Mathau o yswiriant
Mae’n annhebygol y byddwch angen pob un cynnyrch yswiriant sydd ar y farchnad, hyd yn oed petaech chi’n medru fforddio’r cyfan. Ond sut ydych chi’n gwybod a ydych yn gwario’ch arian prin ar y polisïau sydd eu hangen arnoch fwyaf? Mae’r tabl isod wedi ei ddylunio i’ch cynorthwyo i wneud y penderfyniadau cywir ar eich cyfer chi a’ch cyllid cartref.
Yswiriant cartref
Beth mae yswiriant cartref yn ei gynnwys? |
A oes ei angen arnoch? |
Yswiriant adeiladau
- Mae’n talu’r gost o atgyweirio neu ailadeiladu’ch cartref os caiff ei ddifrodi gan storm, llifogydd, tân, mellt, ymsuddiant, ayyb
- Ni fyddwch wedi eich yswirio yn erbyn traul gyffredinol
- Rydych yn annhebygol o gael eich yswirio ar gyfer eiddo sydd yn wag am 60 diwrnod parhaol neu fwy
|
Oes, mae’n ofyniad cyfreithiol os ydych yn berchen ar eich cartref, ac mae darparwyr morgais fel arfer yn mynnu bod gennych yswiriant adeiladau.
|
Yswiriant cynnwys
- Mae’n yswirio eich meddiannau yn erbyn colled neu ddifrod
- Ni fyddwch wedi eich yswirio yn erbyn traul gyffredinol
- Fel arfer nid yw’n yswirio yn erbyn eiddo sy’n cael ei adael yn wag am 60 diwrnod parhaol neu fwy
|
Oes, i’r rhan fwyaf o bobl mae’n hanfodol rhag ofn i’ch cartref gael lladrad neu os bydd tân neu lifogydd.
- Fel arfer gallwch gael eitem newydd yn lle’r un a ddifrodwyd neu a gollwyd
- Gallwch ddewis cael yswiriant rhag ofn i chi golli eitemau y tu allan i’ch cartref
- Mae’n debygol y bydd angen i chi dalu tâl dros ben ar bob hawliad a bydd eich premiwm yn debygol o godi’r flwyddyn ganlynol
- Mae rhai eitemau yn cael eu hyswirio hyd at werth penodol yn unig, felly efallai bydd angen i chi dalu am yswiriant ychwanegol ar gyfer y rhain
|
Yswiriant car
Beth mae yswiriant car yn ei gynnwys? |
A oes ei angen arnoch? |
Yswiriant car Mae – tri math o yswiriant:
- Trydydd person – mae hwn yn yswirio pobl eraill (fel eich cyd-deithwyr) sydd mewn damwain, neu ddifrod i eiddo rhywun arall, ond os bydd eich car chi’n cael ei ddifrodi neu ei ddwyn bydd angen i chi dalu amdano eich hun
- Trydydd person, tân a lladrad – fel diogelwch trydydd person ond yn yswirio trwsio a chyfnewid os bydd eich car yn cael ei ddwyn neu ei roi ar dân
- Cynhwysfawr – yn yswirio popeth o’r uchod ac yn yswirio difrod i’ch car chi hefyd
|
Oes, mae’n gyfreithiol ofynnol i chi gael yswiriant trydydd person o leiaf.
