Os bydd popeth yn mynd yn dda, mae hawliad yswiriant yn syml a di-boen – yn arbennig os byddwch yn cymryd amser i gael y manylion yn iawn. Mae’r erthygl hon yn mynd â chi trwy’r broses o wneud hawliad effeithiol ar eich yswiriant fel yswiriant cartref, car neu deithio. Ychydig yn nes ymlaen fe welwch ragor o wybodaeth am yswiriant bywyd ac iechyd fel yswiriant meddygol preifat, diogelu incwm ac yswiriant salwch difrifol.
Byddwch yn barod – cadwch gofnodion da
Mae bod yn barod yn golygu eich bod yn cadw popeth y bydd arnoch ei angen rhag ofn y bydd arnoch angen gwneud hawliad. Mae hyn yn golygu cadw derbynebau ar gyfer y pethau sydd wedi eu hyswirio, a chadw eich dogfennau polisi yn rhywle diogel.
Os byddwch wedi yswirio eitemau gwerthfawr mae’n syniad da cymryd lluniau sy’n dangos eu cyflwr.
Eich hawliad – gam wrth gam
Cam 1 – Rhoi adroddiad
Os ydych yn hawlio am rywbeth wedi ei ddwyn neu ei fandaleiddio, fe ddylech bob amser roi adroddiad ar y digwyddiad i’r heddlu cyn gwneud dim byd arall. Mae gan y rhan fwyaf o bolisïau derfynau amser i roi adroddiad ar bethau i’r heddlu felly gwnewch hynny ar unwaith.
Cam 2 – Edrychwch ar eich polisi
Y cam nesaf yw gwneud yn siŵr bod beth bynnag a ddigwyddodd wedi ei gynnwys, ac yna gwiriwch a oes gweithdrefn y dylech ei dilyn.
Dywedwch fod pibell wedi byrstio a bod angen i chi ei thrwsio ar unwaith. Mae rhai polisïau yn nodi bod rhaid i chi ddefnyddio gweithiwr sydd wedi ei gymeradwyo gan y cwmni yswiriant. Peidiwch â galw eich plymiwr arferol yn syth – edrychwch ar eich polisi, gwiriwch fod pibellau yn byrstio wedi eu cynnwys, ac yna gofynnwch i rywun eu trwsio sy’n bodloni’r meini prawf yn eich polisi. Weithiau bydd y cwmni yswiriant yn gwneud yr holl drefniadau ar eich rhan.
Cam 3 – Dod o hyd i’r dogfennau i gyd
Mae cael popeth wrth law yn gwneud i’r broses gyfan fynd yn fwy esmwyth. Bydd arnoch angen:
- eich dogfen bolisi
- derbynebau am rywbeth sydd wedi ei ddwyn neu ei ddifrodi
- rhifau cyfeirnod – os gwnaethoch roi adroddiad i’r heddlu er enghraifft
Cam 4 – Cael y ffeithiau yn iawn
?
Cofiwch
Er mwyn helpu i gyflymu’r gwaith o brosesu eich hawliad gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb yr holl gwestiynau yn gywir a rhoi esboniad llawn o gefndir unrhyw hawliad.
Byddwch yn glir am yn union beth ddigwyddodd fel eich bod yn medru dweud eich stori yn ffeithiol a chyson heb anghofio unrhyw fanylion na gor-ddweud. Mae’n well ysgrifennu popeth i lawr yn aml.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod:
- amseroedd a dyddiadau
- manylion pawb oedd yn rhan o’r digwyddiad (y parti arall mewn damwain car, efallai, neu’r plymiwr wnaeth drwsio pibellau wedi byrstio)
- beth yn union a ddigwyddodd
- beth yr ydych yn hawlio amdano – faint o arian yr ydych yn disgwyl ei gael
Cam 5 – Wedi prynu trwy frocer? Ffoniwch nhw yn gyntaf
Pan fyddwch yn prynu polisi yswiriant trwy frocer, fe fyddant yn eich helpu i hawlio yn aml. Gallant gynnig cyngor a chefnogaeth, neu weithio gyda’ch cwmni yswiriant a gwneud popeth ar eich rhan.
