Mae credydau treth yn helpu i roi hwb i incwm eich cartref a gallant fod yn werth miloedd o bunnoedd bob blwyddyn. Ond, mae Credydau Treth Gwaith a Chredydau Treth Plant yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol a bydd yn rhaid i’r mwyafrif o bobl wneud hawliadau newydd ar gyfer Credyd Cynhwysol yn eu lle. Mae’r dudalen hon yn esbonio mwy am beth yw credydau treth, sut mae Credyd Cynhwysol yn effeithio arnynt a beth i’w wneud os ydych chi eisoes yn eu cael.
Beth ydy credydau treth?
?
Pwysig
Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu gwneud hawliad newydd, neu hawlio Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant gan eu bod yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol.
Taliadau gan y llywodraeth ydy’r credydau treth sy’n mynd yn syth i’ch cyfrif banc. Mae dau fath:
- Credyd Treth Plant
- Chredyd Treth Gwaith.
Mae’r ddau fudd-dal yma yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol.
Credyd Treth Plant a Chredyd Cynhwysol
Bydd rhaid i’r rhan fwyaf o bobl nawr hawlio’r elfen Plentyn ac/neu elfen costau Gofal Plant o’r Credyd Cynhwysol os ydynt yn hawlio am gymorth gyda chostau magu plant.
Rhaid i chi fod yn gyfrifol am blant dan 16 oed, neu’n 16 i 19 oed ac mewn addysg llawn amser, ond nid addysg uwch, fel prifysgol.
Efallai y byddwch yn dal i allu hawlio Credydau Treth Plant os byddwch chi neu’ch partner yn cael Premiwm Anabledd Difrifol.
Credyd Treth Plant os oes gennych chi dri neu fwy o blant
Os ydych yn gwneud hawliad Credyd Treth Plant newydd, cyfyngir y cymorth i’r ddau blentyn cyntaf (oni bai y cawsoch enedigaeth luosog neu os ydych chi wedi mabwysiadu).
Ni fyddwch yn gallu hawlio’r elfen deulu mwyach ychwaith.
Byddwch yn parhau i allu hawlio’r premiwm plentyn anabl ar gyfer unrhyw un o’ch plant sy’n gymwys i’w gael.
Os ydych chi eisoes yn hawlio Credydau Treth Plant a bod gennych chi fwy na dau o blant, ni fydd y newidiadau yn effeithio arnoch.
Credyd Treth Gwaith a Chredyd Cynhwysol
Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu gwneud hawliad newydd am Gredyd Treth Gwaith nawr, a bydd rhaid iddynt hawlio Credyd Cynhwysol yn ei le. Os byddwch chi’n cael Credyd Cynhwysol, does yna ddim terfyn ar y nifer o oriau fyddwch chi’n gweithio. Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng wrth i’ch enillion gynyddu.
Efallai y byddwch yn dal i allu hawlio Credydau Treth Plant os byddwch chi neu’ch partner yn cael Premiwm Anabledd Difrifol.
Mae’r Credyd Treth Gwaith yn seiliedig ar yr oriau rydych yn gweithio a faint rydych yn ei ennill. Does dim ots os ydych chi’n cael eich cyflogi neu’n hunangyflogedig. Nid oes yn rhaid bod gennych blant i fod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith, ond os oes gennych chi, efallai bod gennych hawl i fwy.
Os ydych chi’n meddwl y byddwch yn dal i allu hawlio Credyd Treth Gwaith, cwblhewch yr holiadur byr yma i weld os ydych chi’n debygol o fod yn gymwys ar
Gov.uk.
Sut i hawlio credydau treth
Os ydych chi’n dal yn gymwys i hawlio Credydau Treth bydd angen i chi gwblhau ffurflen TC600.
Gallwch gael y ffurflen hon drwy:
• gwblhau ffurflen hawlio Credyd Treth HMRC drwy gais ar-lein, neu
• ffonio Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0345 300 3900 (ffôn testun 0345 300 3909).
Credydau Treth a gordaliadau
Amcangyfrifion yw’r dyfarniadau credydau treth, sy’n cael eu terfynu ar ôl i chi adnewyddu’ch hawliad bob blwyddyn.
Y swm y gall eich incwm newid cyn i chi orfod dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth yw £2,500. Y diystyru incwm yw’r enw ar hyn.
Credydau treth a newid mewn amgylchiadau
Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn 30 niwrnod os byddwch yn cael newid amgylchiadau, megis:
- colli neu gael swydd
- cael babi
- partner yn symud i mewn neu allan.
Gallai hyn olygu y bydd rhaid i chi wneud hawliad newydd am Gredyd Cynhwysol. Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.
Ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0345 300 3900 i roi gwybod iddyn nhw am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.