- Mae’n eich yswirio rhag hawliadau anaf personol all gynyddu hyd at filiynau o bunnoedd
- Bydd gyrru heb yswiriant yn arwain at eich gwahardd rhag gyrru a’ch rhoi yn y carchar o bosib
- Mae yswiriant i yrwyr ifanc, sydd newydd lwyddo yn eu prawf gyrru yn ddrud iawn
- Os ydych angen gwneud hawliad yn aml ceir bwlch rhwng yr hyn mae’r yswiriwr yn ei dalu allan a’r gost o gyfnewid eich car
|
Yswiriant GAP (Diogelwch Ased Gwarantedig) - Yn eich yswirio os yw’ch car yn golled llwyr – mae’n talu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn a delir gan eich polisi yswiriant ac un ai:
- Faint wnaethoch chi dalu am y car
- Beth sydd arnoch chi’n weddill am y car, neu
- Beth fyddai pris prynu’r un car yn newydd
- Dim ond os bydd y car wedi ei gadarnhau’n golled llwyr neu’n amhosib ei adfer fydd yr yswiriant yn ddilys
|
Dim ond os oes arnoch chi fwy o arian i’ch gwerthwr car na gwerth presennol y car ddylech chi gysidro hyn. Ni fyddwch ei angen os:
- Rydych yn ystyried bod sicrwydd eich polisi yswiriant yn ddigonol
- Oes gennych bolisi yswiriant car ‘gwerth a gytunwyd’
- Rydych yn defnyddio cytundeb ariannol sy’n eich yswirio eisoes am y gwahaniaeth rhwng pris y llyfr a faint wnaethoch chi dalu
- Cawsoch ostyngiad digonol ar eich car i’ch yswirio yn erbyn unrhyw ddibrisiant
- Mae yswiriant GAP yn sicrhau eich bod yn cael car arall, yn cyfateb i’r un a oedd gennych ynghynt
- Mae’n bosib nad ydych wedi eich yswirio am gymaint ag yr oeddech yn ei ddisgwyl – er enghraifft elfennau ychwanegol ansafonol ar eich car, neu dâl dros ben uchel
|
Yswiriant teithio
Beth mae yswiriant teithio yn ei gynnwys? |
A oes ei angen arnoch? |
Yswiriant teithio - Mae’r rhan fwyaf yn yswirio ar gyfer:
- Treuliau meddygol brys
- Atebolrwydd personol, rhag ofn y cewch eich erlyn am ddifrodi eiddo neu achosi anaf
- Bagiau coll neu wedi’u dwyn
- Costau canslo, oedi neu dorri’n fyr eich taith
- Ni fydd yr yswiriant yn eich yswirio fel arfer ar gyfer cyflwr meddygol sy’n wybyddus ers tro
|
Oes, mae’n hanfodol er mwyn sicrhau y byddwch yn gallu fforddio gofal meddygol pan ydych chi dramor.
- Mae’r rhan fwyaf o bolisïau yn darparu hyd at £1 miliwn o yswiriant meddygol a’ch hedfan chi adref i gael triniaeth
- Bydd chwaraeon antur, chwaraeon gaeaf ac unrhyw ‘weithgareddau peryglus’ angen yswiriant ychwanegol
- Gall yswiriant eiddo fod yn werth gwael am arian yn aml
|
Yswiriant bywyd, salwch critigol, diogelwch incwm a diogelwch taliadau
Beth mae yswiriant bywyd, salwch critigol, diogelwch incwm a diogelwch taliadau yn ei gynnwys? |
A oes ei angen arnoch? |
Yswiriant bywyd - Mae’n talu cyfandaliad neu daliadau rheolaidd i’ch plant neu eraill petaech chi’n marw
|
Oes, os yw’ch plant neu eich partner yn dibynnu ar eich incwm i dalu’r morgais neu unrhyw gostau byw eraill.
- Gwiriwch i weld a oes gennych becyn gweithiwr sy’n cynnwys buddion ‘marwolaeth mewn gwasanaeth’, ac os felly, mae’n bosib na fydd angen yswiriant bywyd arnoch, neu ddim ond ychwanegiad bychan
- Os ydych yn ifanc ac yn iach, mae yswiriant bywyd yn werth da am arian – yn cynnig yswiriant sylweddol am gost isel mewn cymhariaeth
- Dim ond marwolaeth a yswirir – nid yw’n yswirio rhag eich anallu i weithio oherwydd salwch neu anabledd
- Mae’n bosib na fydd cyflyrau meddygol presennol yn cael eu hyswirio – os oes gennych broblem iechyd difrifol – mae’n bosib na allwch gael yswiriant neu am gost uchel yn unig
|
Yswiriant salwch difrifol - Mae’n talu cyfandaliad (neu bydd rhai polisïau yn talu incwm) os canfyddir eich bod yn dioddef o salwch difrifol, er enghraifft:
- Trawiad ar y galon
- Strôc
- Mathau a graddau penodol o ganser
- Cyflyrau megis sglerosis ymledol
- Bydd y rhan fwyaf o bolisïau yn talu i chi os cewch anabledd llwyr neu rannol yn dilyn anaf neu salwch
|
Nid yw mor bwysig ag yswiriant bywyd ond mae’n bosibl y bydd ei angen arnoch os ydych chi a’ch teulu’n dibynnu ar eich incwm i dalu’r morgais neu unrhyw gostau byw eraill.
