Bwriadu gwerthu’ch car? Yma cewch wybod am y dulliau a’r llefydd gwahanol y gallwch wneud hynny a sut y gallai bob un effeithio ar y pris a gewch. A pheidiwch â cholli’n hawgrymau ar yr adeg orau i werthu’ch car a beth i’w wneud os oes taliadau ar ôl i’w gwneud ar eich cynllun cyllid.
Dewis y ffordd orau o werthu’ch car
?
Eich cam cyntaf
Cyn i chi wneud dim byd arall, dysgwch beth yw gwerth eich car. Ceisiwch ddefnyddio offer prisio ceir ar safleoedd fel Parkers, What Car? a HPI Valuations.
Byddwch yn cael mwy am eich car trwy ei werthu’n breifat. Eich opsiwn orau nesaf yw i’w ddefnyddio’n rhan-gyfnewid gyda deliwr, ac yna gwefan prynu ceir.
Os byddwch yn gwerthu’n breifat, efallai y cewch 10% neu 15% yn fwy am eich car nag y byddech gan ddeliwr. Mae hyn yn golygu pe byddai’ch car werth £5,500 o’i werthu’n breifat, y byddech yn colli o leiaf £500 trwy ei werthu i ddeliwr.
Gwerthu car i ddeliwr
Rhan-gyfnewid: Y ffordd hawsaf i werthu’ch car yw i’w gyfnewid wrth brynu car newydd neu ail-law gan ddeliwr. Byddwch yn debygol o gael llai amdano na thrwy werthiant preifat, ond y fantais yw y byddwch yn osgoi’r gwaith a chost o hysbysebu a delio ag ymholiadau, pobl eisiau ei weld a’i yrru i’w brofi.
Bydd gwerth rhan-gyfnewid eich car ychydig yn fwy na’r pris masnachol pe byddech yn gwerthu’ch car yn uniongyrchol i ddeliwr. Fodd bynnag, efallai na fydd y deliwr yn barod i drafod pris rhan-gyfnewid.
Gwerthu’n uniongyrchol: mae gwerthu’ch car yn uniongyrchol i ddeliwr ceir neu garej yn broses gymharol syml, gyflym.
Bydd y pris a gewch yn seiliedig ar werth masnachol a chyflwr y car, felly ni fydd y pris gorau posibl.
Gwerthu car yn breifat
Gall gwerthu car yn breifat gymryd amser, ond mae’n debyg y cewch well pris.
Dyma beth sydd angen i chi ei wneud:
- Hysbysebu eich car i brynwyr posibl – er enghraifft, arwydd ‘Ar Werth’ ar ffenestri eich car ac/neu mewn siop, hysbyseb mewn papurau lleol, neu hysbysebion ar safleoedd megis Gumtree, PistonHeads, AutoTrader a Motors. Neu efallai y gallech ddod o hyd i brynwr ymysg ffrindiau neu eu ffrindiau nhw trwy gyfryngau cymdeithasol fel Facebook, neu yn y gwaith.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn disgrifio’ch car yn gywir yn eich hysbyseb ac y gallwch brofi mai chi yw ei berchennog cyfreithlon.
- Deliwch yn brydlon ag unrhyw alwadau neu negeseuon e-bost gan brynwyr posibl.
- Trefnwch a byddwch yn bresennol pan fydd pobl yn dod i’w weld a’i yrru.
- Trefnwch ffordd ddiogel o gael eich talu am y gwerthiant.
Y lle gorau i werthu’ch car
Safleoedd prynu ceir ar-lein
Mae yna lawer o safleoedd prynu ceir ar-lein fydd yn cynnig gwneud y gwaith o werthu car ar eich rhan. Byddwch yn nodi manylion eich car ar wefan y cwmni fel oed a milltiredd, yn derbyn prisiad, wedyn yn mynd â’r car i ddepo lleol i gael ei asesu.
Fodd bynnag, dywed Which?{:target=’_blank’} “Rydych chi bron yn sicr o gael pris gwell yn gwerthu’r car, neu hyd yn oed ei anfon yn syth i arwerthiant, eich hun. Yn ein hymchwil cudd, fe ganfuom y byddai pump allan o chwech o’n siopwyr cudd wedi bod yn gyfoethocach yn gwerthu i werthwr – mewn un achos, o dros £2,000.”
