Cytundebau cyflogaeth: egluro eich hawliau fel cyflogai

Mae cytundeb cyflogaeth yn sefydlu’r hawliau priodol, cyfrifoldebau a dyletswyddau’r cyflogwr a’r cyflogai. Dylech wirio unrhyw gytundeb cyflogaeth yn ofalus cyn cytuno iddi, ac, os ydych yn ansicr, geisio cymorth proffesiynol.

Eich hawliau chi

Mae hawliau cyfreithiol yn cynnwys yr hawl i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol neu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r hawl i gael tâl gwyliau. O fis Ebrill 2016, y Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer gweithwyr 25 oed a hŷn yw £7.20 yr awr.

Mae hawliau cyfreithiol yn cynnwys yr hawl i gael eich talu ddim llai na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, yr hawl i gael tâl adeg gwyliau, ac i’r rhan fwyaf o bobl, unwaith y bydd eich cyflogwr wedi ei gwmpasu gan reolau newydd sy’n cael eu cyflwyno o fis Hydref 2012, gorfodaeth ar y cyflogwr i’ch cofrestru ar gynllun pensiwn.

I’r rhan fwyaf o gyflogeion, unwaith y bydd eich cyflogwr wedi ei gwmpasu gan reolau newydd sy’n cael eu cyflwyno o fis Hydref 2012, mae gorfodaeth ar y cyflogwr hefyd i’ch cofrestru ar gynllun pensiwn. Cofrestru awtomatig yw’r enw a roddir ar y broses hon.

Felly, er enghraifft, bydd cytundebau i gael llai o dâl na’r isafswm cyflog yn aneffeithiol.

Eich cytundebEich cytundeb cyflogai – telerau diamwys a thermau goblygedig mewn cytundeb cyflogaeth

Fel arfer mae cytundeb ysgrifenedig yn cynnwys cymysgedd o ddau fath o delerau cytundebol:

  • Telerau diamwys
  • Telerau goblygedig

Telerau diamwys a thermau goblygedig mewn cytundeb cyflogaeth

Elfennau o’ch cytundeb yw telerau diamwys sydd wedi cael eu crybwyll yn benodol, un ai mewn ysgrifen neu ar lafar, gan y cyflogwr a’r gweithiwr. Gall y rhain gynnwys:

  • faint o gyflog a gewch (gan gynnwys goramser a thâl bonws)
  • oriau gweithio, gan gynnwys oriau goramser
  • tâl gwyliau, yn ogystal â faint o amser y cewch ei gymryd fel gwyliau (mae’r rhan fwyaf o weithwyr llawn amser yn cael 28 diwrnod a gweithwyr rhan amser yn cael yr un faint pro rata i’r nifer o ddyddiau/oriau maent yn ei weithio)
  • tâl salwch
  • tâl diswyddo, a
  • faint o rybudd sy’n ofynnol i’w roi i ddiweddu’r cytundeb

Yn ogystal â’r cytundeb, gellir dod o hyd i dermau diamwys mewn:

  • hysbyseb swydd
  • unrhyw lythyrau a gewch gan eich cyflogwr
  • dogfennau y bu angen arnoch chi eu harwyddo, megis llawlyfr staff neu gyfeirlyfr

Sicrhewch eich bod yn cadw copïau o’r holl ddogfennau a gewch gan eich cyflogwr.Mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws os bydd anghydfod ynglŷn â’ch cytundeb.

Telerau goblygedig

Nid yw termau goblygedig yn rhai ysgrifenedig, ond gallant gael eu rhoi i mewn i’r rhan fwyaf o gytundebau cyflogai. Er enghraifft, na fyddwch yn dwyn oddi wrth eich cyflogwr neu’n datgelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol.

Bydd raid i’ch cyflogwr, o ganlyniad i hyn, gynnig amgylchedd diogel gan beidio â gofyn i chi wneud unrhyw beth anghyfreithlon, megis gyrru cerbyd nad yw wedi ei yswirio. Elfen bwysig o gytundeb cyflogwr yw’r syniad o gydymddiriedaeth a hyder rhyngoch chi a’r cyflogwr.

Gall telerau goblygedig gael eu cynnig drwy arferiad a phatrwm. Digwydd hyn pan nad yw trefniadau wedi cael eu cytuno’n glir ond dros amser wedi datblygu’n rhan o’r cytundeb. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys gorffen yn gynnar ar ddydd Gwener, neu fonws Nadolig. I hawliau ddod yn rywbeth sefydlog trwy arferiad a phatrwm, fel rheol mae angen iddo gael ei dderbyn yn awtomatig, yn ddi-dor, yno ers tro ac yn wybyddus.

