadau bonws.

Sut ydw i’n rheoli fy nghyfrif Cymorth i Gynilo?

A oes gennych chi ragor o gwestiynau am Gymorth i Gynilo? Yna edrychwch ar rai o’r cwestiynau cyffredin hyn.

Gallwch reoli’ch cyfrif Cymorth i Gynilo ar-lein yn tax.service.gov.uk/help-to-saveopens in new window.

Byddwch chi’n derbyn rhif cyfrif a chod didoli er mwyn i chi dalu arian i’r cyfrif.

Byddwch chi hefyd yn derbyn pecyn croeso gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) pan fydd eich cyfrif wedi’i agor.

Faint y gallaf i ei dalu i fy nghyfrif Cymorth i Gynilo?

Gair i gall

Defnyddiwch ein cynllunydd Cyllideb i weld os allwch chi ddod o hyd i gynilion a all fynd i’ch cyfrif Cymorth i Gynilo.

Gallwch chi dalu unrhyw swm i mewn o isafswm o £1 hyd at uchafswm o £50 y mis.

Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw trefnu gorchymyn sefydlog o’ch cyfrif banc. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi’n colli taliad.

Gallwch hefyd wneud taliadau unigol o’ch banc i’ch cyfrif Cymorth i Gynilo, neu trwy ddefnyddio’ch cerdyn debyd.

Bydd taliadau fel arfer yn ymddangos yn y cyfrif o fewn 24 awr.

Nid oes cosb os na allwch chi gynilo bob mis, ond bydd hyn yn effeithio ar eich taliad bonws uchaf.

Os byddwch chi’n colli taliad, neu’n talu llai na’r uchafswm o £50, ni allwch chi ordalu na thalu mwy yn ddiweddarach. Y swm uchaf y gallwch chi ei dalu yn ystod unrhyw un mis yw £50.

A allaf i godi arian o fy nghyfrif Cymorth i Gynilo?

Gallwch. Gellir codi arian o’ch cyfrif Cymorth i Gynilo i’ch cyfrif banc enwebedig ac fe gymer hi tua thridiau. Serch hynny, fe allai hyn effeithio ar eich taliad bonws.

Taliad bonws Cymorth i Gynilo

Mae cyfrifon Cymorth i Gynilo yn para am bedair blynedd o’r diwrnod y byddwch chi’n derbyn eich rhif cyfrif gyda thaliadau bonws yn cael eu gwneud ar ôl dwy flynedd ac ar ddiwedd y pedair blynedd.

Gall y taliad bonws fod hyd at 50% o’r hyn yr ydych chi’n ei dalu i mewn a bydd yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc enwebedig, ac nid eich cyfrif Cymorth i Gynilo.

Ar ôl dwy flynedd

Ar ôl dwy flynedd, byddwch hi’n derbyn taliad bonws o 50% o’r balans uchaf y llwyddoch chi i’w gyflawni yn y cyfnod hwn.

Er enghraifft, os mai’r balans uchaf yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yw £500, byddwch chi’n derbyn taliad bonws o £250.

Ar ôl pedair blynedd

Ar ôl pedair blynedd, byddwch chi’n derbyn bonws arall o 50% o’r gwahaniaeth rhwng y balans uchaf a gyflawnwyd yn ystod y ddwy flynedd gyntaf a’r balans uchaf yn ystod y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn.

Er enghraifft, os mai’r balans uchaf ar ôl y ddwy flynedd gyntaf yw £500 a’r balans uchaf yn yr ail ddwy flynedd yw £900, bydd y bonws yn cael ei gyfrifo ar y £400 o wahaniaeth. Felly, yn yr achos hwn, byddwch chi’n derbyn ail fonws o £200.

Enghreifftiau o Gymorth i Gynilo

Enghraifft 1: Talu’r uchafswm i mewn

Mae Amy yn talu’r uchafswm o £50 y mis am y ddwy flynedd gyntaf: £50 x 24 mis = £1,200

Nid yw’n codi arian o gwbl ac yn derbyn 50% ar ei balans uchaf: 50% o £1,200 = £600

Bellach mae gan Amy £1,200 yn ei chyfrif Cymorth i Gynilo ac mae’r bonws o £600 yn cael ei dalu i’w chyfrif banc enwebedig.

Mae’n parhau i wneud y taliadau uchaf o £50 i’r cyfrif am ddwy flynedd pellach ac nid yw’n codi arian o gwbl: £50 x 24 mis = £1,200 + £1,200 (wedi’i ddwyn ymlaen o’r ddwy flynedd gyntaf) = £2,400.