Os byddwch chi’n dewis gwerthu eich car ar-lein, dylech fod yn ymwybodol bod y prisiad ar-lein fel arfer yn amodol ar archwiliad yn y fan a’r lle o’ch car. Os bydd yr archwiliad yn datgelu rhai gwallau, efallai y bydd swm y prisiad terfynol yn sylweddol is. Efallai y bydd hefyd rhaid i chi dalu ffi weinyddol am y gwasanaeth.
Gwerthu car mewn arwerthiant
Mae mynd a char i arwerthiant yn gyflym a chymharol ddidrafferth.
Ond nid oes sicrwydd bydd eich car yn cyrraedd ei bris cadw, ac efallai y byddwch yn cael llai amdano na thrwy ddulliau eraill o werthu. Ac os nad yw’n cyrraedd eich pris cadw, bydd rhaid i chi fynd ag ef adref a rhoi cynnig arall arni mewn arwerthiant arall.
Mae’r rhan fwyaf o brynwyr arwerthiannau yn y diwydiant moduro. Os ydych chi’n ddigon ffodus i ddenu prynwr preifat, yna efallai y bydd yn barod i dalu mwy am eich car nag y byddai deliwr.
Arwerthiannau byw
Bydd angen i chi dalu ffi fynediad o tua £30, gosod pris cadw ar gyfer eich car, a mynd â’r car i’r arwerthiant ac yna aros i’r morthwyl syrthio.
Os yw’ch car yn gwerthu, bydd y sawl sydd wedi gwneud cynnig llwyddiannus yn talu amdano ar unwaith ac yna’r cwmni arwerthiant yn rhoi’r pris gwerthu i chi, llai ei gomisiwn. Gall hyn fod yn hyd at 10% o’r pris gwerthu.
Mae gan gwmnïau arwerthiannau car mawr megis British Car Auctions a Manheim ganghennau ledled y wlad, ond efallai y byddai’n haws i chi ddefnyddio cwmni annibynnol sy’n lleol i chi.
Arwerthiannau ar-lein
Mae Arwerthiannau ar-lein yn ffordd arbennig o hawdd o werthu car ail law. Does dim ond angen i chi hysbysebu’ch car ar y safle gyda disgrifiad llawn a lluniau, ac yna gwneud yr arwerthiant yn ‘fyw’.
Bydd angen talu rhai taliadau – er enghraifft, mae eBay Motors yn codi ffi rhestru o £10 a ffi gwerth terfynol yn seiliedig ar y pris gwerthu, o isafswm o £20 hyd at uchafswm o £35.
Fel gyda gwerthiant preifat, rhaid i chi ddisgrifio’ch car yn gywir fel er mwyn peidio camarwain prynwyr.
Alla i werthu car os oes dyled yn weddil ar gynllun cyllid?
?
Wyddoch chi?
Mae’n anghyfreithlon i werthu car i rywun os oes dyled yn weddill ar y car a dydych chi ddim yn eu hysbysu o’r sefyllfa.
Os ydych chi’n gwerthu car gyda dyled yn weddill ar gynllun cyllid, mae dau beth y mae’n rhaid i chi eu gwneud cyn y gallwch ei werthu’n gyfreithlon:
- Hysbysu’r cwmni cyllid a gofyn iddynt am “swm y setliad” fyddant ei angen gennych cyn talu’ch benthyciad yn llawn.
- Talu swm y setliad, ac unrhyw ffi ad-dalu cynnar a ffi gweinyddu a godir gan y benthyciwr.
Er gwaetha’r costau hyn, dylai talu’ch benthyciad yn gynnar gostio llai i chi nag y byddai gwneud unrhyw daliadau sy’n weddill.
Cofiwch ei bod fel arfer yn anodd iawn gwerthu car sydd â dyled i’w thalu arno.
Bydd y cwmni cyllid wedi cofrestru eich car gronfeydd data HPI ac Experian wrth i chi dderbyn eich cynllun talu.
Cyn prynu car ail law, mae’r rhan fwyaf o ddelwyr a phrynwyr preifat synhwyrol yn gwirio’r cronfeydd data hyn i sicrhau nad oes unrhyw ddyled i’w thalu arno.
Gallwch drefnu gwiriad hanes neu ddata car gan yr AA, RAC, HPI Check a chwmnïau eraill am tua £20.
Ydw i’n gallu rhan gyfnewid fy nghar gyda chyllid i’w dalu?
