Mae nifer o gynlluniau llywodraeth i’ch helpu chi i brynu cartref megis Cymorth i Brynu, Hawl i Brynu, Cyd-berchnogaeth, a mwy. Darllenwch fwy am y cynlluniau tai fforddiadwy hyn a sut i ymgeisio amdanynt.
Cymorth i Brynu
Gallai’r rhai gyda blaendal bach fod yn gymwys i ddefnyddio’r cynllun Cymorth i Brynu:
Cynllun Benthyciad Ecwiti: ar gael i brynwyr am y tro cyntaf a pherchnogion tai presennol sy’n dymuno prynu tŷ ‘a adeiladir o’r newydd’. Rhaid i’r pris prynu fod dim uwch na £600,000. O dan y cynllun hwn, gallwch fenthyca 20% o’r pris prynu yn rhydd rhag llog am y pum mlynedd gyntaf cyhyd â bod gennych 5% o flaendal. Os ydych yn byw yn Llundain, gallwch fenthyca hyd at 40% o’r pris prynu.
Bydd y cynllun benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu yn cael ei ymestyn tan 2023. Fodd bynnag, cyfyngir ar yr estyniad hwn i brynwyr am y tro cyntaf sy’n prynu cartrefi a adeiladir o’r newydd.
O 2021, bydd capiau rhanbarthol newydd hefyd a allai ostwng uchafswm gwerth cartref y gellir ei brynu drwy’r Cynllun Benthyciad Ecwiti.
Bydd y cynllun hwn ar gael yn Lloegr yn unig. Os ydych chi’n byw yn rhywle arall yn y DU, gallwch ddefnyddio:
Hawl i Brynu/Hawl i Gaffael
?
Mae Hawl i Gaffael yn gynllun a gynigir yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd ar gyfer tenantiaid cymdeithas dai nad ydynt yn gymwys i Hawl i Brynu. Mae’r gostyngiadau ychydig yn llai.
Mae Hawl i Brynu ar gyfer tenantiaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n rhentu eu cartref gan eu cyngor lleol. Mae’n caniatáu i denantiaid, sy’n gymwys, i brynu eu cartref am bris gostyngol. Mae maint y gostyngiad hwn yn amrywio gan ddibynnu ar ble’r ydych chi’n byw a’r math o eiddo yr ydych chi eisiau ei brynu.
Gallai tenantiaid a oedd yn byw mewn tai cyngor cyn y trosglwyddwyd y tŷ i landlord fel cymdeithas dai, fod yn gymwys i brynu eu tŷ drwy gynlluniau Hawl i Brynu neu Hawl i Gaffael ‘a Gedwir’.
Gan amlaf, mae gofyn bod y tenantiaid wedi bod yn rhentu gan y sector cyhoeddus (h.y. cyngor lleol neu gymdeithas dai) am dair blynedd o leiaf cyn y gallant brynu dan y cynlluniau hyn.
Nid oes raid i’r tair blynedd fod yn olynol. Felly gallech fod yn gymwys o hyd os buoch yn rhentu o’r sector preifat rhwng yr amseroedd y buoch yn rhentu o’r sector cyhoeddus.
Yng Ngogledd Iwerddon: gelwir y cynllun hwn yn Gynllun Gwerthu Tai ac mae ar gyfer tenantiaid sy’n rhentu gan Weithrediaeth Dai Gogledd Iwerddon neu gymdeithas dai.
Yng Nghymru:Daeth Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu i ben ar gyfer pob tenant Cyngor a chymdeithas dai ar 26 Ionawr 2019.
Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael – Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Hawl i Gaffael: prynu’ch cartref cymdeithas dai
Cyd-berchnogaeth
Cyd-berchnogaeth yw ble y byddwch chi’n prynu cyfran o dŷ gan y landlord, sydd fel arfer yn gyngor neu’n gymdeithas dai, a rhentu’r gyfran sy’n weddill.
Mae angen morgais arnoch i dalu am eich rhan, a all fod rhwng chwarter a thri chwarter o werth llawn y cartref.
Yna rydych yn talu rhent llai ar y rhan nad ydych yn berchen arni.
Yn ddiweddarach gallwch ddewis i brynu rhan fwy o’r eiddo hyd at 100% o’i werth.
Mae’r cyfyngiadau cymhwysedd ar berchnogaeth a rennir wedi’u codi.Gallech brynu cartref drwy Cymorth i Brynu: Perchnogaeth ar y cyd yn Lloegr:
- os oes gennych incwm cartref o lai na £80,000 (y tu allan i Lundain) neu £90,000 (yn Llundain)
- os ydych yn brynwr am y tro cyntaf, roeddech yn arfer bod yn berchen ar gartref ond ni allwch fforddio prynu un erbyn hyn neu yn berchen ar eiddo cyd-berchnogaeth presennol ond yn dymuno symud.
Dim ond y rhai sydd yn y fyddin fydd yn cael blaenoriaeth dros grwpiau eraill. Bydd y cynllun yn weithredol ledled Lloegr.
Pobl gydag Anableddau
Gall Perchnogaeth Cartref i Bobl gydag Anableddau hirdymor (HOLD) eich helpu i brynu unrhyw gartref sydd ar werth ar sail Cyd-berchnogaeth os oes gennych chi anabledd hirdymor.
Gallwch ond ymgeisio am HOLD os nad yw’r eiddo sydd ar gael drwy gynlluniau perchnogaeth cartref eraill yn bodloni’ch anghenion, er enghraifft, mae angen eiddo llawr gwaelod arnoch.
Pobl hŷn
Os ydych yn 55 oed neu’n hŷn, gallwch gael cymorth gan gynllun perchnogaeth cartref gwahanol o’r enw Cyd-berchnogaeth Pobl Hŷn.
