Ydy’ch morgais presennol yr un mor gystadleuol â’r cynigion newydd gorau sydd ar y farchnad heddiw? Gallwch arbed cannoedd – efallai miloedd – o bunnoedd drwy chwilio i weld beth sydd ar gael, felly mae’n syniad da adolygu eich morgais o leiaf unwaith y flwyddyn i weld a ddylech chi newid i gynnig gwell.
Pa mor aml ddylech chi adolygu eich morgais?
Yn ddelfrydol dylech chwilio am well bargeinion morgais yn gyson – mae rhai newydd yn dod ar y farchnad o hyd ac os nad ydych wedi eich cloi mewn bargen gyfradd sefydlog neu ddisgownt gyda thâl ad-dalu’n gynnar gall fod yn werth i chi newid eich benthycwyr (ail-forgeisio) ar unrhyw adeg.
Dylech o leiaf adolygu eich morgais:
Pan fydd cyfraddau llog yn newid – oherwydd bydd hyn yn effeithio ar ba mor gystadleuol yw’ch cynnig presennol
Pan fydd eich cynnig morgais presennol yn dod i ben – oherwydd gallai eich cyfradd godi, ac
Unwaith y flwyddyn os nad ydych wedi’ch clymu i ddelio â chosbau am ad-dalu’n gynnar – i weld sut mae eich cynnig presennol yn cymharu â chynigion newydd sydd wedi dod ar y farchnad
Os na fyddwch chi’n gwneud dim byd pan fydd cyfraddau’n newid neu eich cynnig morgais yn dod i ben, gallech golli’r cyfle i gael nifer o gynigion gwell sydd ar gael ar y farchnad.
Cael eich atgoffa i adolygu’ch morgais
Trefnwch nawr i gael eich atgoffa i adolygu’ch morgais unwaith y flwyddyn – neu cyn i’ch cynnig sefydlog presennol ddod i ben. Gallech arbed cannoedd o bunnoedd i’ch hun!
Trefnwch nodyn yn eich dyddiadur i ddechrau chwilio o leiaf dri mis cyn y bydd eich cynnig sefydlog neu ddisgownt presennol yn dychwelyd i gyfradd amrywiol safonol y benthyciwr.
Faint allwch chi ei arbed drwy ail-forgeisio?
?
Awgrym wrth newid
Pan fyddwch yn newid, os bydd y taliadau misol yn is gallwch ddewis naill ai talu taliadau llai neu – yn well fyth – gadw at eich taliadau gwreiddiol a lleihau cyfnod y morgais.
Dywedwch fod gennych £175,000 yn dal ar ôl i’w ad-dalu ar eich morgais, gyda chyfnod o 20 mlynedd ar ôl. Rydych ar gynnig o 5% ac yn ad-dalu £1,115 y mis.
Mae hyn yn golygu bod cytundebau mwy cystadleuol bellach ar gael i chi ac, os gwnaethoch adolygu eich morgais heddiw, efallai y gallwch newid i fargen llawer rhatach o ddim ond 3%.
Enghraifft o faint yn llai fyddech chi’n ei ad-dalu bob mis wrth symud o gynnig 5% i 3%
Taliadau misol ar £175,000 ar y gyfradd 5% |
Taliadau misol ar £175,000 ar y gyfradd 3% |
Arbedion (ar ôl unrhyw ffioedd ail-forgeisio)* |
£1,115 |
£971 |
£144 y mis neu £1,728 y flwyddyn |
Defnyddiwch y dolenni isod i weld beth yw gwerth eich eiddo ac i weld faint allech chi ei arbed wrth ail-forgeisio i gyfradd is. Fodd bynnag, cyn unrhyw newid dylech bob amser ymchwilio i weld pa ffioedd fydd yn rhaid ichi eu talu – gweler ‘Cadw llygad ar gostau ail-forgeisio’ isod.
Edrychwch ar
Zoopla i weld a yw gwerth eich eiddo wedi codi.
Chwiliwch am fathau tebyg o eiddo sydd ar werth yn ardal eich cod post ar
Rightmove.
Cadw llygad ar gostau ail-forgeisio
Er eich bod yn aml yn gallu lleihau eich taliadau wrth newid, cofiwch fod llawer o gostau’n gysylltiedig ag ail-forgeisio.
