Gwasanaethau cymorth sydd ar gael i ofalwyr

Mae gofalu am rywun yn waith blinedig yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mae’n effeithio ar eich bywyd cymdeithasol, eich gyrfa a’ch perthynas ag eraill. Mae cymryd seibiant i edrych ar ôl eich hun yn bwysig os ydych am barhau i ofalu amdanoch chi’ch hun a’r person rydych yn gofalu amdanynt. Dyma rai o’r gwahanol fathau o gefnogaeth sydd ar gael.

Mae help wrth law

Rydych yn gymwys i gael amrywiaeth o wasanaethau cefnogaeth y mae llawer ohonynt yn rhad ac am ddim trwy’r gwasanaethau cymdeithasol.

  • Cymryd seibiant - gall cymryd amser i ffwrdd o’ch rôl gofalu, gan gynnwys gofal seibiant i’r person rydych chi’n gofalu amdano, roi cyfle i chi fagu nerth.
  • Cymorth ymarferol – gall pethau a oedd yn arfer bod yn syml efallai, megis gwaith tŷ, golchi dillad, siopa am fwyd neu arddio, gallu bod yn straen pan rydych yn gofalu am rywun.
  • Addasiadau - offer neu addasiadau i’r cartref a all wneud bywyd yn haws.
  • Cefnogaeth emosiynol - P’un ai ar ffurf cwnsela broffesiynol neu gael sgwrs reolaidd gyda rhywun.
  • Cefnogaeth i wella’ch lles - Mynediad at ymarfer corff, cyfleoedd dysgu neu weithgareddau cymdeithasol.
  • Adfocatiaeth - Cael rhywun i siarad ar eich rhan.

I gael mynediad at y gwasanaethau hyn rhaid i chi’n gyntaf gwblhau asesiad gofalwr.

Beth yw asesiad gofalwr?

Wyddoch chi?

Gallwch siarad â chynghorydd llinell gymorth Carers Direct ar 0808 802 0202 os hoffech gael cymorth i ddod o hyd i gefnogaeth yn lleol. Mae Carer’s Direct yn wasanaeth gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth genedlaethol i ofalwyr yn Lloegr.

P’un ai eich bod yn gofalu am rywun yn llawn amser neu ond am ychydig o oriau’r wythnos, yn rhannu eich rôl gofalu gydag eraill neu’n ei wneud ar eich pen eich hun, rydych yn gymwys am asesiad gofalwr gan eich awdurdod lleol.

Dyma’ch cyfle i drafod gyda gweithiwr cymdeithasol pa gymorth gallai fod angen arnoch wrth ofalu am ffrind neu berthynas.

Mae’n gadael i’r gweithiwr cymdeithasol asesu eich sefyllfa i weld a gewch hawlio unrhyw wasanaethau fyddai’n gwneud pethau’n haws i chi.

Gellir cyflawni asesiad y gofalwr wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn.

Os yw’r unigolyn rydych yn gofalu amdano yn byw mewn ardal arall, mae fel arfer yn digwydd yn ardal yr awdurdod lleol ble mae’n byw.

Rhaid i’r arbenigwr gofal edrych ar eich lles emosiynol a chorfforol yn gyfartal wrth benderfynu a ydych yn gymwys i gael cefnogaeth.

Rhaid i’r asesiad ystyried beth rydych am ei gyflawni yn eich bywyd o ddydd i ddydd a sicrhau nad yw’ch cyfrifoldebau gofal yn creu sefyllfa allai waethygu i chi neu’r person rydych yn gofalu amdano.

Mae’n syniad da i ystyried yr effaith y mae’r gofalu yn ei gael ar eich bywyd cyn y cyfarfod, fel y gallwch ddweud popeth sydd ei angen wrth yr arbenigwr gofal.

Gallwch geisio cadw cofnod yn eich dyddiadur o bethau fel:

  • Cysgu - ydych chi’n cael digon ohono ac effaith eich rôl gofalu ar hyn.
  • Eich anghenion gofalu eraill - a oes gennych ddigon o amser i ofalu am blant neu oedolion eraill sy’n ddibynnol arnoch?
  • Cael amser i wneud tasgau’r cartref - allwch chi ddod i ben â gwneud y rhain gyda’ch cyfrifoldebau gofal?
  • Eich cartref - ydych chi a’r person rydych yn gofalu amdano yn byw o dan yr un to neu ar wahân ac a oes newidiadau y gellid eu gwneud i’ch helpu i ymdopi?
  • Iechyd - os ydych yn llwyddo i gadw’n iach ac effaith gofalu ar hyn.
  • Gwaith, hyfforddiant ac addysg – os yw gofalu yn cael effaith ar eich swydd neu fynediad at hyfforddiant neu ddysgu ac a yw hyn yn eich poeni.
  • Bywyd cymdeithasol ac amser personol - ydych yn cael digon o amser i’w dreulio gyda’ch teulu, ffrindiau, gweithgareddau cymdeithasol ac i ofalu amdanoch chi’ch hun.
  • Sut ydych yn ymdopi - ydych yn gallu ac yn barod i gyflawni’ch rôl gofal?
  • Delio ag argyfwng - beth fyddai’n digwydd petaech yn mynd yn sâl neu’n gorfod mynd i ffwrdd?