Mae’n ennill ei bonws ar y gwahaniaeth rhwng y balans uchaf yn ystod y ddwy flynedd gyntaf a’r ail ddwy flynedd: £2,400 - £1,200 = £1,200. Mae’r taliad bonws yn 50% o £1,200 = £600.

Ar ôl pedair blynedd, mae gan Amy £2,400 yn ei chyfrif Cymorth i Gynilo a dau daliad bonws o £600 yr un (£1,200 i gyd) yn ei chyfrif banc.

Enghraifft 2: Talu symiau is i mewn

Mae John yn talu £20 i mewn bob mis am y ddwy flynedd gyntaf: £20 x 24 mis = £480

Nid yw’n codi unrhyw arian ac mae’n derbyn bonws o 50% ar ei falans uchaf: 50% o £480 = £240

Bellach mae gan John £480 yn ei gyfrif Cymorth i Gynilo a £240 wedi’i dalu i’w gyfrif banc arferol.

Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, mae John yn talu swm uwch o £30 y mis ac nid yw’n codi unrhyw arian: £30 x 24 mis = £720 + £480 (wedi’i ddwyn ymlaen o’r ddwy flynedd gyntaf) = £1,200

Mae’n ennill bonws o 50% ar y gwahaniaeth rhwng y balans uchaf yn ystod y ddwy flynedd gyntaf a’r ail ddwy flynedd: £1,200 - £480 = £720. Mae’r taliad bonws yn 50% o £720 = £360

Ar ôl pedair blynedd, mae gan John £1,200 yn ei gyfrif Cymorth i Cynilo a dau daliad bonws sy’n gwneud gwerth £600 (bonws cyntaf £240 + ail fonws £360) yn ei gyfrif banc.

Enghraifft 3: Codi arian

Mae Helen yn gwneud taliad misol o £30 i’w chyfrif Cymorth i Gynilo: £30 x 24 mis = £720

Ar ddiwedd y ddwy flynedd, mae’n tynnu £200 i brynu oergell newydd. Nid yw hyn yn effeithio ar ei thaliad bonws gan ei fod yn cael ei gyfrifo ar ei balans uchaf a oedd yn parhau ar £720: 50% o £720 = £360

Ar ôl codi’r arian, mae ganddi £520 yn ei chyfrif Cymorth i Gynilo a bonws o £360 wedi’i’ dalu i’w chyfrif banc arferol.

Mae’n parhau i wneud taliadau o £30 am y ddwy flynedd nesaf, ond nid yw’n codi unrhyw arian: £30 x 24 mis = £720 + £520 (wedi’i ddwyn ymlaen o’r ddwy flynedd gyntaf) = £1,240

Cyfrifir ei hail daliad bonws ar y gwahaniaeth rhwng y balans uchaf ar ôl dwy flynedd a’r balans uchaf yn ystod blynyddoedd tri a phedwar: £1,240 - £720 = £520. Taliad bonws o 50% o £520 - £260.

Ar ôl pedair blynedd, mae gan Helen £1,240 yn ei chyfrif Cymorth i Gynilo a dau daliad bonws gwerth £620 (£360 ar ôl dwy flynedd + £260 ar ôl pedair blynedd) yn ei chyfrif banc arferol.

Pe na bai hi wedi codi arian ac wedi parhau i wneud yr un taliadau misol byddai ei balans terfynol wedi bod yn £720 + £720 = £1,440. Byddai’r ail daliad bonws wedi bod yn 50% o £720 (£1,440 - £720 = £720) sydd yn £360. Byddai hyn yn golygu ar ôl pedair blynedd byddai ganddi £1,440 yn ei chyfrif Cymorth i Gynilo a chyfanswm o £720 o daliadau bonws yn ei chyfrif banc arferol.

Beth sy’n digwydd i fy nghyfrif Cymorth i Gynilo ar ôl pedair blynedd?

Ar ôl pedair blynedd, bydd eich cyfrif Cymorth i Gynilo yn cael ei gau.

Bydd yr arian sydd wedi’i gynilo yn y cyfrif, ynghyd â’r taliad bonws terfynol, yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc enwebedig.

Beth os oes gen i broblemau gyda fy nghyfrif Cymorth i Gynilo?

Os ydych chi eisoes wedi agor cyfrif Cymorth i Gynilo a bod gennych chi unrhyw gwestiynau neu broblemau, gallwch ffonio 0300 322 7093.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?