Mae plant yn dechrau datblygu agweddau am arian mor gynnar â phum mlwydd oed. Gyda’ch help chi, gall y rhain fod yn gadarnhaol ac yn iach.
Sut mae siarad am arian yn helpu?
Siarad am arian yw’r cam cyntaf wrth adeiladu sgiliau ariannol a hyder plant.
Mae ein hymchwil yn dangos bod oedolion sy’n gwneud yn well gydag arian:
- wedi cael sgyrsiau am arian pan yn blant
- wedi cael arian yn rheolaidd, fel arian poced neu daliad am wneud tasgau
- wedi cael cyfrifoldeb am wario a chynilo o oedran cynnar.
?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae ein hymchwil yn dangos mai dim ond pedwar o bob deg plentyn a ddysgodd am arian yn yr ysgol.
Beth mae plant pump a chwech oed yn ei ddeall am arian?
Erbyn tua phump a chwech oed, mae plant yn dechrau deall a chwestiynu pethau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag arian.
Byddant yn gallu deall:
- bod gan wahanol ddarnau arian werthoedd gwahanol
- bod ceiniogau yn arwain at bunnoedd
- bod angen cadw arian yn ddiogel, fel nad ydynt yn ei golli na eraill ddim yn ei gymryd
- bod colli arian yn gallu peri gofid
- bod arbed arian yn eu helpu i brynu eitemau maent eu heisiau
- na ellir gweld arian weithiau, fel arian yn y banc
- gallant wneud pethau i ‘ennill’ arian, fel bod yn dda neu helpu o amgylch y tŷ
- mae gwahaniaeth rhwng anghenion a bod eisiau.
Mae nawr yn amser da i wneud y gorau o’u gwell dealltwriaeth o arian.
Cadw arian yn ddiogel
?
Prif awgrym
Mae rhoi cadw mi gei neu ‘piggy bank’ i blentyn yn rhoi lle diogel iddynt gadw, a chynilo, eu harian.
Mae’n syniad da sicrhau bod gan blant le diogel i gadw arian. Ac i siarad am pam ei bod yn bwysig cadw arian yn ddiogel a sut rydych yn gwneud.
Anogwch nhw i gynilo
Mae llawer o blant pump a chwech oed yn dechrau deall bod yn rhaid i chi arbed arian weithiau ar gyfer y pethau rydych chi eu heisiau.
Efallai y byddant yn dal i deimlo’n rhwystredig am aros am yr hyn maent ei eisiau. Ond mae dysgu arbed arian nawr yn eu helpu i ddysgu bod yn amyneddgar.
Rhowch gynnig ar y gweithgaredd cynilo hwn:
-
Dewis – gofynnwch iddynt a oes rhywbeth yr hoffent gynilo amdano y gall y teulu cyfan ei fwynhau – gêm neu fynd i’r sinema efallai.
-
Gweld y nod – gofynnwch iddynt dynnu llun o beth sy’n cael ei gynilo ar ei gyfer. Dyma’r nod a bydd yn helpu i’w cymell a’u cadw ar y trywydd iawn.
-
Datrys problem – gyda’ch gilydd, dod i fyny gyda syniadau i arbed arian. Er enghraifft, diffodd goleuadau neu brynu llai o eitemau.
-
Dychmygu cynilo – gofynnwch iddynt lunio’r syniadau cynilo hyn o amgylch eu llun blaenorol o’r nod.
-
Gweithredu – gadewch i’ch plentyn edrych ar ôl y cynilion yn eu cadw mi gei eu hunan. Os yw’r nod yn ddrud, ewch ag ef i’r banc gyda hwy. Yna gwyliwch y cyfanswm yn tyfu ar-lein neu drwy ddatganiadau.
-
Mwynhewch – pan rydych wedi cynilo digon, mwynhewch fel teulu.
-
Rhowch glod – diolchwch i’ch plentyn am helpu i wneud hyn ddigwydd!