- Efallai y bydd rhaid talu costau uchel am ad-dalu’n gynnar os byddwch chi’n gadael cyn i gyfnod cloi gwreiddiol eich morgais ddod i ben. Mae’n annhebygol y bydd costau os ydych chi ar gyfradd amrywiol safonol eich benthyciwr.
- Mae’n bosibl y bydd eich benthyciwr newydd yn codi ffioedd prisio a chyfreithiol arnoch chi, ond bydd y rhain yn cael eu hanwybyddu’n aml os byddwch yn cwblhau’r ail-forgeisio’n llwyddiannus. Dylech bob amser holi am y ffioedd hyn wrth gymharu cynhyrchion.
- Mae’n debygol y bydd yn rhaid talu ffi gadael pan fyddwch chi’n gadael eich benthyciwr presennol. Dylech gynnwys hyn yn eich costau.
- Fel arfer, mae’n rhaid talu ffi archebu neu drefnu hefyd ar y cynnig newydd – gallwch ddewis cynnig heb ffi er mwyn osgoi ffioedd archebu neu drefnu ond mae’n bosibl y byddwch yn talu cyfradd llog uwch o ganlyniad i hynny.
Felly cofiwch ystyried cyfanswm cost unrhyw ail-forgeisio o’i gymharu â’r arbedion y byddwch yn eu gwneud, cyn mentro ac ail-forgeisio.
Cyn ichi newid
Ers mis Ebrill 2014, mae darparwyr benthyciadau wedi edrych yn fwy gofalus i weld a allwch chi fforddio morgais. Mae hyn yn golygu y gall gymryd rhagor o amser nag arfer a bydd raid i chi roi prawf o’ch incwm a’ch alldaliadau.
Efallai y bydd gofyn i chi ddangos eich slipiau cyflog a chyfriflenni banc i brofi eich incwm, neu eich ffurflenni treth a chyfrifon busnes wedi eu llunio gan gyfrifydd os ydych yn hunangyflogedig.
Bydd eich alldaliadau yn cael eu rhoi yn erbyn eich incwm i weld pa mor fforddiadwy yw eich morgais. Byddant yn edrych ar eich ad-daliadau dyled eraill, biliau’r cartref a chostau byw fel teithio, gofal plant ac adloniant.
Byddant hefyd yn gwirio sut y byddech yn ymdopi â chynnydd yn y gyfradd llog neu newidiadau yn eich ffordd o fyw fel colli incwm un unigolyn i gyplau.
Mae hyn yn golygu y gallwch ei chael hi’n anodd ail-forgeisio gyda benthyciwr newydd. Felly, cyn ichi newid, gwiriwch eich costau ail-forgeisio a chysylltwch â’ch benthyciwr presennol i weld beth y gall ei gynnig ichi.
Os ydych ar forgais llogau yn unig fe welwch fod benthycwyr yn edrych yn fanwl ar eich cynllun ad-dalu i sicrhau ei fod ar y llwybr iawn i dalu’r benthyciad gwreiddiol ar ddiwedd y morgais. Os nad ydyw, fe allwch ei chael hi’n anodd newid i forgais llogau yn unig newydd.
Bydd benthycwyr yn derbyn cynlluniau ad-dalu gwahanol fel cynilion cyson a buddsoddiadau; defnyddio taliadau bonws yn y dyfodol gyda thystiolaeth i brofi hynny a gwerthiant ased gwerthfawr yn y dyfodol gyda thystysgrif gyfredol yn nodi ei werth.
Os byddwch yn penderfynu newid i forgais newydd eich hun bydd raid i chi ymchwilio i’r farchnad a dewis cynnyrch heb unrhyw help na chyngor.
Ar ôl i chi ddewis, bydd raid i chi roi cyfarwyddiadau manwl i’r benthyciwr am y morgais yr ydych am ei gael, faint yr ydych yn ei fenthyca, gwerth eich cartref ac am ba mor hir y bydd y morgais yn parhau.
Gelwir hyn yn weithredu yn unig felly bydd y benthyciwr yn ysgrifennu atoch i gadarnhau nad ydych wedi cael cyngor nac asesiad a yw’r morgais newydd yn addas i chi, a bydd raid i chi gadarnhau hynny.
Ble gallwch gymharu cynigion morgeisi
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i morgais addas.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu morgeisi:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
- Dysgwch ragor yn ein canllaw ar wefannau cymharu.