- Gwiriwch a oes gennych chi becyn gweithiwr sy’n darparu incwm os na allwch weithio am gyfnod maith – mae’n bosib na fydd angen yswiriant salwch critigol arnoch
- Os na allech edrych ar ôl eich hun a’ch teulu petaech chi yn rhy wael i weithio, yna dylech gysidro yswiriant salwch critigol neu yswiriant diogelwch incwm
- Os gallwch ei fforddio – gallwch brynu polisi sy’n cyfuno bywyd a salwch critigol
- Gall taliad wneud cymaint o wahaniaeth pan mae ei angen arnoch fwyaf oll, er enghraifft gallwch ei ddefnyddio i dalu eich morgais yn llawn
- Mae’n bosib na fydd rhai canserau a chyflyrau cronig yn cael eu hyswirio, hyd yn oed os na fyddwch yn gallu gweithio
- Mae’n annhebygol y bydd problemau iechyd yr oeddech yn dioddef ohonynt cyn trefnu’r yswiriant yn ddilys
|
Yswiriant diogelu incwm
- Mae’n talu canran o’r cyflog sydd yn eich poced os na allwch chi weithio am gyfnod oherwydd salwch neu anabledd
- Mae’n yswirio rhag y rhan fwyaf o’r mathau o salwch sy’n eich atal rhag gweithio
- Nid yw’n yswirio ar gyfer diweithdra
|
Dylech ei gysidro os na fedrwch ddibynnu ar gynilion neu fudd-daliadau i’ch cynorthwyo yn ystod salwch.
- Rydych yn fwy tebygol o fod ei angen os ydych yn hunangyflogedig, neu os nad oes gennych chi dâl salwch galwedigaethol neu gynilion yn gefn i chi
- Fe ddylai eich costau byw a biliau gael eu hyswirio hyd nes y gallwch weithio unwaith eto neu ymddeol – gan ddibynnu ar gyfnod y polisi
- Gallwch wneud hawliad faint bynnag o weithiau sydd angen tra pery’r polisi
- Byddwch yn wyliadwrus o ddiffiniadau – ‘methu gweithio’ – bydd hyn yn golygu gwahanol bethau mewn gwahanol bolisïau – mynnwch gyngor cyn prynu
- Efallai na chewch yswiriant os oes gennych broblemau iechyd yn barod neu swydd beryglus
|
Yswiriant diogelu taliadau (PPI), ac yswiriant diogelu morgais (MPPI) - Yn yswirio eich ad-daliadau morgais, benthyciad a cherdyn credyd misol rhag ofn i chi
- Gael damwain
- Fynd yn sâl a methu gweithio, neu
- Golli eich swydd
- Fel arfer, ni fydd yn eich yswirio:
- Ar gyfer cyflyrau a oedd gennych o’r blaen
- Os ydych yn hunangyflogedig, ar gytundeb byr neu yn gontractwr
- Os ydych wedi ymddeol neu yn hunangyflogedig
- Os ydych yn colli eich swydd o fewn 3-6 mis o ddechrau eich polisi
|
Mae’n debyg nad ydych ei angen os:
- Gallech ymdopi ar eich tâl salwch neu dâl dileu swydd
- Mae gennych ddigon o gynilion i fedru gwneud eich ad-daliadau
- Gallai eich partner dalu eich morgais ac ad-daliadau benthyciadau eraill
- Rydych yn ifanc, yn sengl, mewn iechyd da, ac arian parod ar gyfer yswiriant sylfaenol y unig
Gall leddfu eich problemau arian petaech chi:
- Yn colli eich swydd ac yn debygol o fod allan o waith am gryn amser
- Heb ddim cynilion, neu ychydig iawn ac mewn tipyn o ddyled
Ffactorau eraill:
|
Yswiriant meddygol a deintyddol preifat
Beth mae yswiriant meddygol a deintyddol preifat yn ei gynnwys? |
A oes ei angen arnoch? |
Yswiriant meddygol preifat
- Mae yswiriant meddygol yn ad-dalu rhan neu’r gost gyfan o’ch biliau meddygol os ydych yn talu am eich gofal iechyd eich hun