Astudiaeth achos
“Roedd Hayley a Zac eu dau eisiau gweld Frozen 2 gan Disney pan ddaeth allan. Roeddem yn gwybod ymlaen llaw pryd y byddai yn y sinema, felly gweithiodd y ddau ohonynt gyda’i gilydd i gynilo hanner y swm y byddem ei angen i ni i gyd fynd. Rhaid i mi ddweud, gwnaeth eu cymhelliant argraff arnaf. Fe wnaethant hyd yn oed dorri nôl ar ddanteithion, gan ofyn a allai’r arian a arbedwyd fynd tuag at eu nod.” – Paul
Darganfyddwch fwy am gynilion yn ein canllawiau Cynilo ar gyfer eich plant a Cyfrifon cynilo i blant.
Rhowch gyfleon iddynt gynilo
Mae yna lawer o ffyrdd hwyliog y gallwch helpu plant i fwynhau cynilo:
- Maent yn barod i ddeall y cysyniad o helpu o amgylch y tŷ am arian.
- Cyfnewidiwch sêr neu wobrau sticer am geiniogau
- Cael helfeydd ceiniogau - yn union fel helfeydd wyau Pasg, ond yn iachach!
Mae plant yn dysgu trwy wylio a gwrando
Mae plant pump a chwech oed yn dysgu llawer o wylio a gwrando. Siaradwch am arian a dangoswch iddynt sut mae’n cael ei ddefnyddio - gartref ac yn y siopau.
Yn y cartref
Mae yna lawer o weithgareddau bob dydd yn y cartref y gallwch eu gwneud i’w helpu i ddysgu am arian:
- Defnyddiwch gemau chwarae rôl i helpu’ch plentyn i arbrofi gyda gwneud penderfyniadau am arian mewn ffordd hwyliog a diogel. Ymhlith y gemau sy’n ddefnyddiol ar gyfer dysgu am arian mae:
-
siop - gofynnwch iddynt chwarae rôl, gan gynnwys perchennog siop, cwsmer a rhiant.
-
tŷ - gofynnwch iddynt esgus bod yn chi, talu am siopa, biliau, a phethau maent yn gofyn amdanynt.
-
cynllunydd parti - rhowch swm o arian iddynt, ychwanegwch labeli prisiau at fwyd a diod tegan (neu argraffwch rai lluniau o’r cyfrifiadur), a gofynnwch iddynt drefnu parti gyda’r arian sydd ganddynt. Byddant angen sicrhau bod gan bawb bopeth sydd ei angen arnynt, gan gynnwys plant, oedolion a gwahanol anghenion dietegol.
- Os yw’ch plentyn yn eich clywed chi’n siarad am arian â rhywun arall, gofynnwch a oes ganddynt unrhyw gwestiynau am yr hyn a glywsant.
- Os yw rhywun yn gwario neu’n cynilo arian ar y teledu neu mewn ffilm, gofynnwch gwestiynau amdano.
- Eglurwch sut nad yw popeth yn costio arian, fel chwarae yn y parc neu fynd i’r llyfrgell neu dŷ ffrind. Gofynnwch iddynt pa weithgareddau am ddim maent yn eu mwynhau.
- Os yw’ch plentyn yn gofyn am bethau gyda lluniau o gymeriadau teledu, brandiau neu enwogion arnynt, siaradwch qm pam. Dangoswch ddewisiadau rhatach eraill iddynt i weld a allant egluro beth sy’n gwneud eu dewis cyntaf yn well. Gan ddefnyddio arian go iawn, dangoswch iddynt yr hyn y gallent ei arbed trwy brynu’r dewis arall rhatach a gofynnwch beth y gallent ei wneud gyda’r arbediad hwnnw.
Yn y siopau
Mae mynd i siopa yn helpu i ddangos iddynt gwario a chynilo.
Cyn i chi fynd i siopa
Rhowch gynnig ar y syniadau hyn er mwyn cynnwys eich plant:
- Mae plant wrth eu bodd â her—a allant roi help i chi gynilo arian? Gwnewch restr gyda hwy a’u cael i wneud yn siŵr eich bod yn cadw ati.
