Faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol ddylech chi ei dalu

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael swm sylfaenol o incwm sy’n ddi-dreth a elwir yn ‘Lwfans Personol’ - ar gyfer y flwyddyn dreth 2018-19 y swm arferol yw £11,850. Gallai’ch Lwfans Personol fod yn uwch os, er enghraifft, yr hawliwch Lwfans Priodas neu os ydych wedi talu gormod o dreth. Gall fod yn llai hefyd, er enghraifft, os yw’ch incwm dros £100,000 neu os oes arnoch chi dreth o flwyddyn dreth flaenorol. Defnyddir eich cod treth i gyfrifo’ch Lwfans Personol a faint o dreth y byddwch yn ei dalu bob blwyddyn. Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn mynd tuag at helpu pobl sy’n sâl, yn ddi-waith neu wedi ymddeol, a bydd y swm fyddwch chi’n ei dalu yn dibynnu ar eich incwm.

A oes angen i chi dalu treth ac Yswiriant Cenedlaethol?

Gallwch gael cyfanswm penodol o incwm bob blwyddyn, sef eich Iwfans Personol, cyn i chi fod angen talu unrhyw dreth. Yn gyffredinol, mae pawb yn cael yr un faint o Lwfans Personol o £11,850 am y flwyddyn (2018-19, £12,500 2019-20), ond gallech gael mwy (os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1938) neu lai (os yw’ch incwm yn uwch na £100,000) neu os oes gennych dreth i’w dalu o flwyddyn dreth flaenorol neu os ydych chi wedi gordalu treth o flwyddyn flaenorol.

Faint allwch chi ennill cyn bod angen i chi dalu Treth Incwm?

Yn Lloegr, mae’r system dreth yn seiliedig ar gyfraddau treth ymylol. Mae hynny’n golygu ei fod yn cael ei gyfrifo fel canran o incwm a enillwch tu allan i drothwyon penodol – ni fyddwch yn talu’r un faint o dreth ar bopeth fyddwch chi’n ei ennill.

Fel cyflogai:

  • byddwch yn talu 0% ar incwm hyd at £11,850* (£12,500 2019-20)
  • yna byddwch yn talu 20% ar unrhyw beth fyddwch yn ennill rhwng £11,851 a £46,350 (£12,501-£50,000)
  • byddwch yn talu 40% o Dreth Incwm ar enillion rhwng £46,351 a £150,000 (£50,001-£150,000)
  • os ydych chi’n ennill £150,001 neu fwy byddwch yn talu treth o 45%.

* Mae hyn yn tybio fod gennych chi’r Lwfans Personol safonol o £11,850 sef y swm y gallwch ei ennill cyn talu treth. Efallai y bydd eich lwfans personol yn uwch, er enghraifft os ydych chi wedi hawlio lwfansau penodol neu os ydych chi wedi talu gormod o dreth. Gallai hefyd fod yn is, er enghraifft os ydych chi’n ennill dros £100,000, mae’r Lwfans Personol safonol o £11,850 wedi ei leihau o £1 ar gyfer pob £2 o incwm. Dysgwch fwy am Sut mae Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a’r Lwfans Personol yn gweithio.

Er enghraifft, os byddwch chi’n ennill £52,000 y flwyddyn, rydych chi’n talu:

  • dim ar y £11,850 cyntaf
  • 20% (£6,899.80) ar y £34,499 nesaf
  • 40% (£2,260) ar y £5,650 nesaf.
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, mae cyfraddau Treth Incwm yn wahanol. Dysgwch fwy ar ein tudalen Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol yr Alban.

Faint allwch chi ei ennill cyn y bydd angen i chi dalu Yswiriant Gwladol?

Fel cyflogai:

  • rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydych yn ennill mwy na £162 yr wythnos
  • rydych yn talu 12% o’ch enillion uwchben y terfyn hwn hyd at £892 yr wythnos (ar gyfer 2017-18)
  • mae’r gyfradd yn gostwng i 2% o’ch enillion dros £892 yr wythnos.

Er enghraifft, os byddwch chi’n ennill £1,000 yr wythnos, rydych chi’n talu:

  • dim ar y £162 cyntaf
  • 12% (£87.60) ar y £730 nesaf
  • 2% (£2.16) ar y £108 nesaf.
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, mae cyfraddau Yswiriant Gwladol yn wahanol. Dysgwch fwy ar ein tudalen Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol yr Alban.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cyflog gros a net?

Os ydych yn gyflogai, yr enw a roddir ar yr arian a enillwch (eich cyflog neu dâl yr awr) yw eich taliad gros. Ar ôl tynnu’r didyniadau megis treth ac Yswiriant Cenedlaethol, y cyfanswm a gewch yw eich taliad net. Gallwch weld beth oedd eich taliad gros a faint sydd wedi ei dynnu (os o gwbl) ar eich slip cyflog.

Sut mae treth ac Yswiriant Cenedlaethol yn cael ei dalu?

