Hyd yn oed os yw ffrind neu anwylyd yn dal i allu ymdopi ar hyn o bryd, yn aml gallwch ragweld y bydd angen cymorth arnynt gyda’u harian yn y dyfodol. Os yw hynny’n wir, mae’n debyg y byddwch chi am eu helpu i roi rhai trefniadau tymor hwy ar waith.
Sut gallwch chi helpu
Bydd rhybuddion cynnar yn nodi bod rhywun yn debygol o fod ag angen cymorth arnynt – er enghraifft, os ydynt yn mynd yn hŷn ac yn ei chael yn fwy anodd i wneud penderfyniadau, neu os ydynt wedi cael diagnosis o gamau cynnar dementia. Felly dylech ddechrau meddwl am beth fydd yn digwydd pan na fyddant yn gallu ymdopi mwyach.
Mae dau brif opsiwn – atwrneiaeth barhaus (lasting power of attorney), neu ymddiriedolaeth.
Penodi rhywun i wneud penderfyniadau – atwrneiaeth barhaus
?
Cofiwch
Dylech sefydlu atwrneiaeth barhaus cyn gynted ag y bo modd – bydd yn amhosib sefydlu atwrneiaeth barhaus pan na fydd rhywun yn gallu rheoli ei faterion ei hunan.
Yn aml, eich cam cyntaf yw gofyn i’r person a fyddai’n ystyried gwneud ‘atwrneiaeth’. Bydd hyn yn golygu eu bod yn rhoi caniatâd i rywun arall reoli eu harian ar eu rhan.
Y person rydych am ei helpu sy’n gorfod sefydlu’r atwrneiaeth barhaus, felly rhaid i chi drafod hyn gyda nhw. Gallwch ei sicrhau nad oes rhaid defnyddio atwrneiaeth barhaus ar unwaith a gallant gadw rheolaeth dros eu materion eu hunain cyn hired ag y gallan nhw wneud hynny.
Mae’n hanfodol sefydlu atwrneiaeth barhaus pan fydd y person yn dal yn ddigon da i wneud hynny – os byddwch yn aros tan na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain, bydd hynny’n rhy hwyr a bydd rhaid i chi wneud cais i’r llys am ganiatâd i reoli eu harian. Mae hon yn broses llawer hirach a drutach.
Gosod arian o’r neilltu at ddiben arbennig – ymddiriedolaethau
Os oes gan y person rydych am ei helpu lawer o gynilion neu fuddsoddiadau, gallech ofyn a fyddai’n hoffi rhoi’r buddsoddiadau mewn ymddiriedolaeth.
Mae ymddiriedolaeth yn golygu y gallant nodi rheolau mwy penodol am sut y gellir defnyddio’r arian. Gallant benodi ymddiriedolwyr (fel arfer ffrindiau neu deulu) i reoli’r arian yn ôl rheolau’r ymddiriedolaeth.
Sut i helpu yn y cyfamser
Fel arfer, mae’n cymryd o leiaf tri mis i sefydlu atwrneiaeth, a gall ymddiriedolaethau gymryd amser hefyd.
Yn y cyfamser, mae ffyrdd o helpu pobl gyda’u harian mewn ffordd fwy anffurfiol. Gallwch hefyd eu hannog i ddod o hyd i ffyrdd o wneud rheoli arian o ddydd i ddydd yn haws.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?