- Siaradwch am anghenion (fel bwyd ar gyfer swper) yn erbyn dymuniadau (fel pethau moethus).
- Siaradwch am werth arian—beth allwch chi brynu am £1? £5? £100?
- Gosodwch gyllideb ar gyfer elfen o’ch siopa bwyd y mae gan eich plentyn ddiddordeb ynddi - er enghraifft, eitemau ar gyfer eu pecyn bwyd, neu fwyd maent yn eu mwynhau.
Astudiaeth achos
“Mae siopa wedi dod yn un gêm fawr i Rohan wrth iddo aros i weld pa ddewisiadau y byddaf yn eu rhoi o’i flaen. Mae hyd yn oed wedi dechrau rhoi dewisiadau i mi. Mae hyn yn wych oherwydd mae’n golygu fy mod i’n cael llawer o gyfleoedd i egluro pam fy mod i’n gwneud rhai penderfyniadau sy’n gysylltiedig ag arian.” – Harvinder
Wrth i chi siopa
Helpwch hwy i arfer wrth wneud penderfyniadau am beth i wario arian arno:
- Dangoswch iddynt fod rhai pecynnau yn llachar ac yn lliwgar ac yn costio mwy, tra gall eraill fod yn llai lliwgar ac yn llai o hwyl—ond mae’r hyn sydd y tu mewn yr un fath a gall gostio llai.
- Dangoswch grwpiau o eitemau iddynt sydd yn costio’r un faint fel cyfanswm a chynigiwch un yn erbyn y llall rhwng gwahanol gynnyrch. Er enghraifft: pot bach o lus a 5 banana neu bot mawr o rawnwin a 3 banana.
- Gadewch iddynt ddewis gwahanol elfennau o picnic gyda therfyn pris.
Datblygu grym ewyllys a dysgu aros
Mae’n arferol i blant pump a chwech oed fod eisiau pethau maent yn eu gweld. Maent yn dechrau dysgu’r gwahaniaeth rhwng anghenion a dymuniadau, ond nid ydynt yn ei ddeall yn llawn o hyd.
Mewn gwirionedd, gall llawer o blant swnian mwy yn yr oedran hwn. Gallwch ddefnyddio’r ‘eisiau’ hyn i ddysgu sgiliau cynilo, trafod a na, weithiau, ni allant gael yr hyn y maent ei eisiau.
Dyma rai awgrymiadau:
-
Cynlluniwch - os ydych yn mynd i siop deganau, cynlluniwch ymlaen llaw. Eglurwch ymlaen llaw beth rydych yn ei brynu a pham.
-
Gwrandewch - gadewch iddynt hwy deimlo eu bod yn cael eu clywed trwy roi rhestr iddynt o’r pethau na allant eu cael nawr ond y gallent fod eu heisiau ar gyfer penblwyddi neu wyliau.
-
Eglurwch - yn lle dim ond dweud na; eglurwch pam. Mae egluro bod gennym arian ar gyfer yr hyn rydym eu hangen (fel bwyd a gwres) ond dim dyheuadau neu ddanteithion yn eu helpu i ddeall y dewisiadau y mae’n rhaid i oedolion eu gwneud am arian.
-
Cadwch at eich gair - mae dweud na a glynu wrtho yn eu helpu i ddysgu hunanreolaeth, deall y gwahaniaeth rhwng anghenion ac eisiau, a chynilo am yr hyn maent ei eisiau.
Mwy o weithgareddau rheoli arian
Mae pob plentyn yn datblygu ar wahanol adegau. Er enghraifft, byddai rhai plant pump a chwech oed yn ymateb yn well i rai o’r gweithgareddau rydym yn eu hargymell yn ein canllawiau Sut i siarad a phlant tair a phedair oed am arian neu Sut i siarad a phlant saith ac wyth oed am arian. Dewiswch y rhai rydych yn teimlo sy’n fwyaf addas i chi.
Am fwy o syniadau ar grfer pob grwp oedran, lawrlwythwch ein canllaw Siarad, Dysgu, Gwneudopens in new window (sydd hefyd ar gael yn Saesneg).