Os yw eich incwm yn uwch na’ch Iwfans Personol mewn blwyddyn, mae angen i chi dalu treth. Yn gyffredinol, mae eich Iwfans Personol yn cael ei rannu yn gyfartal ar draws eich pecynnau tâl am y flwyddyn a bydd eich cyflogwr yn tynnu treth oddi wrtho cyn eich talu. Maent yn gwybod faint i’w dynnu trwy sytem o’r enw PAYE (Talu Wrth Ennill). Os, ar ddiwedd y flwyddyn eich bod wedi talu gormod o dreth, gallech gael ad-daliad; rhy ychydig a byddwch yn gorfod talu mwy.

Bydd eich cyflogwr yn tynnu gostyngiadau Yswiriant Cenedlaethol o’ch tâl hefyd. Mae hyn yn cael ei gyfrifo yn wythnosol neu’n fisol, neu sut bynnag yr ydych yn cael eich talu. Os nad oes camgymeriad, ni allwch gael dim o’r Yswiriant Cenedlaethol yr ydych yn ei dalu yn ei ôl, hyd yn oed os bydd eich enillion yn gostwng yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Sut mae PAYE yn gweithio

Pan fyddwch yn cychwyn gweithio, bydd angen i chi un ai roi ffurflen P45 i mewn o’ch hen swydd, neu gwblhau gwiriad cychwynnol newydd Cyllid a Thollau EM a gewch gan eich cyflogwr.

Mae’r ffurflenni hyn yn dweud wrth Cyllid a Thollau EM (CThEM) eich bod wedi cychwyn gwaith a cânt eu defnyddio i greu cod treth. Bydd eich cod treth wedyn yn dweud wrth eich cyflogwr faint o dreth i’w dynnu o’ch tâl. Ni ddefnyddir y ffurflen P46 mwyach.

Gall PAYE gael ei ddefnyddio i gasglu treth nid yn unig o’ch enillion o’r swydd hon ond unrhyw incwm arall a gewch.

Beth yw cod treth?

Mae faint o dreth a dalwch yn dibynnu ar faint o incwm sydd gennych a faint o dreth yr ydych wedi ei dalu eisoes yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â’ch amgylchiadau personol. Mae gan bobl wahanol godau treth gwahanol, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau.

Bob blwyddyn, mae HMRC yn gyrru Hysbysiad Codio atoch yn eich hysbysu o’ch cod treth a faint o dreth yr ydych wedi ei dalu. Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch cod treth ar eich slip cyflog. Fel arfer mae yna rai rhifau ac un lythyren.

Fel arfer eich cod treth yw’r swm a enillwch heb dalu treth, wedi ei rannu gyda 10, gyda llythyren wedi’i hychwanegu. Er enghraifft:

Cod treth: 1185L

1185 yn dod yn £11,850 a enillwyd cyn treth

Sut mae fy nghod treth yn cael ei gyfrifo?

Nid oes gan fy nghod treth rif, neu mae’n cychwyn gyda D gyda rhif yn dilyn hynny

Y rheswm am hyn fel arfer yw bod gennych fwy nag un ffynhonnell o incwm. Mae eich Iwfans Personol yn seiliedig ar eich prif ffynhonnell incwm, ac rydych yn talu treth ar bopeth a ddaw o’ch ail ffynhonnell incwm.

Er enghraifft, efallai eich bod yn gweithio yn eich prif swydd yn ystod y dydd ac yn gwneud sifftiau mewn tafarn neu ffatri yn y nos. Os ydych yn ennill mwy na £11,850 y flwyddyn yn eich prif swydd, bydd eich ail swydd yn cael ei threthu ar y gyfradd sylfaenol. Gall hyn fod yn berthnasol hefyd i bensiynau neu arian a delir allan gan fuddsoddiadau (difidendau).

Mae fy nghod treth yn cychwyn gyda K

Mae hyn yn golygu bod gennych dreth o’r gorffennol sydd eto i’w thalu, neu eich bod yn cael arian neu fudd-daliadau na ellir eu trethu cyn i chi ei gael, megis Pensiwn y Wladwriaeth neu gar cwmni. O hyn, gall eich cyflogwr gyfrifo faint ddylid gael ei dalu tuag at yr hyn sy’n ddyledus gennych.

Ni fydd y cyfanswm y byddwch yn ei dalu byth yn fwy na hanner yr hyn yr ydych wedi ei ennill neu ei gael yn ystod y cyfnod tâl hwnnw (p’un ai ei fod yn fisol, wythnosol neu gyfnod arall).

Ydi’r cod treth cywir gennych?

Weithiau, nid yw’r cod treth yn gywir ar gyfer eich amgylchiadau. Er enghraifft, os bu i chi gychwyn gweithio yn ddiweddar ac nid yw eich cod treth cywir wedi ei gyfrifo cyn eich diwrnod cyflog cyntaf, gallech gael ‘cod treth brys’. Golyga hyn y byddwch yn cael Iwfans Personol nad yw’n gywir ar eich cyfer chi o bosib.

Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl nad ydych wedi derbyn y Lwfans Personol cywir i chi.

Ar gyfer 2018-19, y codau treth argyfwng yw:

  • 1185L W1
  • 1185L M1
  • 1185L X.