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi gael eich asesu?

Bydd eich anghenion yn cael eu cymharu yn erbyn cyfres o feini prawf a gytunwyd arnynt yn genedlaethol i weld os ydynt yn ddigon i chi fod yn gymwys am gymorth.

Os ydych yn gymwys i gael cymorth, bydd gwasanaethau cymdeithasol yn creu cynllun cefnogaeth ar eich cyfer.

Efallai bydd yn cynnwys gofal ychwanegol ar gyfer y person rydych yn gofalu amdano, os oes angen.

Gall yr awdurdod lleol godi tâl arnoch am rai o’r gwasanaethau a dderbyniwch. Ond ni allant godi tâl arnoch am unrhyw wasanaethau mae’r unigolyn rydych yn gofalu amdano yn ei gael.

Efallai y bydd angen i chi gael asesiad ariannol ar wahân i asesu beth allwch fforddio ei dalu.

Os yw’r awdurdod lleol yn meddwl nad yw eich anghenion gofal yn ddigon sylweddol i chi fod yn gymwys am gymorth ariannol, mae’n rhaid iddynt roi cyngor a gwybodaeth i chi ar ble allwch fynd i gael cymorth gan elusennau neu sefydliadau lleol eraill.

Os ydych yn gymwys am gefnogaeth ariannol

Os ydych yn gymwys am gefnogaeth ariannol, gallech gael cyllideb bersonol.

Yna gallwch ddewis:

  • Cael taliadau uniongyrchol a phenderfynu drosoch eich hun pa ddarparwyr i ddefnyddio ar gyfer y gwasanaethau rydych eisiau
  • Gadael i’r cyngor drefnu’r gwasanaethau ar eich cyfer – er na fydd rhaid i chi ddelio â’r gwaith papur, byddwch yn cael eich cyfyngu i’r gwasanaethau mae’r cyngor yn eu darparu

Rhaid i chi sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i gwrdd â’ch anghenion.

Ni allwch ei ddefnyddio i brynu gwasanaethau ar gyfer y person rydych yn gofalu amdano.

Os nad ydych yn gymwys am gefnogaeth ariannol

Os oes rhaid i chi dalu am wasanaethau gofalwyr eich hun, byddwch i dderbyn cyllideb bersonol annibynnol.

Bydd y cyngor yn defnyddio hyn i gadw golwg o’r gofal rydych yn ei roi i’r unigolyn rydych yn gofalu amdano.

Sut i wneud cais am asesiad gofalwr

Os ydych yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, bydd angen i chi siarad gydag adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y person rydych yn gofalu amdano.

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi siarad gydag Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol y person rydych yn gofalu amdano.

Ewch i wefan Carers UKi gael gwybodaeth os ydych yn ofalwr sy’n byw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Taliadau uniongyrchol

Os dewiswch gael taliadau uniongyrchol gan yr awdurdod lleol, bydd angen i chi brynu’r gwasanaethau gofal eich hun, fel yr amlinellwyd yn y cynllun.

Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi ddewis eich darparwyr chi, a mwy o ddewis ynglŷn â sut mae bodloni’ch anghenion.

Er hyn, daw rhai cyfrifoldebau ychwanegol gyda’r budd-daliadau hyn.

  • Cofnodion. Mae’n rhaid i chi gadw gwybodaeth gywir a manwl (gan gynnwys talebau neu anfonebau) o sut y gwariwyd yr arian, a chyflwyno’r rhain i’r gwasanaethau cymdeithasol.
  • Costau. Os nad ydych yn cadw cofnodion cywir neu’n prynu gwasanaeth nad yw’n rhan o’ch cynllun gofal, bydd yn rhaid i chi dalu am y gofal eich hun.
  • Cyfrifoldebau cyflogaeth. Os ydych yn cyflogi rhywun yn uniongyrchol, bydd angen i chi ysgwyddo cyfrifoldebau cyfreithiol y cytundebau, yn ogystal â didynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol o’u cyflog.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliadau uniongyrchol – trefnu a thalu am ofal.

Gwasanaethau’r awdurdod lleol

Os ydych yn dewis i’r awdurdod lleol darparu a thalu am wasanaethau cefnogol ar eich rhan, byddwch yn osgoi’r cyfrifoldebau gweinyddol o reoli taliadau uniongyrchol. Serch hynny, byddwch yn cael eich cyfyngu i dderbyn y gwasanaethau a’r cyflenwyr sydd eisoes ganddynt gytundeb â nhw.

Astudiaeth achos

“Dwi wedi treulio’r tair blynedd diwethaf yn edrych ar ôl mam. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai gan bobl ddiddordeb yn fy helpu i. Ond roedd y bobl yn y cyngor yn ffantastig, gan drefnu seibiant i fi” – Diane

Opsiynau cefnogaeth eraill sydd ar gael i ofalwyr

Yn ogystal ag asesiadau gofalwr, mae nifer o fudd-daliadau eraill, credydau treth a chefnogaeth ariannol eraill y gallech eu hawlio fel gofalwr.

Dewch o hyd i ba fudd-daliadau a chredydau treth y gallwch eu hawlio fel gofalwr yn ein canllaw.

Rhagor o wybodaeth

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?