Mae’r cynllun yn debyg iawn i gynllun Cyd-berchnogaeth arferol ond cewch brynu hyd at 75% o’ch cartref yn unig. Unwaith byddwch yn berchen ar 75%, ni fydd raid i chi dalu rhent ar y gweddill.
Cyd-berchnogaeth yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r cynllun hwn yn unigryw i Ogledd Iwerddon ac mae ar gael ar gyfer cartrefi a adeiledir o’r newydd a chartrefi hŷn.
Rydych chi’n prynu rhwng 50% a 90% o’r eiddo (a elwir yn ‘cyfran dechreuwr’). Gallwch gynyddu’ch cyfran ar unrhyw bryd (a elwir yn ‘cynyddu cyfran’)
Rydych yn talu rhent ar y gyfran nad ydych yn berchen arni.
Ar ôl i chi ddod o hyd i eiddo yr hoffech ei brynu, dylech gysylltu â
Co-ownership i gychwyn y broses ymgeisio.
Rhan-berchnogaeth yng Gogledd Iwerddon
Mae’r cynllun hwn yn unigryw i Gogledd Iwerddon ac mae ar gael ar gyfer cartrefi a adeiledir o’r newydd a chartrefi hŷn. Rydych chi’n prynu rhwng 50% a 90% o’r eiddo (a elwir yn ‘cyfran dechreuwr’) a gall gynyddu’r gyfran honno ar unrhyw bryd (a elwir yn ‘cynyddu cyfran eu perchentyaeth’). Rydych yn talu rhent ar y gyfran nad ydych yn berchen arni.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Tai Gogledd Iwerddon.
Ymwelwch â’r wefan Rhan-berchnogaeth.
Tai i bobl Llundain
Mae’r cynllun hwn yn anelu at helpu enillwyr incwm isel a chanolig i brynu neu rentu ar bris sy’n fforddiadwy. Rydych yn prynu’r eiddo’n rhannol ac yn ei rentu’n rhannol – yn bennaf ar gyfer cartrefi newydd eu hadeiladu ond mae rhai cartrefi wedi’u hailwerthu wedi’u cynnwys hefyd. Mae meini prawf cymhwyster yn ymwneud ag enillion ac ni allwch brynu cartref ar y farchnad agored.
Cynlluniau Rhannu Ecwiti
Mae cynllun benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu yn gynllun llywodraeth y mae disgwyl iddo redeg hyd at 2020. Mae ar gael i brynwyr am y tro cyntaf ynghyd â pherchnogion tai sy’n meddwl am symud - ond dim ond ar gyfer cartrefi a adeiledir o’r newydd.
Lloegr
Mae cynllun benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu yn gynllun llywodraeth y mae disgwyl iddo redeg hyd at 2020.
Mae ar gael i brynwyr am y tro cyntaf ynghyd â pherchnogion tai sy’n meddwl am symud - ond dim ond ar gyfer cartrefi a adeiledir o’r newydd.
Yr Alban
Mae gan yr Alban ddau gynllun rhannu ecwiti - Rhannu Ecwiti Cyflenwad Newydd a Rhannu Ecwiti Marchnad Agored.
Er bod y cynlluniau hyn yn bennaf ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf ar incymau isel, gallant fod o fudd hefyd i’r rhai sydd angen symud. Gall hyn gynnwys pobl anabl neu rai sydd ag anghenion penodol yn dilyn newid sylweddol yn eu sefyllfa gartref.
Cymorth i Brynu: Cymru
Mae’r cynllun yn eich helpu i brynu cartrefi a adeiladwyd o’r newydd hyd at £300,000. Rhaid i chi dalu blaendal o 5% gyda benthyciad ecwiti a rennir hyd at 20% o’r pris prynu.
Bydd angen i chi gymryd morgais ad-daliad i ysgwyddo’r swm sy’n weddill.
Prynu Cartef – Cymru
Mae hyn yn cefnogi cartrefi drwy ddarparu benthyciad ecwiti i helpu i brynu eiddo sy’n bodoli’n barod. Mae’r cynllun yn eich helpu os na fyddech yn gallu fforddio prynu eiddo fel arall ac mae o fudd neilltuol mewn cymunedau mwy gwledig lle mae llai o gyfle o bosib i brynu cartrefi.
Nid yw Prynu Cartref ar gael ym mhob ardal a ble bynnag y mae ar gael mae’r cynllun yn destun meini prawf cymhwysedd lleol.
Gallwch ad-dalu’r benthyciad ar unrhyw adeg cyn i chi werthu’r eiddo. Ond os gwerthwch yr eiddo, rhaid ad-dalu’r benthyciad bryd hynny.
Gogledd Iwerddon
Mae cynllun rhannu ecwiti yng Gogledd Iwerddon ble y gallwch chi brynu eiddo, yn aml ar ostyngiad, gyda chymdeithas dai neu Weithrediaeth Dai Gogledd Iwerddon.
Cynllun Cartref Cychwynnol
Mae’r cynllun Cartref Cychwynnol yn un newydd gan y llywodraeth lle mae 200,000 o gartrefi a adeiladir o’r newydd ar gael i brynwyr tro cyntaf dan 40 mlwydd oed gydag isafswm o 20% oddi ar pris y farchnad.
Dylid gosod y pris gostyngol ar gyfer y cartrefi hyn ddim uwch na £250,000 y tu allan i Lundain a £450,000 yn Llundain.
Camau nesaf
Deall faint allwch chi fforddio ei fenthyca? a beth y mae darparwyr benthyciadau’n ei asesu.
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais i amcangyfrif faint y gallwch ei fenthyg.
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell ad-dalu morgais i amcangyfrif y swm llog ac ad-dalu misol.