Os yw’ch cais am forgais yn cael ei wrthod, mae yna ambell beth y gallwch wneud i wella’ch gobeithion o gael eich cymeradwyo y tro nesaf. Peidiwch â brysio at ddarparwr benthyciadau arall yn syth oherwydd gallai pob cais ymddangos ar eich ffeil gredyd. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall pam y cafodd eich cais ei wrthod efallai a beth allwch chi ei wneud i wella’ch gobeithion y tro nesaf.
Rhesymau cyffredin dros wrthod cais am forgais a beth i’w wneud
Hanes credyd gwael
Gwiriwch eich ffeil gredyd gyda’r asiantaethau geirda credyd (Experian, Equifax and TransUnion) i weld pa wybodaeth sydd ganddynt amdanoch chi. Os yw unrhyw ran o’r wybodaeth ar eich adroddiad credyd yn anghywir, gallwch ei gywiro. Dysgwch Sut i wella’ch statws credyd.
Heb eich cofrestru i bleidleisio
Bydd angen i chi fod ar y gofrestr etholiadol yn eich cyfeiriad presennol er mwyn i ddarparwyr benthyciadau fedru cadarnhau pwy ydych chi a’ch cyfeiriad. Mae’n hawdd gwneud hyn ar-lein yn Electoral Commissionopens in new window neu drwy eich cyngor lleol.
Gormod o geisiadau am gredyd
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am gredyd, bydd y darparwr benthyciadau yn chwilio drwy eich adroddiad credyd er mwyn gwirio’ch addasrwydd. Cofnodir y rhan fwyaf o chwiliadau, gan adael nodyn ar eich hanes credyd.
Wrth ymgeisio’n ddi-baid am gredyd bydd yn ymddangos fod gennych anawsterau, felly ceisiwch osgoi cymryd cytundebau credyd newydd am o leiaf 12 mis cyn i chi ymgeisio am forgais.
Gormod o ddyled
Blwch testun: Edrychwch ar ein Cynllunydd cyllideb i geisio lleihau eich dyled ar hyn o bryd.
Os oes gennych chi bryderon ariannol, yna mae digon o gyngor am ddim a chyfrinachol ar gael i’ch helpu.
Benthyciadau diwrnod cyflog
Bydd unrhyw fenthyciad diwrnod cyflog a gawsoch yn ystod y 6 blynedd diwethaf wedi ei restru ar eich ffeil, hyd yn oed os llwyddoch i’w ad-dalu’n brydlon. Mae’n bosibl y bydd yn dal i gael ei gyfrif yn eich erbyn o hyd gan y bydd darparwyr benthyciadau o’r farn na fyddwch yn medru ymdopi gyda’r cyfrifoldeb ariannol o ysgwyddo morgais. Bydd effaith cael benthyciad diwrnod cyflog yn amrywio o un darparwr i’r llall, a ni fydd hyn o reidrwydd yn golygu y byddwch yn cael eich gwrthod ar gyfer morgais.
Gwallau gweinyddol
Nid yw darparwyr benthyciadau yn berffaith. Mae amryw ohonynt yn rhoi manylion o’ch cais i mewn i gyfrifiadur felly mae’n bosib y methodd eich cais o ganlyniad i gamgymeriad neu wall ar eich ffeil credyd. Mae darparwr yn annhebygol o roi rheswm penodol i chi pam eich bod wedi methu gyda chais am gredyd ar wahân i’r ffaith ei fod yn ymwneud â’ch ffeil gredyd. Os bydd hyn yn digwydd, dylai’r darparwr roi manylion yr asiantaeth gyfeirio credyd a ddefnyddiont i chi.
Ddim yn ennill digon o gyflog
Gallwch ofyn am forgais llai, neu ganfod a ydych chi’n gymwys am gyd-berchnogaeth neu help trwy un o gynlluniau prynu cartref y llywodraeth.
Ddim yn cyfateb â phroffil y darparwr benthyciadau
Mae rhai darparwyr benthyciadau’n dymuno benthyca i fath neilltuol o ddemograffig. Mae gan gynghorydd morgais annibynnol brofiad o’r farchnad ac mae’n debygol o fod â gwell syniad o’r math o fenthyciwr y bydd y darparwr benthyciadau eisiau ei ddenu.
Blaendal bychan
Gweler ein syniadau ar gynilo ar gyfer blaendal. Mae nifer o gynlluniau ar gael hefyd i brynwyr gyda blaendal o 5% yn unig.
Rhesymau eraill posibl dros wrthod morgais i chi
?
Wyddoch chi?
Mae tri o bob pedwar benthyciwr yn llwyddo wrth ymgeisio am forgais (Ffynhonnell: Cymdeithas Darparwyr Benthyciadau Cyfryngol)
Os ydych yn hunangyflogedig neu’n weithiwr ar gytundeb
Rhaid i chi brofi eich bod yn cael incwm rheolaidd drwy ddangos cyfriflenni treth a chyfrifon busnes am y ddwy i dair blynedd diwethaf o leiaf. Efallai y bydd yn ofynnol i chi brofi bod gennych waith wedi ei sicrhau ar gyfer y dyfodol hefyd – ond bydd y penderfyniad hwnnw’n amrywio o un darparwr benthyciadau i’r llall.
Os ydych chi’n byw yn y DU ers llai na thair blynedd
Mae’r rhan fwyaf, ond nid pob un darparwr benthyciadau yn gwrthod benthyca i’r rhai sy’n ymgeisio am y tro cyntaf. Bydd angen i chi ddangos eich cytundeb cyflogaeth a fisa, sy’n profi bod gennych hawl i fyw a gweithio yn y DU.
Ble i fynd am gymorth os gwrthodir eich cais am forgais?
Bydd brocer morgais proffesiynol a chynghorydd ariannol annibynnol sy’n arbenigo mewn morgais yn delio’n aml ag ystod eang o ddarparwyr benthyciadau. Byddant yn ymwybodol o’r hyn sy’n ofynnol gan wahanol ddarparwyr benthyciadau cyn cynnig morgais, gan siarad â’r darparwr ar eich rhan.
Eich cam nesaf
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?