Eich statws cyflogaeth

Mae tri math o statws cyflogaeth:

  • Cyflogai
  • Gweithiwr
  • Hunangyflogedig

Nid oes diffiniad clir rhwng gweithwyr a chyflogeion, ond dyma ganllaw bras.

  • Bydd gan weithwyr, yn sylfaenol, hawliau cyflogaeth craidd megis amser egwyl a hawl i gael Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol, a hawl efallai i gael tâl salwch a gwyliau mamolaeth. Bydd y cyflogwr yn gyfrifol am ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol. Gallai’r gwaith, serch hynny, fod yn achlusurol.
  • Mae cyflogeion yn weithwyr sydd â mwy na hawliau sylfaenol yn unig ac mae ganddynt fwy o gyfrifoldebau: megis yr angen i roi rhybudd os ydych am adael. Os yw eich cyflogwr yn dweud wrthych pa bryd ac ymhle mae angen i’r gwaith gael ei wneud, yn darparu’r offer ar gyfer y gwaith, ac yn medru eich rhoi o flaen trefn ddisgyblu, yna rydych yn debygol o fod yn gyflogai a bydd gennych gytundeb cyflogaeth.
  • Mae pobl hunangyflogedig yn cael eu cytundebu i ddarparu gwasanaeth i’w cleientiaid a’u cwsmeriaid. Os medrwch chi benderfynu pryd yr ydych am weithio, ac yn medru cael rhywun arall i wneud y gwaith yn eich lle, yn trefnu eich materion salwch a gwyliau eich hun, talu eich treth a’ch Yswiriant Gwladol eich hun, rydych yn debygol iawn o fod yn hunan-gyflogedig. Bydd eich cytundeb yn gytundeb am wasanaeth.

Mae angen i chi fod yn glir ynghylch eich statws er mwyn i chi wybod beth yw eich hawliau.

Dysgwch ragor am fathau o statws cyflogaeth ar wefan GOV.UK

Mae statws cyflogaeth yn wahanol iawn i’ch patrwm gwaith. Gallwch fod yn gyflogai neu’n weithiwr ond yn gweithio’n rhan amser, am gyfnod penodol, achlysurol, oriau zero, tymhorol neu dros dro. Ni ddylai cyflogeion ar gytundebau penodol gael eu trin yn waeth na chyflogeion parhaol, oni bai bod y cyflogwr yn medru cyfiawnhau triniaeth llai ffafriol.

Cewch weld mwy am dâl a buddion ar gyfer gweithwyr dros dro a gweithwyr asiantaeth.

Os oes anghydfod, dim ond llys neu dribiwnlys all wneud penderfyniad terfynol ynglŷn â’ch statws cyflogaeth.

Problemau cytundebau cyflogai a phwy i gysylltu â nhw

Pan gewch eich cytundeb dylech ei ddarllen yn ofalus cyn ei arwyddo oherwydd wrth ei arwyddo, rydych yn cytuno gyda thelerau’r cytundeb.

Os oes rhywbeth yn y cytundeb nad ydych yn cytuno ag ef neu y teimlwch ei fod yn annheg, gallwch drafod hyn gyda’ch cyflogwr a gofyn iddynt a ydynt yn fodlon ei newid neu ei dynnu allan o’r cytundeb. Gallech gael cyngor gan gyfreithiwr hefyd, eich undeb llafur (os ydych yn aelod), ACAS (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban a’r Labour Relations Agency (LRA) yng Ngogledd Iwerddon.

Os yw’r cytundeb gyda’ch cyflogwr wedi ei thorri, er enghraifft os nad ydynt yn eich talu am rywbeth y dylent, fe ddylech geisio datrys hyn yn anffurfiol yn gyntaf gyda’ch cyflogwr. Os nad ydych yn llwyddiannus gallwch geisio gwneud cwyn. Os nad yw’r mater yn cael ei ddatrys wedyn, gallwch geisio cael cyfryngiad trwy ACAS neu’r LRA, os yw eich cyflogwr yn cytuno.

[Sut y gall ACAS roi cymorth i ddatrys materion cyflogaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban

](http://www.acas.org.uk/index.aspx?articleid=2042)

Gallwch gysylltu â llinell gymorth ACAS ar 0300 123 1100 a llinell gymorth LRA ar 028 9032 1442.

Os na fedrwch chi ddatrys y broblem, gallech ddefnyddio tribiwnlys cyflogaeth ((gelwir hwn yn dribiwnlys diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon).

