Opsiynau ar gyfer clirio’ch dyled – Gogledd Iwerddon

Os ydych chi’n cael trafferthion yn talu biliau bob dydd, neu i dalu ad-daliadau benthyciadau ac ymrwymiadau ariannol eraill yn brydlon, mae nifer o opsiynau ar gael i chi i helpu i glirio’ch dyledion. Isod, rydym yn amlinellu rhai o’r opsiynau mwyaf cyffredin y gallech fod yn ymwybodol ohonynt eisoes. Fodd bynnag, peidiwch â gwneud unrhyw benderfyniadau ar eich pen eich hun – cyn gwneud dim byd chwiliwch am gyngor rhad ac am ddim, annibynnol ac arbenigol.

Dechreuwch trwy gael cyngor diduedd am ddim ar ddyledion

Nid oes angen i chi dalu am gyngor ar ddyledion – defnyddiwch un o’r sefydliadau a restrir yn ein Hofferyn Canfod Cyngor ar Ddyledion.

Byddant yn helpu i chi benderfynu pa un o’r opsiynau a nodir yma yw’r un mwyaf addas i’ch helpu i reoli neu glirio’ch dyledion.

Yr adeg orau i ofyn am gymorth i’ch cael yn ôl ar y trywydd cywir yw cyn gynted ag y byddwch yn dechrau cael trafferthion, neu’n dechrau poeni y byddwch yn cael anhawster yn gwneud eich taliadau neu’ch alldaliadau.

Trosolwg o ddatrys dyledion

Offerynon

Defnyddiwch ein Gwiriad Iechyd Dyled i’ch helpu i ddewis yr opsiwn gorau i chi fedru cael gwared â’ch pryderon ariannol.

Mae llawer o atebion ar gael i ddatrys eich dyledion – mae’r un fydd fwyaf addas i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Mae’r erthygl hon yn cynnig trosolwg o rai cynlluniau y gallech fod wedi clywed amdanynt, ond ni ddylech wneud eich penderfyniad tan y byddwch wedi siarad â gwasanaeth cyngor am ddim ar ddyledion.

Ar wahân i’r opsiynau isod, efallai y gallwch ddod i drefniant anffurfiol gyda’r bobl neu’r sefydliadau y mae arnoch arian iddynt (sy’n hysbys hefyd fel eich credydwyr) i wneud taliadau ar sail yr hyn allwch ei fforddio ar ôl treuliau hanfodol y cartref.

Dan y math hwn o drefniant, byddech yn gofyn iddynt rewi llog a chostau hefyd.

Bydd elusen ddyledion yn medru egluro’r opsiwn hwn ichi.

Effaith ar eich sgôr credyd

Siaradwch ag elusen sy’n rhoi cyngor am ddim ar ddyledion – yn cynnwys pa opsiwn sydd orau i chi.

Cofiwch y bydd y rhan fwyaf o’r opsiynau dyled isod yn effeithio ar eich sgôr credyd, sy’n ei gwneud hi’n anoddach i chi agor cyfrif banc newydd, cael benthyciad neu brynu ar gredyd yn y dyfodol.

Cynllun Rheoli Dyled

Angen siarad â rhywun am eich sefyllfa ariannol?

Os ydych yn cael trafferthion gyda’ch arian, gallwch siarad â rhywun heddiw. Mae gennym gynghorwyr sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig a all roi cymorth i chi roi trefn ar eich problemau ariannol.

Ceisiwch gyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb drwy ein hofferyn canfod cyngor ar ddyledion am ddim.

Mae hwn yn drefniant a sefydlir rhyngoch chi a’ch credydwyr lle rydych yn talu’n ôl yr hyn sy’n fforddiadwy gennych ar ddyledion nad ydynt o flaenoriaeth a heb eu sicrhau yn erbyn eich cartref, ar ôl cymryd biliau’ch cartref i ystyriaeth.

Mae’n nodi faint y byddwch yn ei ad-dalu ac yn cytuno ar amserlen ar gyfer ad-dalu.

