Cynllun Hawl i Brynu: Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Os ydych chi’n denant tŷ cyngor neu gymdeithas dai, efallai y gallech chi brynu’ch cartref am bris is na phetai ar y farchnad. Dyma ychydig o wybodaeth ar Hawl i Brynu a sut i ymgeisio amdano.

Hawl i Brynu

Faint o ostyngiad a gaf i?

Uchafswm y disgownt hawl i brynu yw:

  • £103,900 yn Llundain
  • £77,900 ar gyfer gweddill Lloegr
  • £8,000 yng Nghymru
  • £24,000 yng Ngogledd Iwerddon
  • Yn yr Alban daw’r cynllun i ben ar 1 Awst 2016.

Os gwerthwch cyn pen pum mlynedd byddwch yn gorfod talu swm llawn eich gostyngiad yn ôl hefyd, neu ran ohono, ynghyd â chyfran o unrhyw elw.

A gaf i Ymgeisio?

Cewch, os:

  • Buoch yn denant cyngor neu sector cyhoeddus ers tair blynedd
  • Bydd y cartref y dymunwch ei brynu yn cael ei ddefnyddio fel eich prif gartref
  • Nad ydych yn rhannu ystafelloedd gyda phobl eraill – h.y. mae’r eiddo’n hunangynhwysol
  • Y cyngor, cymdeithas dai, ymddiriedolaeth GIG yw eich landlord, neu unrhyw landlord sector cyhoeddus arall

Hefyd:

  • Gallwch ymgeisio am Hawl i Brynu gyda rhywun arall sy’n rhannu’r denantiaeth gyda chi; neu gyda hyd at dri aelod o’ch teulu os buoch yn byw gyda’ch gilydd ers y 12 mis diwethaf o leiaf
  • Os gwerthodd y cyngor eich cartref i landlord sector cyhoeddus arall tra yr oeddech chi’n byw yno, gall yr hawl fod gennych o hyd i’w brynu dan ‘Hawl i Brynu a Gadwyd’

Dan ba amgylchiadau nad yw’r Hawl i Brynu gennych chi?

  • Os ydych dan fygythiad o gael eich troi allan, yn fethdalwr neu â dyledion sylweddol
  • Os yw eich cartref wedi ei gadw er defnydd yr henoed a’r anabl
  • Pan fydd prinder tai

Sut ydw i’n cychwyn ar y broses?

Gofynnwch i’ch landlord an ffurflen Hawl i Brynu. Unwaith y byddwch wedi ei phostio, rhaid i’ch landlord ateb cyn pen pedair wythnos. Os mai na fydd yr ateb rhaid iddo roi rheswm, ac os mai ie fydd yr ateb yna bydd yn anfon cynnig atoch.

Gallwch siarad â’r gwasanaeth Asiantwyr Hawl i Brynu hefyd a fydd yn cyfeirio tenantiaid at gyngor annibynnol heb rwymedigaeth ac yn eu helpu gyda’r broses ymgeisio.

Cysylltiadau defnyddiol Hawl i Brynu

Beth fydd y gost o brynu’r eiddo?

Bydd eich landlord yn cyhoeddi ei bris ac yn egluro’r gostyngiad. Os credwch nad yw’r pris yn un teg gallwch ofyn am bris gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio annibynnol gan Gyllid a Thollau EM.

  • Bydd cynnig y landlord yn cynnwys disgrifiad o’r eiddo ac unrhyw dir, manylion unrhyw broblemau strwythurol ac amcangyfrif o’r ffi wasanaethu (os o gwbl) am y pum mlynedd gyntaf
  • Rhaid i’r landlord ddweud wrthych os oes cyfyngiad ynglŷn â phwy y gallwch werthu’ch cartref iddynt ymhen amser. Gallai hyn ei gwneud hi’n anoddach cael morgais.
  • Mae gennych 12 wythnos i benderfynu i symud ymlaen neu beidio

A gaf i newid fy meddwl?

Cewch, gallwch dynnu’n ôl o’r gwerthiant ar unrhyw adeg a pharhau i rentu.

Codi’r arian

Mae’r rhan fwyaf o brynwyr angen morgais i dalu am eu cartref. Gallwch ymgeisio am forgais yn uniongyrchol o’ch banc neu gymdeithas adeiladu, a bydd y darparwr yn gwirio a allwch chi fforddio’r ad-daliadau.

Faint allwch chi fforddio ei fenthyca?

Cyn symud ymlaen, gwnewch yn siŵr fod gennych chi ddigon o arian i dalu am unrhyw ffioedd a chostau eraill y bydd angen i chi eu talu yn ystod y broses o brynu eich cartref.

Canllaw i ffioedd a chostau morgeisi

Cyfrifiannell llog morgais ac ad-dalu

Hawl i Brynu yn Lloegr

Hawl i Brynu yng Nghymru

Hawl i Brynu yng Ngogledd Iwerddon

Hawl i Gaffael

Cynigir y cynllun Hawl i Gaffael yng Nghymru a Lloegr ar gyfer tenantiaid cymdeithasau tai nad ydynt yn gymwys ar gyfer Hawl i Brynu.

  • Rhaid i chi fod wedi bod yn denant ers tair blynedd o leiaf ac yn bwriadu prynu’ch eiddo i’w ddefnyddio fel eich prif gartref
  • Ni chewch ymuno â’r cynllun os ydych dan fygythiad o gael eich troi allan, yn fethdalwr neu â dyledion sylweddol
  • Os yw’r eiddo ar fin cael ei ddymchwel, neu ei ddarparu ar gyfer yr henoed, pobl anabl neu bobl sydd mewn swyddi neilltuol, ni fydd y tenant yn gymwys.
  • Mae’r gostyngiadau yn is na’r hyn a gynigir dan Hawl i Brynu ac yn amrywio o £9,000 i £16,000 fel arfer

Yn Lloegr

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid i’ch landlord fod yn gymdeithas dai neu ar y gofrestr o ddarparwyr tai cymdeithaso. Rhaid fod arian cyhoeddus wedi ei ddefnyddio i ariannu adeiladu’ch cartref neu wedi ei drosglwyddo o gyngor lleol ers 1 Ebrill 1997.

Yn yr Alban

Mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu dod â’r cynllun i ben ar gyfer holl denantiaid cynghorau a chymdeithasau tai yr Alban. Bydd gan denantiaid sydd â Hawl i Brynu ar hyn o bryd ddwy flynedd i wneud hynny.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Wefan Llywodraeth yr Alban.

Hawl i Brynu yr Alban

Yr Alban – cynlluniau i’ch helpu i brynu cartref newydd

Yng Nghymru

Rhaid i’ch landlord fod yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a reoleiddir gan Lywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Hawl i Gaffaelyn agor mewn ffenestr newydd

Cymorth i Brynu a chynlluniau tai eraill

Eich cam nesaf

Egluro cynlluniau rhan-berchnogaeth

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?