Os ydych yn ei chael yn anodd rheoli’ch arian oherwydd bod gennych gyflwr iechyd hirdymor neu’ch bod yn anabl, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i hwyluso bywyd. Dilynwch y pump cam yma i hwyluso rheolaeth ariannol.
Cam 1 – Cael eich talu yn syth i’ch cyfrif banc
Fel arfer mae’n llawer haws i drefnu i’ch holl incwm gael ei dalu’n syth i’ch cyfrif banc – gallwch ddal i wneud hyn os ydych yn derbyn budd-daliadau, tâl salwch neu os ydych yn gweithio rhan-amser. Mae’n beth da cael eich talu fel hyn oherwydd:
- mae’n arbed teithiau i’r banc i chi
- does dim rhaid i chi aros i siec glirio cyn cael eich arian
- mae’n fwy diogel na chario arian gyda chi
Os nad oes gennych gyfrif banc a’ch bod yn meddwl y gallech gael anhawster agor un oherwydd bod gennych, er enghraifft, incwm isel neu statws credyd gwael, gallech wneud cais am gyfrif banc sylfaenol. Dyma’r rhai hawsaf i’w cael.
Cam 2 – Defnyddiwch Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog ar gyfer biliau
Wedi i chi orffen eich cyllideb a gweld bod gennych ddigon o arian yn dod i mewn i gyd-fynd â’ch gwariant, newidiwch eich biliau rheolaidd i Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog.
- does dim rhaid poeni am gyrraedd y banc neu flwch post
- cymerir taliadau yn awtomatig felly ni fydd rhaid i chi wynebu unrhyw gosbau taliad hwyr
- mae nifer o gwmnïau, cynghorau a sefydliadau yn rhoi gostyngiad i bobl sy’n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
Byddwch yn ofalus os nad ydych wedi cydbwyso’ch cyllideb – gall Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog a wrthodwyd eich gadael yn wynebu taliadau banc mawr.
Cam 3 – Gwnewch daliadau ar-lein neu ddefnyddio bancio dros y ffôn
Ar gyfer biliau na allwch eu talu trwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog, edrychwch i weld a allwch eu talu yn defnyddio’ch gwasanaethau ar-lein neu fancio ffôn. Os nad yw bancio ar-lein yn addas i chi, nid oes dim haws na chodi’r ffôn i dalu bil. Mae’n gyflym, hawdd a diogel talu fel hyn.
Cam 4 – Defnyddiwch fancio ar-lein neu dros y ffôn i gadw llygad ar eich balansau
Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cadw llygad barcud ar eich balans banc fel na fyddwch yn mynd i ddyled gan orfod talu ffioedd ychwanegol. Gall bancio ar-lein neu dros y ffôn eich helpu i weld beth yw beth os ydych adref. Os byddwch yn rhagweld trafferth, meddyliwch am ffonio eich banc cyn iddynt orfod eich ffonio chi.
Cam 5 – Gofynnwch am gymorth gan eich banc
Mae’n rhaid i fanciau sicrhau bod eu gwybodaeth a’u gwasanaethau mor hygyrch â phosibl ar gyfer eu cwsmeriaid anabl.
Mae’r cymorth y gallwch ei fynnu’n cynnwys:
- cyfriflenni banc a dogfennau eraill mewn fformatau Braille, print bras a sain
- peiriannau ATM (peiriannau arian parod) sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac sydd â swyddogaeth testun-i-lais
- cardiau sglodyn a llofnod ar gyfer y cwsmeriaid hynny na allant gofio PIN
- cownteri lefel isel mewn cangen a chownteri wedi’u ffitio â dolen sain
Gofynnwch i’ch banc ba gymorth y gallant ei gynnig ichi.
Cael rhywun i’ch helpu gyda’ch arian bob dydd
Os ydych angen help i wneud pethau penodol, fel cael arian parod o’r banc, er enghraifft, gallwch ddysgu mwy am eich opsiynau a sut i wneud trefniadau i gael cymorth trwy ddilyn y dolenni isod:
Os ydych yn poeni am faint sydd gennych i fyw arno
?
A wyddech chi?
Gallwch gael gostyngiad ar eich biliau trwy ddefnyddio Debyd Uniongyrchol i dalu’r rhan fwyaf o gwmnïau ynni a ffôn.
Os ydych yn poeni am gael digon i fyw arno, cymrwch olwg ar ein cyngor ar gael dau ben llinyn ynghyd a hawlio’r budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Os nad oes gennych gyfrif banc
Pan fyddwch yn agor cyfrif, bydd angen ichi ddangos tystiolaeth o bwy ydych chi a’ch cyfeiriad. Os nad yw’r dogfennau cywir gennych, gofynnwch i’r banc beth fyddant yn ei dderbyn yn eu lle. Bydd rhai banciau’n derbyn llythyr gan rywun cyfrifol, megis athro neu weithiwr cymdeithasol, neu lythyr sy’n dynodi budd-daliadau.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?