Os mai dyma yw un o’ch codau treth, bydd HMRC yn ei ddiweddaru’n awtomatig, ond efallai y bydd hynny’n golygu na fydd eich cyflog yr un fath am fis neu ddau, felly byddwch yn ofalus wrth gyllidebu.

Gwirio eich cod treth

I sicrhau eich bod wedi cael y cod treth cywir, gwiriwch bod eich cod yn cydfynd â’r Iwfans Personol y credwch y dylech ei gael.

Beth ddylwn i ei wneud os credaf fod fy nghod treth yn anghywir?

Os ydych yn credu bod eich cod treth yn anghywir, neu eich bod yn ansicr, cysylltwch â CThEM. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi’r holl wybodaeth y mae CThEM yn gofyn amdano fel nad ydych yn talu’r côd treth anghywir ac yn talu rhy ychydig neu ormod o dreth.

Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth

Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth, gallwch wirio ar wefan GOV.UK i weld a oes ad-daliad yn ddyledus neu gallwch ddefnyddio gwiriwr treth ar lein CThEM.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, gallech fedru gofyn am ad-daliad gan ddefnyddio ffurflen, neu mae’n bosib y bydd angen arnoch chi gysylltu â CThEM yn uniongyrchol.

Os credwch nad ydych wedi talu digon o dreth

Os credwch eich bod wedi talu rhy ychydig o dreth, yna efallai bydd raid i chi lenwi ffurflen dreth. I dalu cyfanswm hyd at £3,000 trwy addasu eich cod treth ar gyfer y flwyddyn ganlynol, dylech gyflwyno adroddiad erbyn 31 Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Fel arall, bydd unrhyw dreth sydd yn daladwy o’r flwyddyn ddiwethaf angen ei dalu erbyn Ionawr 31 yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth pan gafwyd yr incwm.

Os credwch nad ydych wedi talu digon o dreth, cysylltwch â CThEM. Efallai gofynnir i chi lenwi datganiad treth incwm. Nodwch, os na wnewch chi hyn, fel arfer bydd raid i chi dalu ffi cosb a llog wedi i’r diffyg taliad ddod i’r amlwg.

Bonws ac arian cildwrn

Os cewch arian drwy swydd nad yw’n rhan o’ch cyflog arferol, megis bonws blynyddol neu gildwrn gan gwsmeriaid, mae’n ofynnol i chi dalu treth arno, ac Yswiriant Cenedlaethol fel arfer hefyd.

  • Nodir eich bonws blynyddol, os cewch chi un, fel rhan o’ch cyflog arferol. Byddwch yn talu treth ac Yswiriant Gwladol arno trwy PAYE, yn y ffordd arferol.
  • Os cewch arian cildwrn yn uniongyrchol gan gwsmeriaid neu system ‘tronc’ (pan mae arian cildwrn yn cael ei gronni a’i rannu rhwng aelodau o staff), rhaid i chi dalu treth arno, ond nid Yswiriant Gwladol, cyn belled nad yw’r arian yn ymwneud â’ch cyflogwr. Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth HMRC am yr arian cildwrn hwn. Byddant wedyn yn rhoi cod treth newydd i chi sydd yn amcangyfrif faint o arian cildwrn a gewch ym mhob cyfnod talu, ac yn eich trethu ar y cyfanswm hwnnw.Ewch i gael mwy o wybodaeth am ‘troncs’ trwy HMRC (PDF)
  • Os bydd cwsmer yn rhoi arian cildwrn i chi trwy eu cerdyn banc wrth dalu am bryd o fwyd neu wasanaeth, ac mae eich cyflogwr yn penderfynu efallai ei rannu gyda chi, eich cyflogwr sydd yn gyfrifol am ymdrin â’r dreth a’r Yswiriant Gwladol. Os bydd y cyflogwr yn trosglwyddo’r fath daliadau i dronc, yna bydd y rheolau uchod yn weithredol ac ni fydd angen talu Yswiriant Gwladol.
  • Nid yw ffi gwasanaeth yr un fath â childwrn, gan nad yw’r cwsmer yn dewis ei dalu. Taliad gwirfoddol yw arian cildwrn.

Buddion mewn da

Weithiau bydd eich cyflogwr yn cynnig buddion fel car cwmni neu yswiriant iechyd fel rhan o’ch pecyn cydnabyddiaeth.

Efallai y bydd angen ichi dalu treth ar werth y budd-daliadau hyn.

  • Mae rhai buddion ddi-dreth bob amser, megis cyfraniadau’r cyflogwr i gynllun pensiwn ar eich cyfer, neu dalebau gofal plant hyd at derfyn.
  • Mae rhai buddion yn drethadwy bob amser. Er enghraifft, nwyddau y mae eich cyflogwr yn gadael i chi eu cael am ddim neu’n is na phris cost.
  • Mae benthyciadau tocynnau tymor yn drethadwy os yw gwerth yr holl fenthyciadau a dderbyniwch gan eich cyflogwr yn uwch na £10,000 am y flwyddyn.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?