Os yw’n well gennych deithio mewn car neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus, fel unigolyn anabl gallech fod yn gymwys ar gyfer ystod o gynlluniau i’ch helpu i brydlesu cerbyd, parcio, neu sy’n cynnig teithio am ddim neu â gostyngiad ar drenau, bysiau a choetsis.
Cynllun Motability
Mae’r Cynllun Motability yn galluogi pobl anabl i brydlesu car, sgwter symudedd neu gadair olwyn fodur newydd. Gallech fod yn gymwys i ymuno â’r Cynllun Motability os ydych yn derbyn budd-daliadau anabledd penodol.
Y Cynllun Bathodyn Glas
Mae’r Cynllun Bathodyn Glas yn darparu ystod o fuddion parcio ar gyfer pobl anabl sy’n ei chael yn anodd cerdded. Er enghraifft, gallwch barcio am ddim mewn cilfachau talu ac arddangos a hefyd ar linellau melyn dwbl a sengl.
Eithriad treth car
Os ydych yn derbyn budd-daliadau anabledd penodol nid oes rhaid ichi dalu Treth Car (treth car, neu treth ffordd).
Os ydych ar y Cynllun Motability nid oes angen ichi wneud dim.
Bysiau
Cardiau bws am ddim
Gan ddibynnu ymhle yn y DU rydych yn byw, gallech fod â’r hawl i deithio am ddim neu â gostyngiad ar fysiau.
Darganfyddwch ragor am gardiau bws a gostyngiadau teithio eraill ble rydych yn byw drwy ddilyn y dolenni isod:
Trenau
Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl
Mae’r Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl yn rhoi gostyngiad o draean ichi oddi ar y mwyafrif o docynnau trên. Mae’r disgownt ar gyfer dau unigolyn – felly gallwch arbed arian i ffrind neu ofalwr hefyd. Mae’n rhaid ichi brynu’r cerdyn rheilffordd ond mae’n bosibl y byddwch yn adennill y swm hwn wedi un daith yn unig.
Mae llawer o gymorth ar gael wrth deithio ar y trên – gan gynnwys cymorth wrth fynd ar y trên neu wrth ymadael â’r trên a chymorth gyda bagiau – i gyd am ddim.
Coetsis
Nid oes cynllun gostyngiadau cenedlaethol ar gyfer teithio ar goetsis. Fodd bynnag mae teithio gostyngedig ar gael gan ddibynnu ar y cwmni coetsis rydych yn ei ddefnyddio.
National Express
Mae National Express yn gwerthu Cerdyn Coets i’r Anabl sy’n rhoi gostyngiad o draean oddi ar eu tocynnau safonol.
City Link (Yr Alban)
Gallwch gael teithio am ddim os defnyddiwch eich Cerdyn Hawliad Cenedlaethol ar goetsis City Link.
Goldline (Gogledd Iwerddon)
Gallwch deithio am hanner y pris os defnyddiwch eich SmartPass ar goetsis Goldline.
Cludiant cymunedol
Fel arfer trefnir cludiant cymunedol (a elwir weithiau’n ‘Dial a ride’ neu ‘Ring and ride’) gan awdurdodau lleol a gall fod yn ddewis amgen da yn lle tacsi neu gludiant cyhoeddus.
Teithio yn Llundain
Pas Rhyddid Pobl Anabl
Gyda Phas Rhyddid Pobl Anabl byddwch yn cael:
- teithio 24-awr am ddim ar draws rhwydweithiau Transport for London (ac eithrio rhai cychod afon sy’n hanner pris)
- teithio ar y trên am ddim ar rwydwaith London Overground (fodd bynnag, efallai na fyddwch yn gallu teithio cyn 9.30am)
Cynllun Cerdyn Tacsi Llundain
Mae’r Cynllun Cerdyn Tacsi Llundain yn darparu tacsis â chymhorthdal ar gyfer pobl anabl sy’n ei chael yn anodd teithio ar gludiant cyhoeddus.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?