Cyn ymgeisio am forgais, mae’n bwysig eich bod yn meddwl am fwy nag ystyried a allwch fforddio’r ad-daliadau misol. Bydd darparwyr morgeisi yn edrych ar eich incwm a’ch treuliau i weld a allwch chi lwyddo i gynnal y taliadau os bydd cyfraddau llog yn codi neu eich amgylchiadau’n newid. Darllenwch ymlaen i ddysgu rhagor am y modd y mae darparwyr morgeisi’n asesu faint allwch chi ei fenthyca.
Sut mae benthycwyr yn asesu’r hyn y gallwch ei fforddio
?
A ydych chi wedi cael cyngor ar forgeisi?
Darllenwch Dewis morgais am fanylion ynghylch lle i geisio cyngor.
Yn y gorffennol, roedd darparwyr morgeisi gan amlaf yn seilio’r swm i’w fenthyca ar ffigwr lluosog o’ch cyflog. Gelwir hyn yn gymhareb benthyciad-incwm.
Er enghraifft, os oedd eich incwm blynyddol yn £50,000, efallai y gallech fenthyca tair i bum gwaith y ffigwr hwn, gan roi morgais o £250,000 i chi.
Nawr, pan ymgeisiwch am forgais, bydd y darparwr yn capio’r gymhareb benthyciad-incwm ar ddim mwy na phedair gwaith a hanner eich incwm.
Rhaid i’r darparwr asesu pa lefel o daliadau morgais y gallwch ei fforddio hefyd, ar ôl ystyried eich amryw dreuliau personol a byw yn ogystal â’ch incwm. Gelwir hyn yn asesiad o fforddiadwyedd.
Daeth y newidiadau hyn i rym drwy’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn 2014 yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o’r farchnad forgeisi.
Rhaid i’r darparwr edrych i’r dyfodol hefyd a chynnal “prawf straen” ar eich gallu i ad-dalu’r morgais. Mae hyn yn cymryd i ystyriaeth effaith cynnydd posibl mewn cyfraddau llog a newidiadau posibl i’ch ffordd o fyw, megis colli swydd, cael babi neu gymryd seibiant o’ch gyrfa.
Os bydd y darparwr o’r farn na fyddwch yn medru fforddio’ch taliadau morgais dan yr amgylchiadau hyn, gall roi trothwy ar faint gewch chi ei fenthyca.
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i morgais addas.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu morgeisi:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
- Dysgwch ragor yn ein canllaw ar wefannau cymharu.
Yr hyn y bydd y darparwr morgeisi yn ei ystyried
Wrth gyfrifo faint allwch chi fforddio ei fenthyca, bydd y darparwr yn edrych ar:
1. Eich incwm
- Eich incwm sylfaenol.
- Unrhyw enillion eraill sydd gennych chi – er enghraifft, o oramser, comisiwn neu daliadau bonws neu ail swydd neu waith llawrydd.
- Incwm o’ch pensiwn neu fuddsoddiadau.
- Incwm ar ffurf cynhaliaeth plant a chymorth ariannol gan gyn-briod.
Bydd angen i chi gyflwyno slipiau cyflog a chyfriflenni banc fel tystiolaeth o’ch incwm. Os ydych yn hunangyflogedig bydd angen i chi ddarparu cyfrifon busnes a chyfriflenni banc, yn ogystal â manylion treth incwm a dalwyd gennych.
2. Eich treuliau
?
Gwiriwch eich adroddiad credyd
Mae’n syniad da gwirio’ch adroddiad credyd cyn ymgeisio am forgais. Bydd hyn yn rhoi amser i chi gywiro unrhyw gamgymeriadau ynddo a rhoi gwybod i chi am unrhyw daliadau credyd a fethwyd a allai achosi i ddarparwr morgais eich gwrthod. Dysgwch ragor am sut i wella’ch statws credyd.
- Ad-daliadau cerdyn credyd.
- Benthyciadau eraill neu gytundebau credyd a allai fod gennych.
- Taliadau cynhaliaeth.
- Biliau megis Treth Gyngor, dŵr, nwy, trydan, ffôn, band-eang.
- Yswiriant – adeiladau, cynnwys, teithio, anifeiliaid anwes, bywyd ac ati.
Gall y darparwr ofyn am amcangyfrifon o’ch costau byw eraill fel gwario ar ddillad, hamdden a gofal plant. Gall ofyn hefyd am gael gweld rhai cyfriflenni banc diweddar i ategu’r ffigurau a gyflwynir gennych.
Am restr lawn o wybodaeth efallai y bydd angen i chi baratoi, darllenwch ein rhestr wirio gwaith papur.
3. Newidiadau yn y dyfodol a all gael effaith
Bydd y darparwr yn asesu a fyddech chi’n medru ad-dalu’ch morgais:
- Petai cyfraddau llog yn codi.
- Petai chi neu eich partner yn colli eich swydd.
- Ni allech gael gwaith oherwydd salwch.
- Petai eich ffordd o fyw yn newid, megis cael babi neu seibiant yn eich gyrfa.
Mae’n bwysig hefyd i chi feddwl ymlaen a chynllunio sut y byddech yn llwyddo i dalu’n brydlon. Er enghraifft, gallwch helpu i ddiogelu’ch hun yn erbyn gostyngiadau annisgwyl mewn incwm drwy ychwanegu at eich cynilion ar bob cyfle. Ceisiwch sicrhau bod eich cynilion yn cynnwys digon i dalu treuliau am dri mis, yn cynnwys eich taliadau morgais.
Am restr lawn o’r wybodaeth efallai y bydd angen i chi baratoi, darllenwch ein rhestr wirio gwaith papur.
Meddyliwch am beth allwch chi ei fforddio
Bydd ein Cyfrifiannell fforddiadwyedd yn dangos i chi faint allai darparwr benthyciadau gynnig i chi, ac a allech chi fforddio’r taliadau misol neu beidio yn seiliedig ar eich incwm a’ch treuliau misol.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein Cyfrifiannell morgais, a all roi cymorth i chi ganfod faint y gallai’ch ad-daliadau morgais misol fod petai cyfraddau llog yn codi yn y dyfodol. Gallwch baratoi ar gyfer codiadau mewn cyfraddau llog hefyd drwy feddwl am ail-forgeisio neu ordalu.
Dysgwch ragor am sut mae cyfraddau llog morgeisi’n gweithio.
Eich cam nesaf
Amcangyfrifwch eich cost gyffredinol o brynu tŷ a symud