Byddwch fel arfer yn gwneud un taliad misol i’ch sefydliad rheoli dyledion, sydd yn ei dro yn talu credydwyr ar eich rhan.

Fel arfer, caiff Cynlluniau Rheoli Dyled eu trefnu i chi gan drydydd parti, a gall llawer o elusennau a sefydliadau drefnu un am ddim.

Dewis darparwr cynllun rheoli dyledion

Cyn i chi benderfynu cymryd cynllun rheoli dyledion, mae’n bwysig eich bod yn derbyn cyngor.

Mae yna elusennau cyngor ar ddyledion sy’n cynnig y gwasanaeth hwn am ddim.

Bydd yr elusennau cyngor ar ddyledion a restrir yn ein Hofferyn Canfod Cyngor ar Ddyledion yn gallu’ch helpu i ystyried ai cynllun rheoli dyledion yw’r ateb priodol i chi.

Gallant hefyd roi cyngor i chi ar opsiynau eraill i ddelio â’ch dyledion.

Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA)

Rhybudd!

Gall gostio miloedd o bunnoedd mewn ffioedd i wneud IVA – sy’n cynnwys cost gychwynnol a ffi reoli flynyddol.

Cytundeb sy’n gyfreithiol rwymol yw Cytundeb Gwirfoddol Unigol rhyngoch chi a’r bobl y mae arnoch arian iddynt.

Mae’n rhewi’ch dyledion ac yn caniatáu i chi eu talu’n ôl dros gyfnod penodol, sef pum mlynedd fel arfer. Yna, caiff unrhyw arian sy’n ddyledus o hyd ei ddileu.

Gallwch wneud cais am Drefniant Gwirfoddol Unigol os oes arnoch fwy nag oddeutu £15,000, ac fel arfer, bydd yn rhaid i chi ad-dalu o leiaf 20c o bob punt sy’n ddyledus, gydag isafswm ad-daliad misol o oddeutu £200.

Mae’r IVA yn cael ei drefnu gan weithiwr proffesiynol cymwys a elwir yn Ymarferwr Methdaliad, a fydd yn gweithio gyda chi i lunio cynnig addas i’w gynnig i’ch credydwyr iddynt ei gymeradwyo.

Ar gyfer beth y gallwch ddefnyddio IVA

Gellir defnyddio IVA i helpu i dalu unrhyw ddyledion cyffredin, yn cynnwys:

  • gorddrafftiau
  • benthyciadau personol
  • diffygion morgais
  • Ôl-ddyledion y Dreth Gyngor
  • cardiau credyd a chardiau siop
  • catalogau a hurbwrcasu
  • arian sy’n ddyledus i Gyllid a Thollau EM.

Fodd bynnag, ni allwch ddefnyddio IVA i dalu, er enghraifft:

  • cynhaliaeth
  • ôl-daliadau rhent
  • ôl-daliadau cynhaliaeth plant
  • dirwyon llys ynadon
  • mathau penodol o gyllid car
  • a’ch morgais a dyledion eraill a ddiogelwyd yn erbyn eich cartref.

Gwiriwch gydag asiantaeth cyngor ar ddyledion beth arall a allai fod wedi’i eithrio neu’i gynnwys.

Sut i sefydlu IVA

Rhaid i chi sefydlu IVA trwy Ymarferwr Methdaliad.

Mae yna ffioedd i’w talu i’w Ymarferwr Methdaliad sydd fel arfer yn cael eu tynnu o’ch taliadau misol.

Ni ddylech orfod talu unrhyw daliadau ymlaen llaw cyn sefydlu’ch IVA.

Mae IVA yn gytundeb rhwymol gyfreithiol felly bydd angen i chi sicrhau ei fod yn addas i chi.

Mae’n bwysig iawn cael cyngor am ddim ar ddyledion cyn i chi gymryd un i drafod a oes opsiynau eraill ar gael i’ch helpu i reoli’ch dyledion.

Gorchymyn Gostwng Dyled

Gorchymyn swyddogol yw Gorchymyn Gostwng Dyled sy’n rhewi’ch dyledion am flwyddyn.

