Gyda chost biliau’r cartref yn parhau i gynyddu ledled y DU, rydym wedi casglu rhestr o ganllawiau penodol i’ch helpu i arbed arian. Mae cwtogi ar wariant yn haws nag a ddychmygwch a gall y cartref nodweddiadol arbed cannoedd o bunnoedd bob blwyddyn drwy ddilyn ein hawgrymiadau.
Peidiwch ag anghofio, er y gall fod yn demtasiwn chwilio am y fargen rataf yn unig, mae’n well sicrhau bod eich cytundebau cyfleustodau yn gweddu â’ch anghenion.
Er enghraifft, os byddwch yn gwneud llawer o alwadau rhyngwladol, gall fod yn rhatach cael cytundeb misol gyda galwadau rhyngwladol am ddim. Gallai hynny fod yn fwy costus ond bydd yn rhatach i chi na chytundeb rhatach os ewch i dros eich lwfans.
Lleihau eich bil ffôn cartref a’ch band eang
Mae nifer fawr o gyflenwyr ar gael ac mae’n hawdd cwtogi’ch biliau ffôn a band eang misol.
?
Mae cartrefi yn y DU yn gwario £3,329 yn flynyddol ar gyfartaledd, ar eu treth gyngor, nwy, trydan, dŵr a biliau ffôn/band eang.
Source: Santander
Dechreuwch drwy ddilyn yr awgrymiadau syml hyn:
- Ffoniwch eich cyflenwr a gofyn am bris gwell
- Defnyddiwch wefan cymharu prisiau i ddod o hyd i well bargen
- Parwch eich cytundeb â’ch ffordd o fyw – h.y. os ydych yn defnyddio llawer iawn o ddata ac yn gorfod talu mwy pan ewch dros y terfyn, gallai bargen gyda rhagor o ddata fod yn rhatach
Ceisiwch fil ffôn symudol rhatach
A yw cytundeb eich ffôn symudol yn dod i ben? A ydych yn ceisio dod o hyd i’r ffordd rataf i gael y ffôn diweddaraf? Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i gadw’ch biliau’n isel:
- Defnyddiwch offer ar-lein i ddadansoddi’ch biliau ac argymell cytundeb
- Negodwch gyda chyflenwyr – cofiwch mai chi sy’n arwain
- Defnyddiwch wefan cymharu prisiau i ddod o hyd i’r fargen orau ar eich cyfer chi
Lleihau cost eich bil dŵr
Mae cost bil dŵr ar gyfartaledd yn agos i £32 y mis ac er na allwch newid eich cyflenwr dŵr, mae amryw o bethau allwch chi eu gwneud i arbed arian ar filiau. Er enghraifft, gallech chi:
- Osod mesurydd dŵr yn rhad ac am ddim
- Cymryd cawod yn hytrach na bath
- Newid pen eich cawod a chael un mwy effeithlon
Nwy a thrydan rhatach
?
Gall defnyddwyr dynnu tua £300 oddi ar fil nwy a thrydan blynyddol ar gyfartaledd dwy newid tariff ynni
Source: Ofgem
Mae nifer o gyflenwyr ynni ar gael sy’n brwydro i ennill cwsmeriaid, felly mae’n amser da i chwilio am fargen well a chymryd golwg ar ein hawgrymiadau i arbed ynni.
- Newidiwch i dalu’n fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol er mwyn cwtogi’ch costau
- Trowch eich thermostat i lawr 1°C yn unig - gallai hynny dynnu 10% oddi ar eich bil gwresogi
- Ystyriwch newid cyflenwr ar y cyd – oes gwerth mewn gwneud hynny?
A ydych chi’n talu gormod o Dreth Gyngor?
Gyda hyd at 400,000 o gartrefi yn y bandiau Treth Gyngor anghywir, mae’n werth gwneud yn siŵr nad ydych yn talu gormod.
Ni ddylai gymryd yn hirach na 10 munud i chi gael gwybod a gallech arbed cannoedd o bunnoedd a chael ad-daliad.
Cwtogwch ar y gost o yrru a thrafnidiaeth gyhoeddus
Pa un ai’ch bod yn gyrru, neu yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae’n debyg bod costau teithio yn rhan sylweddol o’ch gwariant misol. Fodd bynnag, peidiwch â digalonni, mae nifer o ffyrdd y gallwch gwtogi ar eich costau teithio yn cynnwys:
- Dod o hyd i yswiriant car rhatach
- Prynu tanwydd rhatach
- Archebu tocynnau trên ymlaen llaw
Talwch eich biliau ar amser
Gall ffioedd am dalu’n hwyr ddifetha’r holl waith o gynilo’n ddiwyd, felly sicrhewch eich bod yn talu’ch biliau’n brydlon. Gallwch ddefnyddio’r awgrymiadau hyn i roi cymorth i chi gadw rheolaeth ar eich biliau:
- Talu biliau rheolaidd yn fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol
- Cadw cofnod o daliadau a chynllunio ymlaen
- Siaradwch â’r bobl y mae arnoch arian iddynt os ydych yn cael anhawster
Dod o hyd i ragor o wybodaeth
Eisiau cael gwybod rhagor am greu cyllideb a rheoli’ch arian? Eisiau dysgu sut i glirio’ch benthyciadau a chardiau credyd?
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?