Er nad oes costau cyfreithiol fel arfer, bydd rhaid i chi dalu ffi a fydd yn ddibynnol ar y math o hawliad ydych chi’n ei wneud. Os ydych chi ar incwm isel iawn, efallai na fydd rhaid i chi dalu’r ffi. Mae yna ragor o wybodaeth am ffioedd tribiwnlys ar y wefan GOV.UK.

Dim ond os byddwch yn medru profi gwir golled ariannol y byddwch yn medru hawlio taliad am iawndal – nid oes iawndal am frifo teimladau neu gael ysgytwad oni bai bod tystiolaeth o wahaniaethu.

Pryderon cytundebol

Cytundebau oriau zero a chytundebau amser allweddol

Nid yw cytundebau oriau zero yn nodi’r nifer o oriau y bydd cyflogai angen eu gweithio. Maent yn effeithio ar staff gwestai, arlwyo a siopau yn bennaf ac yn berthnasol i tua pump y cant o weithwyr. Yn aml mae cytundebau yn nodi bod angen i chi fod yn barod i weithio yn ôl y gofyn. Os ydych ar alwad i weithio sifftiau ychwanegol i’ch nifer o oriau cytundebol pendant, yna nid ydych o angenrhaid ar gytundeb oriau zero. Holwch eich cyflogwr os ydych yn ansicr.

Mae cytundebau amser allweddol yn sicrhau peth cyflogaeth, ond nid oriau rheolaidd bob wythnos.

Y drafferth gyda’r mathau hyn o gytundebau yw nad ydych yn cael eich talu am unrhyw amser y treuliwch yn sefyllian yn disgwyl am waith. Er hyn, yn gyfreithiol, os ydych ar gytundeb oriau zero, mae gennych hawl i gael eich talu am unrhyw amser lle mae angen i chi fod yn y gweithle os nad yw eich cytundeb yn dweud i’r gwrthwyneb, hyd yn oed os ydych yn disgwyl i’r gwaith gychwyn. Dylech gael eich cyfradd tâl arferol yr awr, neu o leiaf yr isafswm cyflog.

Didyniadau anawdurdodedig o gyflog

Os yw cyflogwr yn mynd i wneud didyniadau o’ch cyflog, yna dylent fod ag awdurdod cyfreithiol i wneud hynny, er enghraifft treth ac Yswiriant Cenedlaethol, a’i roi i mewn i’ch cytundeb gydag eglurhad ysgrifenedig neu wedi ei gytuno mewn ysgrifen cyn iddo ddigwydd.

Mae rhai eithriadau, er enghraifft, os ydych wedi cael gormod o gyflog mewn camgymeriad neu heb weithio gan eich bod wedi ymgyrchu’n ddiwydiannol.

Mae diogelwch arbennig yn bodoli ar gyfer cyflogeion adwerthu sy’n golygu ei bod hi’n anghyfreithlon i gyflogwr ddidynnu mwy na 10% o’r cyflog gros ar gyfer prinder arian neu ddiffyg stoc.

Dylech gael eich cyfradd tâl arferol yr awr, neu o leiaf y Cyflog Byw Cenedlaethol, neu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Cyfnodau prawf

Os yw cyflogwr yn mynd i wneud didyniadau o’ch cyflog, yna dylai fod ag awdurdod cyfreithiol i wneud hynny, er enghraifft treth ac Yswiriant Gwladol, a’i roi i mewn i’ch cytundeb gydag eglurhad ysgrifenedig neu wedi ei gytuno mewn ysgrifen cyn iddo ddigwydd.

Er enghraifft, yn ystod cyfnod prawf, efallai na fyddwch yn medru cael yr holl hawliau hyd nes i chi orffen y cyfnod hwnnw, ond ni all fod unrhyw leihad yn eich hawliau statudol, er enghraifft cael eich talu am gyfnod gwyliau, cyfnod mamolaeth statudol neu dâl salwch. Bydd eich hawliau cytundebol llawn yn cychwyn ar eich diwrnod cyntaf o waith, os na fydd eich cytundeb yn nodi unrhyw beth i’r gwrthwyneb.

Newidiadau i gytundebau

Efallai y bydd eich cyflogwr yn dymuno newid telerau eich cytundeb, er enghraifft:

  • newid y gwaith a wnewch
  • newid eich cyflog
  • cwtogi neu newid yr oriau yr ydych yn eu gweithio
  • newid eich lleoliad gwaith

Mewn egwyddor, ni all eich cyflogwr newid telerau eich cytundeb heb eich caniatâd. Er hyn, mewn gwirionedd, gallech wynebu’r dewis rhwng derbyn y newid neu golli eich swydd.