Mae’r un egwyddorion yn weithredol â phan fyddwch chi’n gwerthu car gyda chyllid yn weddill.
Rhaid i chi gysylltu â’r cwmni cyllid i gael “swm setlo” a thalu hyn ynghyd ag unrhyw ffioedd a thaliadau gweinyddol cyn rhan gyfnewid.
Cofiwch y bydd y rhan fwyaf o ddelwyr yn awyddus i wneud elw pan fyddant yn ailwerthu eich car, felly mae’n debygol y bydd y pris rhan gyfnewid yn is na’r pris y gallech ei gael wrth werthu’r car yn breifat. Ond, mae’n llawer mwy syml a chyflym i ran gyfnewid nag yw hi i restru, trefnu i bobl ei weld a’i brofi er mwyn gwerthu’r car eich hun.
Yr amser gorau i werthu’ch car
Mae amseru’n bwysig wrth werthu car – oed eich car a’r amser o’r flwyddyn y byddwch yn ei werthu. Dyma beth ddylech ei gofio:
- Mae cerbyd gyriant pedair olwyn yn apelio fwy yn yr haf pan fydd amodau gyrru’n waeth.
- Mae car trosadwy yn fwy dymunol yn y gwanwyn neu’r haf pan fydd y tywydd yn well.
- Po ieuengaf yw’ch car, y mwyaf ydych yn debygol o’i gael amdano, gan fod yna ddehongliad nad yw ceir mor ddibynadwy wedi pum mlynedd neu 60,000 o filltiroedd.
- Os ydych yn rhan gyfnewid, dewiswch fis pan fydd busnes yn dueddol o fod yn llai prysur ar gyfer delwyr ceir, er enghraifft, Ionawr, Mawrth, Awst a Rhagfyr.
Ni all gwerthwyr a phrynwyr drosglwyddo treth gyfredol mwyach pan werthir car.
Yn hytrach bydd rhaid i chi drethu’r car eich hun a gall y cyn berchennog ymgeisio am ad-daliad.
Fodd bynnag, bellach mae treth newydd yn cael ei ddyddio’n ôl i ddechrau’r mis ac ad-daliadau o ddechrau’r mis canlynol. Golyga hynny os gwerthwch gar ac yna prynu car yn gynnar yn y mis, byddwch yn talu treth ddwywaith.
Os ydych chi’n gwneud cais am HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol) cyn diwedd y mis gallwch osgoi talu treth ar eich car presennol. Fodd bynnag, fe wynebwch ddirwy os gyrrwch ar y ffordd heb dreth ar ôl gwneud hynny. Gallai hyn beri anhawster os bydd prynwr yn dymuno profi’ch car.
Cael gwared ar eich car
Os yw’ch car yn dod i ddiwedd ei oes ac yn dod yn llai economaidd i’w gynnal, ystyriwch ei roi i elusen neu ei sgrapio. Darllenwch ein canllaw ar Sut i gael gwared ar hen gar.
Sut i baratoi eich car i’w werthu
Ynghyd â golchi a chlirio eich car a gwirio ei fod yn gweithio fel y dylai (oni bai eich bod yn gwerthu’r car gyda namau ac yn egluro hyn yn yr hysbyseb i’w werthu), mae yna rai manylion eraill fydd angen i chi ofalu amdanynt.
Mae angen i chi ddweud wrth y DVLA eich bod wedi gwerthu’ch car. Mae hyn oherwydd eich bod yn gyfreithiol gyfrifol am y cerbyd nes iddynt gael hysbysiad.
I ddweud wrth y DVLA eich bod wedi gwerthu’ch car, gallwch anfon ail ran y V5C (llyfr log) atynt, neu ddefnyddio gwasanaeth ar-lein y DVLA.
Bydd hen berchennog y car – sef chi fel arfer, ond gallai hefyd yn gyfreithiol fod y sawl a enwir ar y V5C (llyfr log) felly gallai fod eich partner – yn derbyn ad-daliad ar gyfer treth cerbyd y car (neu dreth ffordd fel y’i gelwir hefyd). Mae’r ad-daliad dim ond ar gyfer unrhyw fisoedd llawn rydych wedi talu amdanynt.
Peidiwch ag anghofio talu unrhyw gyllid sy’n weddill ar eich car, ac i roi gwybod i’ch yswiriwr eich bod wedi gwerthu’r car.