Peidiwch â chadw arian parod o dan y fatras
Mae’r gwely yn lle da ar gyfer llawer o bethau – ond yn sicr nid yw storio eich cynilion ymhlith y pethau hynny.
Mae cadw symiau mawr o arian yn eich tŷ yn hytrach na mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn syniad gwael am y rhesymau canlynol:
-
bydd eich cynilion yn colli gwerth dros amser – ni fyddwch yn ennill unrhyw log
-
gallech golli eich cynilion yn llwyr o ganlyniad i ladrad neu dân – ni fydd llawer o bolisïau yswiriant yn cynnwys arian a gaiff ei adael yn y tŷ ac os byddant, dim ond swm bach a ddiogelir fel arfer. Os nad oes gennych yswiriant cynnwys, ni fydd unrhyw ran ohono wedi’i diogelu
Yn pryderu na fydd eich arian yn ddiogel yn y banc?
Mewn gwirionedd, banc yw un o’r lleoedd mwyaf diogel i gadw eich arian – caiff arian parod a roddwch mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Caiff arian parod a roddwch mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU (a awdurdodir gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential) ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.
Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig. Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu.
Sut i ddod o hyd i gartref diogel i’ch arian parod
Cam 1 – Agorwch gyfrif banc
Mae cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn fuddiol i ddiwallu eich anghenion beunyddiol. Wedyn gallwch ystyried cyfrifon cynilo ar wahân lle gall eich arian sbâr ennill mwy o log.
Gallwch agor cyfrif am ddim yn y rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu, a dylent roi pob cymorth i chi wneud hynny.
Cam 2 – Dewch o hyd i’r lle gorau ar gyfer eich arian sbâr
Mae digon o gyfrifon cynilo lle y gallwch roi eich arian yn ddiogel ac y bydd yn ennill llog.
Fel rheol gyffredinol, byddwch yn cael cyfraddau llog gwell os byddwch yn ymrwymo eich arian am gyfnod hwy. Ond, os byddwch yn gwybod beth i chwilio amdano, gallech wneud elw gweddol a gallu cael gafael ar eich arian yn gyflym.
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu cyfrifon cyniloi:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
- Dysgwch ragor yn ein canllaw ar wefannau cymharu.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?