Gall colli swydd gynnig cyfleoedd newydd, gan gynnwys y cyfle i hyfforddi ar gyfer gyrfa newydd. Yn y canllaw hwn, cewch wybod ble i gael cymorth a chyngor ariannol yn ogystal â’ch dewisiadau pan ddaw’n amser i ailhyfforddi. Efallai’n wir y gwelwch fod colli’ch swydd yn agor y drws i yrfa newydd sbon.
Cael cyngor ar yrfaoedd, ailhyfforddi a chyllid
Mae ychwanegu at eich sgiliau presennol neu gael cymwysterau mewn maes newydd yn ffyrdd da o wella’ch gobeithion o gael swydd arall. Gallent hefyd roi hwb i’ch hyder y mae mawr ei angen.
Fe welwch fod llawer o ddewisiadau ailhyfforddi ar gael i chi pan fydd eich swydd wedi’i dileu, o brentisiaethau i interniaethau i gyrsiau astudio rhan-amser neu amser llawn neu gyrsiau astudio o bell yn y coleg neu’r brifysgol. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael hefyd.
Dolenni defnyddiol a manylion cyswllt
Sgiliau cyfrifiadurol ac ar-lein
Ewch i Rwydwaith Canolfannau Ar-lein y Deyrnas Unedig yn ukonlinecentres.org i ganfod eich canolfan hyfforddiant agosaf.
Mae Learn My Way yn cynnig cwrs am ddim ar ddefnyddio cyfrifiadur, pori’r we a chanfod gwaith ar-lein ar learnmyway.com.
Cyllido’ch hyfforddiant, eich astudiaethau neu’ch prentisiaeth
?
Mae’n bosibl na chewch chi daliad terfynol enfawr pan gollwch eich swydd, ond nid yw hynny’n golygu na allwch fforddio ailhyfforddi.
Mae gwahanol ffyrdd o gyllido newid gyrfa, gan ddibynnu ar y rhaglen hyfforddi neu’r cwrs astudio yr hoffech ei ddilyn - a chan ddibynnu hefyd ar unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych.
Ystyriwch pa ddewis sy’n addas i chi - benthyciad (bydd rhaid ichi ei dalu’n ôl), grantiau neu fwrsariaethau (ni fydd rhaid ichi dalu’r rhain yn ôl) neu brentisiaethau (byddwch yn ennill arian wrth ddysgu).
Benthyciadau datblygiad proffesiynol a datblygu gyrfa
Mae benthyciadau datblygiad proffesiynol a datblygu gyrfa wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer dysgu yn seiliedig ar waith.
Sut maent yn gweithio:
- Gallwch fenthyca unrhyw beth rhwng £300 a £10,000, waeth faint yw’ch cynilion neu’ch incwm.
- Gallwch fenthyca ar gyfraddau cymharol rad.
- Ni fyddwch yn dechrau ei ad-dalu hyd nes i chi orffen eich cwrs.
- Bydd banciau angen rhwng chwe wythnos a thri mis i brosesu’ch cytundeb, felly peidiwch â’i adael tan y funud olaf.
Benthyciadau myfyrwyr
Mae dros hanner y bobl sy’n astudio ar gyfer cyrsiau gradd yn y DU dros 21 - nid yw byth yn rhy hwyr i fynd i’r coleg neu’r brifysgol. Neu’n wir, i fynd yn ôl!
Grantiau a bwrsariaethau
Maent ar gael fel arfer gan y llywodraeth, elusennau, neu’r coleg neu’r brifysgol lle rydych yn bwriadu mynd, ond mae angen ichi chwilio amdanynt.
Prentisiaethau
Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn, gall prentisiaeth fod yn ffordd dda o symud i yrfa newydd. Byddwch yn ennill tra byddwch yn dysgu, a dylai fod gennych well gobaith o gael swydd.
Hawlio budd-daliadau tra byddwch yn ailhyfforddi
Cyn gynted ag y bydd eich swydd wedi’i dileu, mae angen ichi hawlio’r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. A phan fyddwch yn cofrestru ar gyfer prentisiaeth neu gwrs astudio, cofiwch hawlio unrhyw gymorth ychwanegol fel arian tuag at ofal plant.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?