Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyflog Byw Cenedlaethol

Mae gan bron bob un gweithiwr yn y DU hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol - neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol os ydych yn 25 neu’n hŷn. Mae’r dudalen hon yn dweud mwy wrthych sut i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich talu ar y gyfradd gywir. Mae hefyd yn sôn am y camgymeriadau cyffredin a wneir gan gyflogwyr wrth gyfrifo’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol - a’r gwahaniaeth rhwng y Cyflog Byw Cenedlaethol (sydd yn orfodol) a’r Cyflog Byw (y gall cyflogwyr ddewis ei dalu).

Beth yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol?

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW) yw’r taliad gofynnol fesul yr awr y gall y rhan fwyaf o weithwyr yn y DU ei hawlio’n gyfreithiol. Mae’r swm yn amrywio gan ddibynnu ar eich oed ac a ydych yn brentis. Rhaid talu’r Cyflog Byw Cenedlaethol (NLW) i’r rhan fwyaf o bobl 25 oed neu’n hŷn, sef cyfradd uchaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer 2019/20

Oedran Isafswm cyfradd fesul awr 2019-20
25 oed a hŷn £8.21
21 i 24 £7.70
18 i 20 £6.15
Dan 18 £4.35
Prentis £3.90

Prentisiaid a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae gan brentisiaid hawl i gael y gyfradd brentisiaeth o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol os ydynt un ai:

  • Dan 19
  • Yn 19 neu’n hŷn ac ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth

Mae gan brentisiaid sy’n hŷn na 19 oed ac sydd wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eu prentisiaeth hawl i gael yr Isafwm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu hoed.

A oes gen i’r hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol?

Rhaid i chi fod o oed gadael ysgol (dydd Gwener olaf ym mis Mehefin o’r flwyddyn ysgol y byddwch yn cyrraedd 16 oed) i fedru hawlio’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae gan bron bob un gweithiwr yr hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan gynnwys:

  • gweithwyr achlysurol
  • gweithwyr dros dro
  • gweithwyr rhan amser

Ond os ydych yn hunangyflogedig neu’n gyfarwyddwr cwmni, ni allwch hawlio’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae rhai mathau eraill o weithwyr hefyd nad ydynt yn gymwys.

Gwelwch y rhestr lawn o bwy sydd â hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar GOV.UK.

Sut y cyfrifir yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyflog Byw Cenedlaethol

Didyniadau o’ch cyflog cyn y cyfrifir yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Os ydych wedi talu am rai pethau sy’n gysylltiedig â’ch swydd allan o’ch cyflog, dylai’ch cyflogwr ddidynnu’r taliadau hyn cyn cyfrifo a ydych wedi cael y taliad isafswm cyflog cywir.

Y taliadau hyn yw:

  • Taliadau er defnydd neu fudd personol y cyflogwr - er enghraifft, os taloch am deithio rhwng safleoedd gwaith
  • Taliadau am bethau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gwaith ond ni chawsoch ad-daliad ar eu cyfer – fel teclynnau, gwisg neu offer

Dylai pob taliad arall a dynnir o’ch cyflog, fel treth neu Yswiriant Gwladol, gael eu cynnwys pan fydd eich cyflogwr yn cyfrifo a yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol wedi’i dalu i chi.

Blwch galw

Gwiriwch a ydych chi’n cael yr isafswm cyflog gyda Chyfrifiannell isafswm cyflog GOV.UK.

Isafswm cyflog am wahanol fathau o waith – a beth sy’n cael ei gynnwys fel amser gwaith

Cyfrifir yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol fel cyfradd fesul awr, ond mae’n berthnasol hyd yn oed os nad ydych yn cael eich talu fesul yr awr. Gallwch ddysgu rhagor am hyn a beth sy’n cael ei gynnwys fel amser gwaith drwy’r ddolen isod.

