Mae blwydd-dal yn talu incwm ymddeol rheolaidd – fel arfer am oes – yn defnyddio arian o’ch cronfa bensiwn. Os cawsoch ddiagnosis o salwch, neu fod gennych broblemau iechyd eraill a allai leihau eich disgwyliad oes, efallai y byddwch yn gallu derbyn incwm uwch ar ôl ymddeol. Gelwir hyn weithiau yn flwydd-dal uwch.
Cyflyrau iechyd y gellir eu cynnwys
Mae enghreifftiau o broblemau iechyd a allai roi hawl i chi dderbyn incwm uwch yn cynnwys:
- Strôc
- Canser
- Diabetes
- Trawiad ar y galon
- Methiant yr arennau
- Asthma cronig
- Sglerosis ymledol
- Pwysedd gwaed uchel
Ceir cyflyrau iechyd eraill a allai olygu hefyd y byddwch yn derbyn incwm uwch.
Felly os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth presgripsiwn mae’n werth gwirio gyda’ch darparwr neu’ch cynghorydd a ydych yn debygol o fod yn gymwys.
Rhesymau eraill am daliadau uwch
Efallai y byddwch yn gallu derbyn incwm misol uwch ar ôl ymddeol os byddwch yn ordrwm neu os byddwch yn ysmygu yn rheolaidd.
Mae rhai cwmnïau hefyd yn cynnig cyfraddau blwydd-dal uwch i bobl sydd wedi gweithio mewn swyddi penodol, fel y rhai sy’n gynnwys llawer o waith llaw, neu bobl sy’n byw mewn rhannau penodol o’r wlad.
Mae’n syniad da chwilio o gwmpas a chymharu’r incwm y gallwch ei dderbyn gan wahanol ddarparwyr.
Cymharwch gyfraddau
Wrth chwilio o gwmpas am flwydd-dal, sicrhewch eich bod yn datgelu pob mater yn ymwneud ag iechyd a ffordd o fyw.
Defnyddir ffurflen ddyfynbris gyffredin gan y mwyafrif o ddarparwyr pensiwn.
Mae hyn yn gwneud y broses hon yn haws gan y bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth feddygol unwaith yn unig, yn hytrach na’i hailadrodd ar ffurflen gais pob darparwr.
Gellir cael gafael ar y ffurflen dyfynbris gyffredin hon gan y rhan fwyaf o ddarparwyr blwydd-daliadau.
Gallwch ddefnyddio ein tablau cymharu isod i weld faint o incwm y gallech ei gael os oes gennych gyflwr meddygol neu os oes ffactorau ffordd o fyw eraill a fydd yn effeithio ar eich disgwyliad oes.
Mae’r tablau’n egluro’r dewisiadau eraill sydd angen i chi eu gwneud hefyd ynglŷn â’ch incwm blwydd-dal a sut i benderfynu pa un fyddai’n addas ar eich cyfer chi.
Ceisiwch gyngor cyn cymryd blwydd-dal
Unwaith y cymerwch flwydd-dal ni allwch newid eich meddwl.
Fodd bynnag, dyma un allan o nifer o opsiynau sydd gennych wrth gymryd eich pensiwn.
Felly mae’n bwysig gwneud yn siŵr mai hwn yw’r dewis iawn i chi.
I gael trosolwg o’ch holl opsiynau ac i gael gwybod lle i gael cymorth a chyngor, yn cynnwys canllaw yn rhad ac am ddim ac a gefnogir gan y llywodraeth o Pension Wise, gweler ein canllawiau isod.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?