Dim ond mewn amgylchiadau penodol y gellir ei roi, ac ar gyfer dyledion penodol.

Mae’n costio £90 i drefnu Gorchymyn Gostwng Dyled a gallwch dalu mewn rhandaliadau dros chwe mis.

Fodd bynnag, mae angen i chi fod wedi talu’r ffi yn llawn cyn i rywun edrych ar eich cais.

Pwy all wneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled?

Gallwch wneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled:

  • Os oes gennych ddyledion cymwys sy’n llai na £15,000 – gweler yr adran nesaf ar gyfer beth sy’n cyfrif fel dyledion cymwys.
  • Os ydych chi ar incwm isel a bod gennych £50 neu lai dros ben bob mis ar ôl talu’ch biliau cartref.
  • Os nad ydych yn berchen ar bethau o werth neu fod gennych dros £300 mewn cynilion (sylwer bod gwerth yn parhau i gael ei gyfrif ar dŷ sydd ag ecwiti negyddol).
  • Os nad ydych yn berchen ar gerbyd sy’n werth mwy na £1,000.
  • Os ydych chi wedi byw, wedi cael eiddo neu wedi bod yn berchen ar fusnes yn y tair blynedd diwethaf yng Nghymru, Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon.

Ni allwch wneud cais am un:

  • Os yw eich credydwyr wedi gwneud cais i’ch gwneud yn fethdalwr ond nad yw’r gwrandawiad wedi cael ei gynnal eto (oni bai bod eich credydwyr yn cytuno y gallwch barhau i wneud cais).
  • Os ydych chi wedi cael Gorchymyn neu Ymgymeriad Cyfyngiadau Methdaliad.
  • Os ydych chi wedi deisebu am fod yn fethdalwr ond nad yw’ch deiseb wedi cael ei thrafod eto – fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol os ydych chi wedi deisebu am fod yn fethdalwr a bod y barnwr wedi’ch cyfeirio am orchymyn gostwng dyled yn hytrach.
  • Os ydych chi’n fethdalwr ar hyn o bryd.
  • Os oes gennych Drefniant Gwirfoddol Unigol neu’n gwneud cais am un.
  • Os ydych chi wedi cael Gorchymyn Gostwng Dyled (gweler yr adran nesaf) yn y chwe blynedd diwethaf.
  • Os ydych chi wedi cael Gorchymyn neu Ymgymeriad Cyfyngiad ar Ostwng Dyled.

Dyledion cymwys

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhent
  • benthyciadau
  • gorddrafftiau
  • cardiau credyd
  • gordaliadau budd-dal
  • biliau ffôn a chyfleustodau
  • cytundebau credyd mewn siop ac
  • arian sy’n ddyledus i Gyllid a Thollau EM.

Nid ydynt yn cynnwys cynhaliaeth a chynnal plant, dirwyon llys a gorchmynion atafaelu na benthyciadau myfyrwyr.

I weld rhestr lawn o eithriadau, gwiriwch gydag elusen ddyledion.

Sut i wneud cais am orchymyn gostwng dyled

Dim ond trwy unigolyn cymeradwy a elwir yn gyfryngwr y gallwch wneud cais am Orchymyn Gostwng Dyled.

Mae’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n rhoi cyngor am ddim ar ddyledion yn gyfryngwyr cymeradwy sy’n gallu’ch helpu chi.

Pan fyddwch wedi gwneud cais ac wedi talu’r ffi, ac os ydych chi’n gymwys, bydd Derbynnydd Swyddogol yn cymeradwyo’r Gorchymyn Gostwng Dyled.

Siaradwch gyda gwasanaeth sy’n rhoi cyngor am ddim ar ddyledion cyn penderfynu ai dyma’r opsiwn i chi.

Methdalu

Mae methdalu yn ffordd o ddelio â dyledion na allwch eu talu.

Tra byddwch yn fethdalwr, gellir defnyddio unrhyw asedau sydd gennych i dalu’ch dyledion.