Llety a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Os yw’ch cyflogwr yn darparu llety, gall ystyried gwerth hynny wrth gyfrifo’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Nid oes yr un budd cwmni arall (fel talebau gofal plant, prydau bwyd, neu gar) yn berthnasol ar gyfer yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Pethau nad ydynt yn medru cael eu cynnwys ar gyfer yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Gallech gael eich talu ar gyfradd uwch na’ch cyfradd tâl arferol ar gyfer peth o’r gwaith a wnewch – er enghraifft am weithio:

  • goramser, ar benwythnos neu shifftiau nos
  • ar wyliau’r banc
  • mwy na nifer penodol o oriau.

Os felly, nid yw’r elfen bremiwm o’r cyflog – hynny yw, cyfanswm y gyfradd o dâl uwch sy’n fwy na’ch cyfradd sylfaenol – yn cyfrif tuag eich isafswm tâl cyflog.

Yn ogystal, ni all eich cyflogwr ystyried y canlynol i’w cyfrif tuag at eich isafswm tâl cyflog:

  • arian cildwrn
  • taliadau gwasanaeth
  • ffioedd gan gwsmeriaid.

Fodd bynnag, gall eich cyflogwr gynnwys taliadau ysgogiad neu fonws fel rhan o’ch cyflog sylfaenol.

Beth i’w wneud os credwch eich bod wedi cael llai na’r isafswm cyflog cywir

Os credwch eich bod wedi cael llai na’r isafswm cyflog cywir ar gyfer eich oed, siaradwch â’ch cyflogwr yn uniongyrchol. Os na fydd hynny’n datrys y broblem, gallwch ofyn i gael gweld cofnodion eich taliadau a gwneud copïau ohonynt.

Gallwch gysylltu â llinell gymorth ACAS i gael cyngor cyfrinachol am ddim i helpu i ddatrys eich anghydfod cyflog.

Gallwch gyflwyno cwyn am eich cyflogwr hefyd i HMRC. Os bydd HMRC yn canfod na chawsoch y taliad cywir, rhaid i’ch cyflogwr dalu unrhyw arian sy’n ddyledus i chi a thalu dirwy i HMRC am dalu llai na’r isafswm cyflog.

Beth yw’r Cyflog Byw?

Pennir y Cyflog Byw gan Sefydliad y Cyflog Byw. Ceir cyfradd y DU a chyfradd Llundain.

Mae Cyflog Byw y DU yn £9.00 yr awr ac mae Cyflog Byw Llundain yn £10.55 yr awr.

Mae’r Cyflog Byw yn seiliedig ar gostau byw. Mae’r Sefydliad Resolution yn cyfrifo’r cyfraddau, a chaiff ei oruchwylio gan y Sefydliad Cyflog Byw.

Nid oes raid i gyflogwyr dalu’r Cyflog Byw, ond mae dros 3,600 o gyflogwyr yn dewis gwneud hynny.

Gallwch ddod o hyd i gyflogwyr sy’n talu’r Cyflog Byw yn lleol i chi ar fap cyflogwyr y Sefydliad Cyflog Byw.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Cyflog Byw?

Y Cyflog Byw Cenedlaethol:

  • yw cyfradd uchaf yr isafswm cyflog cenedlaethol (sydd yn £8.21 yr awr ar hyn o bryd).
  • caiff ei bennu gan y llywodraeth
  • rhaid ei dalu i bob gweithiwr dros 25 oed

Y Cyflog Byw:

  • caiff ei bennu gan Sefydliad y Cyflog Byw
  • mae’n berthnasol i bob gweithiwr dros 18 oed
  • mae’n wirfoddol – gall cyflogwyr ddewis a ydynt am ei dalu
  • mae dwy gyfradd iddo – ceir cyfradd y DU (£9.00 yr awr) a chyfradd Llundain (£10.55 yr awr)
Dysgwch ragor am y Cyflog Byw ar wefan Sefydliad y Cyflog Bywopens in new window

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?