Y naill ffordd neu’r llall, mae’n werth rhoi galwad cyn i chi siarad â’ch cwmni yswiriant.
Cam 6 – Ffoniwch linell gymorth y cwmni yswiriant
Er mwyn gwneud yr hawliad ei hun, ffoniwch y llinell gymorth hawliadau ar gyfer y cwmni yswiriant. Fel arfer bydd y rhif hwn yn cael ei restru ar eich dogfen bolisi, ac ar wefan yr yswiriwr. Byddwch yn barod i roi’r holl fanylion a gwybodaeth y gwnaethoch eu cael yng nghamau 3 a 4.
Yswiriant bywyd ac iechyd – beth sy’n wahanol?
Os byddwch yn cyflwyno hawliadau yswiriant bywyd neu iechyd preifat, fel arfer bydd gan eich cwmni yswiriant reolau pendant iawn am sut y gallwch hawlio.
Er enghraifft, gydag yswiriant meddygol preifat mae eich hawliad yn cychwyn pan fyddwch yn cael triniaeth. Er mwyn cael triniaeth bydd angen i chi:
- fynd at eich Meddyg Teulu
- gofyn i’ch meddyg teulu eich cyfeirio at feddyg preifat
- chysylltu â’ch cwmni yswiriant iechyd i gael cymeradwyaeth ar gyfer triniaeth breifat
Ar gyfer hawliadau yswiriant bywyd, salwch difrifol a diogelu incwm, cysylltwch â’r cwmni yswiriant yn gyntaf i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod yn union beth yw’r weithdrefn.
Awgrymiadau er mwyn i’ch hawliad gael ei dderbyn
-
Cyflwynwch eich hawliad cyn gynted ag sy’n bosibl. Efallai bod cyfyngiad amser ar eich polisi ar gyfer cyflwyno hawliadau – a hyd yn oed os oes gennych ddigon o amser, mae’n well cyflwyno’r hawliad tra bydd y wybodaeth yn dal yn ffres yn eich meddwl.
-
Rhowch y wybodaeth yn glir. Hawsaf yn y byd fydd pethau i’r cwmni yswiriant, lleiaf yn y byd o oedi a fydd wrth iddynt brosesu eich hawliad.
-
Peidiwch â gorliwio. Peidiwch byth â cheisio gwneud gwerth eich hawliad yn fwy nag y dylai fod. Cadwch at y ffeithiau. Mae yswirwyr wedi arfer gweld hawliadau nad ydynt yn gwneud synnwyr. Os gofynnwch chi am ormod fe allech wneud eich hawliad yn annilys.
-
Cofnodwch y difrod. Cymrwch luniau a fideos o’r eiddo sydd wedi ei ddifrodi, ystafelloedd gwesty nad ydynt i’r safon ddisgwyliedig, neu beth bynnag yr ydych yn hawlio ar ei gyfer, cyn gynted ag y bydd y difrod yn digwydd. Nodwch rifau hediad ar gyfer hediadau pan fu oedi, gwnewch restr o eitemau sydd wedi eu dwyn – mwyaf yn y byd o dystiolaeth gadarn sydd gennych, cyflymaf yn y byd fydd hi i gwmni yswiriant brosesu eich hawliad.
-
Cadwch gofnod o’r broses hawlio. Unrhyw bryd y byddwch yn siarad â chwmni yswiriant, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnod o’r dyddiad a’r amser, enw’r unigolyn rydych wedi siarad ag ef/hi a beth ddywedwyd. Cadwch unrhyw lythyrau yr ydych wedi eu derbyn, a chopïau o lythyrau y byddwch yn eu hanfon.
Hawliadau a wrthodir
A yw eich hawliad wedi ei wrthod? Darllenwch ein canllaw i weld beth i’w wneud nesaf.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?