Ar ôl cyfnod o amser (blwyddyn fel arfer), mae’r rhan fwyaf o’ch dyledion yn cael eu dileu a gallwch gychwyn o’r cychwyn.

Gwneud cais i fod yn fethdalwr

I wneud cais i fod yn fethdalwr yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi gwblhau Deiseb.

Mae hyn yn golygu rhestru’r rhesymau pam eich bod yn gwneud cais i fod yn fethdalwr a Datganiad Ariannol lle rydych yn rhestru’ch holl asedau a dyledion.

Mynd i’r llys a’r ffioedd

Mae tair ffi y bydd yn rhaid i chi eu talu pan ewch i’r llys:

  • Ffi’r llys, sef £115. Dan rai amgylchiadau gall y llys ildio’r ffi hon; er enghraifft, os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau penodol.
  • Blaendal o £525 tuag at gostau gweinyddu’ch methdaliad, a delir i’r Adran Fenter, Masnach a Buddsoddi.
  • Y ffi sy’n daladwy i gyfreithiwr yr ydych yn tyngu llw o’i flaen, ar gynnwys eich datganiad materion ariannol. Dylech ddisgwyl talu tua £7 am y gwasanaeth hwn.

Yna, bydd y llys yn gwneud un o’r canlynol fel arfer:

  • Cyflwyno gorchymyn methdalu.
  • Gofyn am fwy o wybodaeth cyn dod i benderfyniad.
  • Gwrthod eich deiseb, ac o bosibl yn awgrymu dewis arall yn lle methdalu.

Pan fyddwch wedi cael eich datgan yn fethdalwr

Pan fyddwch wedi cael eich datgan yn fethdalwr, rhaid i chi drosglwyddo unrhyw asedau a’ch cyfran ariannol o’ch cartref i ymddiriedolwr penodedig.

Derbynnydd Swyddogol neu Ymarferwr Ansolfedd fydd yr unigolyn hwn fel arfer.

Bydd maint eich asedau yn pennu pwy fydd yn rheoli’ch dyled.

Rhaid i’ch credydwyr wneud cais ffurfiol i’r ymddiriedolwr am yr arian sy’n ddyledus iddynt.

Ni allwch wneud taliadau uniongyrchol iddynt, ac ni allant ofyn i chi am daliadau.

Ar gyfer pwy mae methdalu yn addas?

Os nad oes gennych ffordd wirioneddol o dalu’ch dyledion, yna gallai methdalu fod yn opsiwn addas.

Fodd bynnag, peidiwch â gwneud y penderfyniad ar eich pen eich hun. Siaradwch ag asiantaeth sy’n rhoi cyngor am ddim ar ddyledion yn gyntaf.

Cynnig taliad llawn neu daliad terfynol

Os oes gennych gyfandaliad a fyddai’n talu rhan o’ch dyledion, gallech ofyn i’ch credydwyr a fyddent yn derbyn rhandaliad ac yn gadael i chi ddileu’r gweddill.

Fel arall, gallent ganiatáu i chi wneud taliadau misol am gyfnod a gytunir ac yna bydd y balans yn cael ei ddileu.

Dileu taliadau

Mewn amgylchiadau eithriadol lle nad oes gennych unrhyw incwm, cynilion neu asedau ar gael – ac y gallwch ddangos i’ch credydwyr bod eich amgylchiadau’n annhebygol o wella yn y dyfodol (er enghraifft, os ydych chi’n ddifrifol wael) - efallai y bydd modd gofyn i’ch credydwyr ddileu eich dyledion.

Siaradwch ag elusen sy’n rhoi cyngor ar ddyledion i weld a allai’r ateb hwn fod yn addas ar eich cyfer chi.

Mwy o help os ydych chi’n cael trafferthion

Os ydych yn cael trafferthion ariannol, gallai cymorth arall fod wrth law i helpu â threuliau bob dydd neu wariant arall.

Mae llawer o fudd-daliadau ar gael i bobl ar incymau isel, ond mae’r system o fudd-daliadau’n newid felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n gymwys i chi.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?