Mae’n haws dod o hyd i’r cartref gorau ar gyfer eich cynilion a’ch buddsoddiadau â chynllun. Gyda chynllun, byddwch yn gwybod faint i’w gynilo, a gallwch olrhain eich cynnydd.
Cam 1 – Cwblhewch ymarfer canfod ffeithiau ariannol
?
Y tri cham i fuddsoddi llwyddiannus:
1. Canfod ffeithiau.
2. Lluniwch eich cynllun.
3. Gweithredwch.
Cyn y gallwch lunio cynllun, bydd angen i chi feddwl – nodi eich anghenion a’ch nodau a gweithio allan faint y gallwch ei gynilo.
Os nad ydych yn meddu ar y wybodaeth hon eisoes, dilynwch y ddolen isod lle y gallwch wneud ‘archwiliad cyflym’ neu dreulio amser ar ymarfer canfod ffeithiau ariannol manylach.
Cam 2 – Lluniwch eich cynllun buddsoddi
?
Diogelu eich hun
Llwyddwch i osgoi cynigion buddsoddi nas gofynnwyd amdanynt.
Cyn buddsoddi gwiriwch gofrestr yr FCA a’r rhestr rybuddio.
Os ydych yn ystyried cynnig buddsoddi, ceisiwch gyngor ariannol annibynnol.
Gan ddefnyddio’r wybodaeth o’ch ymarfer canfod ffeithiau ariannol, dylai eich cynllun buddsoddi nodi’r canlynol:
- Eich nodau buddsoddi a pha fathau o gynilion a buddsoddiadau allai fod yn addas i’w cyflawni, gan ystyried eich terfynau amser, sefyllfa ariannol, sefyllfa dreth, archwaeth am risg (eich parodrwydd i fentro â’ch arian ac i ba raddau) a’ch tuedd i fod yn barod i golli arian (faint o’ch cyfalaf gwreiddiol ydych chi’n barod i’w golli er mwyn sicrhau elw uchel ar eich buddsoddiad).
- Pa fath o adenillion sydd eu hangen arnoch ac y gallwch eu disgwyl yn rhesymol (os ydych yn ddibrofiad yn y maes buddsoddi gallai siarad â chynghorydd ariannol cymwys fod yn ddefnyddiol iawn).
- Y prif gostau cynnyrch sy’n ofynnol ichi eu talu.
- Os ydych yn buddsoddi mewn cronfeydd mae yna ddau brif fath o gostau: unwaith ac am byth a chostau parhaus. Bydd amryw o gostau eraill i’w hystyried fodd bynnag, a bydd angen ichi gael eglurhad ar y rhain gyda darparwyr unigol y cronfeydd. Fodd bynnag, bydd hyn yn rhoi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl.
- Neu, gallwch ddefnyddio’r Ffigwr Taliadau Parhaus (OCF) sy’n cynnwys y gost reoli flynyddol (AMC) ac amryw o gostau gweithredol eraill. Fodd bynnag, ni fydd y rhain yn cynnwys yr holl gostau sy’n ysgwyddo’r gost lawn o redeg y gronfa ond fe gewch gychwyn arni o leiaf i gymharu’r costau rhwng y cronfeydd.
- i ba raddau rydych am reoli eich cynllun eich hun ac unrhyw ffioedd cynghorwyr rydych yn barod i’w talu
- pa mor aml rydych am olrhain eich buddsoddiadau ac o dan ba amgylchiadau y byddwch yn gwneud newidiadau
Enghraifft
Dyma enghraifft o gamau cyntaf posibl wrth lunio cynllun buddsoddi. Mae’n dangos yr elfennau allweddol y byddech am eu cynnwys yn eich cynllun.
Mae Jane yn 35 oed ac mae ganddi fab tair oed….
