Er mwyn cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad, mae angen i chi ddarganfod faint o incwm a gewch o’ch pensiynau i gyd, gan gynnwys cynlluniau man gwaith neu gynlluniau personol, yn ogystal â Phensiwn y Wladwriaeth. Mae’n ddigon hawdd cael y wybodaeth hon, hyd yn oed am bensiwn yr ydych wedi anghofio amdano dros y blynyddoedd.
Dod o hyd i bensiwn personol neu bensiwn man gwaith
Rhaid i’r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn yr ydych wedi bod yn aelod ohonynt anfon datganiad atoch bob blwyddyn. Mae’r datganiadau hyn yn cynnwys amcangyfrif o’r incwm ymddeol y gall y gronfa bensiwn ei gynhyrchu pan gyrhaeddwch oed ymddeol.
Os nad ydych yn cael y datganiadau hyn mwyach – efallai am eich bod wedi newid cyfeiriad – mae tri chorff y gallwch gysylltu â hwy i ddod o hyd i’r pensiwn: darparwr y pensiwn, eich cyn gyflogwr os mai pensiwn man gwaith ydoedd, neu’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau.
Cysylltu â darparwr y pensiwn personol
Os ydych yn gwybod pwy oedd darparwr eich pensiwn, dylech gysylltu â hwy yn gyntaf. Ceir dolen isod at dempled llythyr y gallech ei gwblhau a’i anfon atynt, ond sut bynnag y penderfynwch gysylltu â hwy, dylech roi cynifer â phosibl o’r manylion canlynol:
- rhif eich cynllun
- eich dyddiad geni
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- dyddiad sefydlu eich pensiwn
A drwy ofyn y cwestiynau canlynol, cewch grynodeb trwyadl o sefyllfa eich potiau pensiwn:
- faint sydd wedi’i gyfrannu at y potiau pensiwn?
- beth yw gwerth y potiau pensiwn ar hyn o bryd?
- faint o incwm fydd y pot pensiwn yn debygol o dalu allan ar ddyddiad ymddeol o’ch dewis?
- pa gostau ydych yn eu talu am reoli’r potiau pensiwn?
- sut mae’r pot pensiwn yn cael ei fuddsoddi a pha ddewisiadau sydd o ran ei newid?
- beth yw budd-dal marwolaeth – mewn geiriau eraill, faint o arian fyddai’r pensiwn yn ei dalu pe baech yn marw?
- a oes rhywun wedi’i enwebu i dderbyn budd-dal marwolaeth?
- a fyddai unrhyw gostau am drosglwyddo’r potiau pensiwn i ddarparwr arall?
Os ydych yn olrhain pensiwn man gwaith
Os ydych yn dymuno olrhain pensiwn gweithle – cynllun a gynhelir gan gyflogwr – dylech gysylltu â’r cyflogwr yn gyntaf. Fodd bynnag, os mai darparu mynediad at gynllun
personol neu gynllun rhanddeiliad oedd eich cyflogwr, dylech gysylltu â darparwr y pensiwn os ydych yn gwybod manylion y darparwr.
Os nad ydych yn gwybod manylion darparwr y pensiwn, gofynnwch i’ch cyn gyflogwr – dylai allu rhoi’r manylion i chi. Eto, ceir dolen isod at dempled llythyr y gallwch ei ddefnyddio at y diben hwn, ond y wybodaeth allweddol y mae angen i chi ei rhoi i’r cyflogwr yw:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- y dyddiad y bu i chi ddechrau gweithio gyda’r cyflogwr
- y dyddiad y bu i chi orffen gweithio yno
- y dyddiadau y bu i chi ymuno â’r cynllun pensiwn a’i adael
A’r cwestiynau allweddol i’w gofyn yw pa fath o gynllun ydyw (er enghraifft, buddion wedi’u diffinio ynteu cyfraniadau wedi’u diffinio?) ac, oni bai mai cynllun â buddion wedi’u diffinio ydyw, pwy yw darparwr eich pensiwn.
Cysylltu â’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau
Os ydych yn dal i gael pethau’n anodd – efallai am na allwch ddod o hyd i fanylion cyswllt hen gyflogwr, neu nad ydych yn gwybod pwy yw darparwr hen bensiwn personol – gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau.
Mae hwn yn wasanaeth di-dâl sy’n chwilio drwy gronfa ddata o dros 200,000 o gynlluniau pensiwn man gwaith a chynlluniau pensiwn personol i geisio dod o hyd i’r manylion cyswllt y mae eu hangen arnoch. Gallwch ffonio’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau ar 0800 731 0193 neu gallwch ddefnyddio’r ddolen isod i lenwi ffurflen gais ar-lein.
Sut i gael amcangyfrif o’ch Pensiwn y Wladwriaeth
Bydd datganiad Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi amcangyfrif i chi o ran faint o bensiwn y wladwriaeth y gallech gael, yn seiliedig ar eich cofnodion cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yn hyn. Bydd hefyd yn eich helpu i ddeall sut y gallai unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol gynyddu’r symiau a ddangosir.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?