Mae gan rai morgeisi nodweddion arbennig a allai helpu’ch llif arian neu dalu’ch morgais yn llwyr ynghynt. Darllenwch y canllaw hwn i ddysgu mwy am arian yn ôl, cyfrif cyfredol a morgeisi gwrthbwyso.
Morgeisi arian yn ôl (cashback)
Gyda morgais arian yn ôl, rydych yn cael rhywfaint o arian wrth gymryd eich morgais. Gallai’r swm arian yn ôl fod yn gyfran o’r swm yr ydych chi’n ei fenthyg (er enghraifft 1%) neu fe allai fod yn swm penodol (er enghraifft £500). Byddwch yn derbyn yr arian yn ôl ar ôl cwblhau, ac nid cyn hynny.
Manteision
- Derbyn cyfandaliad i helpu gyda, er enghraifft, cost dodrefn ac atgyweiriadau i gartref newydd
Anfanteision
- Mae morgeisi arian yn ôl yn aml yn codi cyfradd llog uwch na morgeisi eraill. Er mwyn gwirio gwir gost arian yn ôl, cymharwch eich costau morgais gyda chynnyrch eraill ar y farchnad.
Morgeisi gwrthbwyso (offset)
Darllenwch drawsgrifiad y fideo (DOC 33KB)
Gyda morgais gwrthbwyso, mae’ch cynilion wedi’u cysylltu â’ch morgais. Mae hyn yn golygu bod eich cynilion yn mynd tuag at ostwng eich morgais, felly fyddwch chi ond yn talu llog ar y swm morgais, llai’r swm yr ydych chi wedi’i gynilo. Mae’n ddewis da ar gyfer pobl gyda chynilion a balans banc rhesymol bob mis. Gall morgeisi gwrthbwyso fod ar gyfraddau sefydlog neu amrywiol.
Er enghraifft
Mae gennych forgais gwrthbwyso o £200,000 ar 3% o log. Mae gennych £10,000 o gynilion hefyd mewn cyfrif gwrthbwyso.
Mae’r £10,000 yn cael ei dynnu o’r £200,000, felly dim ond ar y balans o £190,000 y byddwch chi’n talu llog. Felly yn hytrach nag ennill llog ar wahân ar y £10,000 fel cynilion, byddwch chi yn lle hynny yn osgoi talu 3% o log ar y £10,000 o’ch dyled.
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i morgais addas.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu morgeisi:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
- Dysgwch ragor yn ein canllaw ar wefannau cymharu
Manteision
- Fyddwch chi’n dal i ad-dalu’r morgais bob mis fel arfer, ac yn ei dalu yn llwyr ynghynt oherwydd eich bod chi’n gostwng y swm sy’n ddyledus
- Gallwch barhau i dynnu arian o’ch cynilion yn ôl eich dymuniad
Anfanteision
- Nid yw’n ddelfrydol ar gyfer y rheini sy’n dibynnu ar log eu cynilion i roi hwb i’w hincwm
- Nid yw morgeisi gwrthbwyso fel arfer yn cynnig mynediad i chi i fargeinion cyfraddau is
Morgeisi cyfrif cyfredol
Mae morgeisi cyfrif cyfredol yn fath o forgais gwrthbwyso. Yr unig wahaniaeth yw bod eich cyfrif cyfredol a morgais yn cael eu cyfuno yn un. Felly os oes gennych chi forgais o £150,000 a £1,500 yn eich cyfrif cyfredol, bydd eich datganiad banc yn dangos bod arnoch chi £148,500 i’ch benthyciwr.
Enghraifft o forgais cyfrif cyfredol
Mae morgeisi cyfrif cyfredol yn debyg i forgeisi gwrthbwyso. Y gwahaniaeth yw bod eich cyfrif cyfredol, yn hytrach na’ch cynilion, a’r morgais yn cael eu cyfuno yn un. Er enghraifft, os oes gennych forgais cyfrif cyfredol o £150,000 a £1,500 yn eich cyfrif cyfredol, bydd eich datganiad yn dangos eich bod mewn dyled o £148,500 i’ch darparwr benthyciadau.
Er enghraifft, dychmygwch eich bod chi’n ennill £3,000 y mis ar ôl treth, a bod gennych forgais o £148,000.
Tra bod eich £3,000 yn y cyfrif, dim ond ar £145,000 y byddwch chi’n gorfod talu llog.
Wrth i chi fynd trwy’r mis yn gwario peth o’ch cyflog, bydd eich balans morgais yn codi’n raddol a bydd y taliadau llog dyddiol yn cynyddu.
Pan fyddwch chi’n derbyn eich pecyn cyflog nesaf i’ch cyfrif banc, bydd eich balans morgais unwaith eto yn gostwng ychydig a bydd y llog sy’n cael ei godi yn disgyn.
Felly gyda morgais cyfrif cyfredol, bydd y llog a godir yn cynyddu a lleihau wrth i’r swm yn eich cyfrif cyfredol gynyddu a lleihau. Os oes gennych forgais ad-dalu byddwch chi’n talu mwy o gyfalaf pa bryd bynnag y bydd eich cyfrif cyfredol mewn credyd.
Manteision
- Mae gennych yr hyblygrwydd i ddefnyddio’r arian yn eich cyfrif cyfredol i ostwng eich taliadau misol
- Rydych chi’n fwy tebygol o fod yn talu’r morgais yn llwyr na gyda math safonol o forgais
Anfanteision
- Nid yw’r mathau hyn o forgeisi fel arfer yn cynnig mynediad i chi at fargeinion cyfradd ostyngol
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i morgais addas.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu morgeisi:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
- Dysgwch ragor yn ein canllaw ar wefannau cymharuopens in new window
Morgeisi eraill sydd â nodweddion hyblyg
Mae rhai morgeisi confensiynol yn cynnig nodweddion hyblyg, a restrir isod:
Yr opsiwn i ordalu
Mae llawer o forgeisi yn caniatáu i chi dalu mwy na’ch taliad misol arferol a chan hynny yn gostwng eich dyled ynghynt. Gwiriwch a oes cyfyngiad ar faint y gallwch ordalu bob blwyddyn – fel arfer mae’n 10% o’r morgais. Gall ad-dalu’ch morgais cyn diwedd ei gyfnod ymddangos yn syniad gwych, ond dylech fod yn ymwybodol y gallech wynebu ffi am ad-dalu’n gynnar, felly cofiwch wirio amodau’ch cytundeb morgais.
Yr opsiwn i dandalu
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau ariannol, bydd rhai darparwyr benthyciadau yn caniatáu i chi dalu llai na’ch ad-daliad misol arferol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol pan fydd yr arian yn dynn, ond mae’n cynyddu’ch dyled gan fod y gwahaniaeth yn cael ei ychwanegu at eich morgais. Fe gymer hi fwy o amser i dalu’ch morgais sy’n weddill yn llwyr a byddwch chi’n talu mwy o log yn ystod hynt y benthyciad.
Yr opsiwn i gymryd seibiant talu
Gyda rhai morgeisi – ac yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol – efallai y bydd modd ichi gael seibiant rhag talu eich morgais. Mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i chi wneud unrhyw daliadau am gyfnod cyfyngedig. Nid oes gan bob morgais yr opsiwn hwn.
Eich camau nesaf