Cyfandaliad sydd ar gael i’w fuddsoddi: £20,000
Swm misol sydd ar gael i’w fuddsoddi: £500
Yn dymuno sefydlu cronfa argyfwng sy’n cynnwys 3 mis o wariant hanfodol
Terfyn amser (cael gafael ar fy arian): > llai na 5 mlynedd (tymor byr)
Nodweddion delfrydol: Gallu cael gafael ar yr arian yn hawdd; Dim risg i’r cyfalaf
Parodrwydd i fentro: Isel yn yr achos hwn ond bydd yn dibynnu ar y buddsoddwr
Cynnyrch posibl i’w hystyried: Cyfrifon dim rhybudd
Dechrau cynilo ar gyfer ymddeoliad
Terfyn amser (cael gafael ar fy arian): > 10 mlynedd (hirdymor)
Nodweddion yr wyf yn chwilio amdanynt: Twf hirdymor; effeithlonrwydd treth, felly ystyriwch driniaeth dreth gwahanol gynnyrch
Archwaeth am risg: Uchel yn yr achos hwn ond bydd yn dibynnu ar y buddsoddwr
Cynnyrch i’w hystyried: Pensiynau (ystyried cynllun pensiwn fy nghyflogwr yn gyntaf); ISA stociau a chyfranddaliadau
Cael digon i ariannu addysg uwch
Terfyn amser (cael gafael ar fy arian): > 10 mlynedd (hirdymor)
Nodweddion delfrydol: Twf hirdymor; Ar gael ar ddyddiad penodol
Archwaeth am risg: Canolig yn yr achos hwn ond bydd yn dibynnu ar y buddsoddwr
Cynnyrch i’w hystyried: ISA stociau a chyfranddaliadau neu ISA arian parod; adneuon cyfnod sefydlog; asedau cymysg neu gronfeydd a reolir, giltiau cronfa
Cynilo £15,000 ar gyfer blaendal i brynu fflat
Terfyn amser (cael gafael ar fy arian): 5-10 mlynedd (tymor canolig)
Nodweddion delfrydol: Llog uchel; Effeithlon o ran treth; Wedi’i gloi
Archwaeth am risg: Isel yn yr achos hwn ond bydd yn dibynnu ar y buddsoddwr
Cynnyrch i’w hystyried: Bondiau Cynilo; ISA arian parod
Mae angen i Jane wneud penderfyniadau o hyd o ran faint y mae’n bwriadu ei gynilo tuag at bob nod, a bydd hyn yn dylanwadu ar ei dewis o ran cynnyrch cynilo a buddsoddi. Mae am gadw’r costau yn isel ond mae’n bwriadu ystyried cael cyngor ariannol annibynnol am y ffordd orau i gynilo cronfa i helpu ei mab drwy’r brifysgol neu brentisiaeth pan fydd yn hŷn.
Eich cynllun
Gyda gwybodaeth fel Jane, gallwch ddechrau chwilio am gynnyrch addas. I gael cymorth wrth wneud dewisiadau, darllenwch ein canllawiau isod:
Cael cyngor ariannol
Mae llawer o fuddsoddiadau i ddewis o’u plith. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi gael cyngor ariannol annibynnol cyn i chi brynu.
Cam 3 – Gweithredwch
Unwaith y byddwch wedi cymharu beth sydd ar gael, mae’n bryd rhoi eich cynllun ar waith.
Gall cael portffolio ariannol amrywiol iawn helpu i liniaru’ch lefel o risg.
Am ragor o wybodaeth ar amrywio a manteision posib hynny, darllenwch ein canllaw ar Amrywio – y ffordd ddoeth o gynilo a buddsoddi.
Sut i brynu cynnyrch cynilo arian parod
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo addas.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu cyfrifon cynilo:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
- Dysgwch ragor yn ein canllaw ar wefannau cymharu.
Sut i brynu buddsoddiadau
Mae’r byd ar-lein yn golygu ei bod yn llawer haws prynu, gwerthu a rheoli buddsoddiadau eich hun erbyn hyn os byddwch am wneud hynny. Ond, os byddwch yn ansicr o ran gwneud hynny eich hun, byddai’n well cael cymorth gan gynghorydd ariannol. I gael mwy o wybodaeth am y gwahanol opsiynau o ran rhoi eich cynllun gweithredu ar waith, dilynwch y ddolen isod.
Nid yw dal ati gyda’ch buddsoddiadau bob amser yn gam doeth, felly mae’n bwysig adolygu’ch buddsoddiadau yn rheolaidd
Mae risgiau ynghlwm â phob buddsoddiad a dylech sylweddoli ei bod hi’n arferol i werth eich buddsoddiadau gynyddu yn ogystal â gostwng dros amser.
Dyna pam mae’n syniad da adolygu pethau o leiaf unwaith y flwyddyn – naill ai ar eich pen eich hun neu gyda chymorth cynghorydd ariannol.