Gyda babi newydd yn eich bywydau, gwneud ewyllys yw’r peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud i sicrhau y darperir ar gyfer eich plentyn pe bai rhywbeth yn digwydd i chi.
Pam ddylech chi wneud ewyllys pan rydych wedi cael babi?
?
Awgrym da
Drwy wneud ewyllys, gallwch gysgu’n dawel gan wybod y gofalir am eich plant a phartner yn unol â’ch dymuniadau pe bai rhywbeth yn digwydd i chi.
Wel, yn gyntaf oll, does neb yn gwybod beth all digwydd. Ac os byddwch chi’n marw heb ewyllys, y gyfraith sy’n penderfynu pwy sy’n cael beth. Golyga hynny y gallai aelodau o’ch teulu gael llai nag oeddech chi neu roedden nhw’n ei ddisgwyl, a gallech eu gadael mewn anhawster ariannol diangen.
Ond nid mater o arian yn unig yw ewyllys – mae hefyd yn golygu penderfynu pwy ddylai ofalu am eich plant os byddwch chi’n marw (penodi gwarcheidwad neu warcheidwaid ar eu cyfer) a gwneud trefniadau ariannol priodol ar eu cyfer wrth iddyn nhw dyfu i fyny.
Cael gwybod mwy ynghylch pam ddylech chi wneud ewyllys
Os ydych chi’n ddi-briod gyda phlant
?
Wyddoch chi?
Mae llawer o bobl yn meddwl bod gan bartneriaid ‘cyfraith gwlad’ hawliau cyfreithiol i etifeddu os bydd eu partner yn marw. Nid yw hynny’n gywir. Heb ewyllys efallai bydd yn rhaid iddynt fynd i’r llys.
Mae llai o bobl yn priodi heddiw nag ar unrhyw adeg yn ystod y 100 mlynedd diwethaf. Ond yn anffodus, dydy’r gyfraith ddim yn adlewyrchu’r ffaith honno. Y gwirionedd yw, os byddwch yn marw heb ewyllys, does gan eich partner di-briod ddim hawl cyfreithiol i unrhyw beth.
Yn yr achos gwaethaf, gallai hynny olygu na fydd eich partner yn gallu aros yng nghartref y teulu, neu na fydd ganddo ddigon o arian i fagu’ch plant.
Gwnewch ewyllys neu adolygwch yr un sydd gennych i sicrhau y bydd eich partner a’ch plant yn cael yr hyn rydych yn dymuno iddynt ei gael.
Darllenwch am y pa mor bwysig yw gwneud ewyllys os nad ydych yn briod ar y wefan Advicenow.
Gwneud ewyllys
Mae gennych dri phrif opsiwn wrth gynllunio’ch ewyllys:
- defnyddio cyfreithiwr
- defnyddio gwasanaeth ysgrifennu ewyllys
- ei gwneud eich hun
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy ynghylch faint y bydd pob un o’r opsiynau’n ei gostio ichi, a sut i ddewis yr un iawn ar eich cyfer chi.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?