- Mae yswiriant meddygol preifat yn yswirio’r rhan fwyaf o driniaethau cleifion ysbyty (profion a llawfeddygaeth) a llawfeddygaeth gofal dydd. Mae rhai polisïau yn yswirio triniaethau cleifion allanol hefyd (megis meddygon arbenigol ac ymgynghorol)
- Nid yw fel arfer yn cynnwys triniaeth ar gyfer:
- Cyflwr meddygol sydd gennych eisoes
- Afiechydon cronig megis diabetes, problemau iechyd meddwl ac iselder
- Llawdriniaeth gosmetig
- Archwiliadau cyffredin
- Beichiogrwydd
|
Cewch driniaeth am ddim ar y GIG, felly’r unig reswm y byddech angen yswiriant meddygol preifat fyddai os:
- Ydych yn teimlo y bydd angen triniaeth arnoch nad yw ar gael ar y GIG, megis llawdriniaeth arbenigol ar gyfer anafiadau chwaraeon neu fathau penodol o gyffuriau canser neu driniaeth ohono
- Nad ydych eisiau defnyddio’r GIG ac y byddai’n well gennych ddefnyddio ysbytai a chlinigau preifat lle bo hynny’n bosibl
Ffactorau eraill
- Gallwch ofyn i’ch meddyg teulu eich cyfeirio at arbenigwr preifat
- Os na fydd y GIG yn gadael i chi gael sgan neu yn eich gorfodi i ddisgwyl, gallwch ddefnyddio eich yswiriant i dalu amdano
- Gallwch ddefnyddio eich yswiriant i leihau’r amser yr ydych yn disgwyl am driniaeth GIG
- Gall fod yn ddrud, gan ddibynnu ar y mathau o driniaeth yr hoffech eu cynnwys yn y polisi
- Mae premiymau yn codi bob blwyddyn, a gydag oed, felly erbyn i chi heneiddio a’ch bod yn fwy tebygol o fod angen triniaeth, mae’n bosib na fyddwch yn gallu fforddio’r premiymau
|
Yswiriant deintyddol
- Mae’n yswirio archwiliadau cyffredin, yn ogystal â holl gostau gwaith deintyddol, gan gynnwys damweiniau deintyddol ac argyfyngau
- Nid yw’n cynnwys gwaith cosmetig
|
Os na fedrwch fynd at ddeintydd GIG, neu fod angen gwneud tipyn o waith ar eich dannedd, gall yswiriant deintyddol fod yn syniad da.
- Os oes angen tipyn o driniaeth arnoch, gall yswiriant deintyddol gynnig gwerth da am arian i chi
- Fel rheol dim ond wedi rhwng un i dri mis wedi i chi brynu’r yswiriant y cewch wneud hawliad
- Gall premiymau godi os gwnewch hawliad am rywbeth heblaw archwiliad cyffredin
|
Yswiriant anifeiliaid anwes
Beth mae yswiriant anifeiliaid anwes yn ei gynnwys? |
A oes ei angen arnoch? |
Yswiriant anifeiliaid anwes
- Yn yswirio’r gost o driniaeth filfeddygol i’ch anifail anwes
- Nid yw pigiadau blynyddol ac ysbaddu wedi eu cynnwys
|
Dewisol – os na allwch fforddio cost y driniaeth o’ch incwm dros ben, dylech gysidro cael yswiriant.
- Rydych ei angen fwyaf os oes gennych fath o gi neu gath sy’n debygol o gostio’n ddrud i chi mewn gofal iechyd
- Mae biliau milfeddygol yn ddrud ac yn cynyddu o hyd – os yw eich anifail anwes yn cael anaf difrifol neu salwch cronig, gall yswiriant anifeiliaid anwes fod yn werth da am arian
- Gwnewch yn siŵr bod eich anifail anwes yn derbyn eu pigiadau rheolaidd neu gallai’ch yswiriant anifeiliaid anwes wrthod talu hawliad
- Mae’n anodd cael yswiriant ar gyfer anifail anwes sydd yn hen neu’n dioddef o gyflwr meddygol eisoes
|
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?