Pa bryd bynnag y byddwch chi’n prynu rhywbeth, boed hynny’n gynnyrch neu’n wasanaeth, ar y stryd fawr neu ar-lein, mae gennych chi hawliau. Gall gwybod eich hawliau helpu os nad yw’r hyn yr ydych chi wedi talu amdano yn bodloni’ch disgwyliadau neu’n ddiffygiol.
Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015
Rhaid i unrhyw gynnyrch neu wasanaeth, ffisegol neu ddigidol, a brynwyd ar-lein neu mewn siop fodloni’r safonau a ganlyn:
-
Ansawdd boddhaol – Ni ddylai eich nwyddau fod yn ddiffygiol neu wedi’u difrodi, neu o leiaf o ansawdd boddhaol. Er enghraifft, nid yw nwyddau ail law yn cael eu cadw i’r un safonau â rhai newydd sbon.
-
Addas i’r diben – dylech fod yn gallu’i ddefnyddio at y diben y cafodd y nwyddau eu cyflenwi.
-
Fel y disgrifiwyd - rhaid i’ch nwyddau neu wasanaeth gyd-fynd â’r disgrifiad, model neu sampl a ddangoswyd wrth eu prynu.
Mae’ch hawliau i ad-daliad, atgyweiriad neu un newydd yn newid wrth i amser fynd rhagddo.
Eich hawliau defnyddiwr o fewn 30 diwrnod
Yn ystod y 30 cyntaf ar ôl prynu, mae gennych yr hawl i wrthod y nwyddau. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ddychwelyd eitem nad yw’n bodloni’r tri maen prawf am ad-daliad llawn.
Nid yw’r hawl hwn yn cynnwys lawrlwythiadau digidol, ond fe allwch ofyn iddynt gael eu hatgyweirio neu gael un newydd yn ei le. Os ydych yn aflwyddiannus, mae gennych hawl i gael gostyngiad mewn pris.
Eich hawliau defnyddiwr ar ôl 30 diwrnod o brynu
Ar ôl 30 diwrnod, nid oes hawl gyfreithiol gennych i ad-daliad llawn. Serch hynny, gallwch ofyn i’r manwerthwr newid neu atgyweirio’r nwyddau, nad ydynt yn bodloni’r tri maen prawf.
Ar gyfer lawrlwythiadau digidol, ble nad yw’n bosibl atgyweirio’r lawrlwythiad gwreiddiol, dylech gael cyfle i’w lawrlwytho eto.
Eich hawliau defnyddwyr o fewn 6 mis
Os yw cynnyrch yn datblygu diffyg o fewn y chwe mis cyntaf ar ôl prynu, gellir tybio ei fod yn bresennol ers ei brynu. Mae hyn yn golygu mai cyfrifoldeb y manwerthwr yw profi nad oedd yno pan wnaethoch chi ei brynu.
Os yw’r atgyweiriad neu’r un newydd wedi methu, mae gennych hawl i wrthod y nwyddau am ad-daliad llawn neu ostyngiad mewn pris.
Eich hawliau defnyddwyr ar ôl 6 mis
Os bydd diffyg yn datblygu ar ôl chwe mis, eich cyfrifoldeb chi yw profi ei fod yn ddiffygiol adeg ei brynu neu ei ddosbarthu.
Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr
Er Mehefin 2014, cafodd yr hawliau a’r amddiffyniadau a oedd gennych chi o dan y Rheoliadau Gwerthu o Bell eu trosglwyddo i’r Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr.
Os byddwch chi’n prynu rhywbeth, heb ei weld yn bersonol yn gyntaf, er enghraifft, os byddwch chi’n prynu ar-lein, mae gennych sicrwydd o dan y Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr, ynghyd â’r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr.
Eich hawliau defnyddwyr o fewn yr 14 diwrnod cyntaf i brynu ar-lein
Mae gennych yr hawl i ganslo eich pryniant am ad-daliad llawn o’r eiliad y byddwch chi’n gosod archeb, hyd at 14 diwrnod ar ôl ei ddosbarthu.
Dosbarthu
Mae dosbarthu pryniannau yn derbyn sicrwydd o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr. Mae hyn yn golygu mai’r manwerthwr sy’n gyfrifol am ddosbarthu’r cynnyrch yn ddiogel i chi ac nid y negesydd y mae’n ei gyflogi.
Dosbarthu diofyn
Rhaid i’r manwerthwr ddosbarthu’r hyn yr ydych chi wedi’i archebu o fewn 30 diwrnod, oni bai eich bod wedi cytuno ar amserlen arall.
Dosbarthu hwyr
Os ydych chi wedi cytuno ar ddosbarthiad erbyn dyddiad penodol, er enghraifft, dosbarthu anrhegion erbyn y Nadolig, a bod y manwerthwr yn methu bodloni hyn, yna mae gennych hawl i ganslo am ad-daliad llawn.
Dychweliadau
Pan fyddwch chi’n dychwelyd eitemau oherwydd nad ydynt yn bodloni tri maen prawf y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr, rhaid i’r manwerthwr ad-dalu costau dosbarthu safonol. Os byddwch chi’n talu am ychwanegion wrth ddychwelyd, er enghraifft dosbarthu diwrnod canlynol, bydd yn rhaid i chi dalu am y gost ychwanegol.
Pryniannau Ail Law
Mae’ch hawliau wrth brynu’n ail-law yn dibynnu gan bwy y prynoch chi’r eitem.
Os prynwyd yr eitem gan fanwerthwr neu fasnachwr, nid unigolyn preifat, mae gennych sicrwydd o dan y Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr a’r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr. Mae hyn yn golygu bod gennych yr hawl safonol i ganslo neu wrthod o dan y tri maen prawf.
Mae prynu gan werthwr preifat yn gwneud pethau ychydig yn fwy cymhleth. Cyhyd â bod y cynnyrch wedi’i ddisgrifio’n gywir, nid oes hawl gennych i ad-daliad, atgyweiriad nac un newydd yn ei le.
Cynnwys digidol
Daw pryniannau cynnwys digidol, megis meddalwedd neu lawrlwythiadau cerddoriaeth, o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr. Golyga hyn fod yn rhaid iddynt fodloni’r tri maen prawf. Os nad ydynt, mae hawl gennych i ad-daliad, atgyweiriad neu un newydd yn ei le.
Rhaid i’r manwerthwr hefyd roi iawndal i chi os yw’r cynnyrch digidol yr ydych chi wedi’i brynu wedi difrodi unrhyw ddyfais ble y cafodd ei ddefnyddio hefyd neu gynnwys digidol arall – gan gymryd yn ganiataol eich bod chi wedi defnyddio pob gofal a sylw rhesymol.
Nwyddau darfodus
Mae nwyddau darfodus yn achos cymhleth oherwydd efallai na fyddant yn cyrraedd y cyfyngiad 14 diwrnod ar ôl prynu o dan y Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr, heb sôn am y cyfyngiad 30 diwrnod y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr.
O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y cyfnod yn cael ei bennu gan ba mor hir y mae’n rhesymol disgwyl i’r nwyddau bara.
Er enghraifft, ar eitemau bwyd byddech yn disgwyl yn rhesymol i’r eitem bara hyd at ei ddyddiad defnydd.
Gwasanaethau
O dorri gwallt a sychlanhau i waith adeiladu a chyfrifyddu, mae ystod eang o wasanaethau yn rhan o’r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr. Serch hynny, mae meini prawf ychydig yn wahanol yn gymwys:
- Rhaid cynnal gwasanaethau yn ofalus a gyda sgil.
- Mae’r holl wybodaeth, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn rhwym pan fydd y defnyddiwr yn dibynnu arno.
- Os na chytunir ar bris o flaen llaw, rhaid darparu’r gwasanaeth ar gost resymol.
- Oni bai y cytunir ar amserlen o flaen llaw, rhaid cynnal y gwasanaeth o fewn amser rhesymol.
Os yw’r gwasanaeth yn methu bodloni’r safonau hyn, dylai’r darparwr gwasanaeth naill ai ail-wneud rhai elfennau o’r gwasanaeth, neu gynnal y gwasanaeth cyfan eto heb unrhyw gost. Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad mewn pris.
Ceir ail law
Yn gyson, ceir ail law yw’r cynnyrch y derbynnir y nifer fwyaf o gwynion amdanynt pan ddaw hi at hawliau defnyddwyr.
Masnachwyr a gwerthwyr preifat
Os wnaethoch chi brynu gan fasnachwr, mae gennych sicrwydd o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr a’r graddfeydd amser safonol.
Os ydych chi’n prynu gan werthwr preifat, mae gennych lai o hawliau, felly cyhyd â bod y car wedi’i ddisgrifio’n gywir, ni fyddwch yn gallu hawlio ad-daliad.
Dysgwch fwy am eich hawliau wrth brynu car ail law ar
wefan Which?opens in new window.
Broceriaid car
Mae defnyddio brocer car yn dod yn ffordd gynyddol boblogaidd o brynu car. Rydych chi’n rhoi manyleb y car yr ydych chi ei eisiau i frocer car, a fydd wedyn yn delio â’r holl fasnachwyr a delwriaethau i ganfod y fargen orau.
O dan yr amodau hyn, a chyhyd â’ch bod hi’n bodloni’r gofynion a amlinellir, fe allech chi dderbyn sicrwydd o dan elfen gwerthwr o bell y Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr.
Adran 75
Ynghyd â’ch hawliau o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr a’r Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr, gall prynu gyda’ch cerdyn credyd roi amddiffyniad ychwanegol i chi gyda phryniannau rhwng £100 a £30,000 o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.
Gallai trafodion o unrhyw werth ar gardiau debyd neu rhag-daledig fod yn rhan o gynllun gwirfoddol o’r enw chargeback.