Mae prynu eiddo dramor fel arfer yn fwy cymhleth na phrynu’n lleol. Bydd angen i chi ystyried nifer o risgiau ac efallai y bydd angen i chi gyfrifo sut i gael morgais ar gyfer eiddo tramor. Mae’r canllaw hwn yn archwilio’r anawsterau y gallech wynebu yn ogystal â ble i fynd am gyngor.
Ymgyfarwyddwch â’r risgiau wrth brynu eiddo dramor
-
Newidiadau yn y gyfradd gyfnewid – gallai hyd yn oed newid bach yn y gyfradd gyfnewid effeithio’n drychinebus ar werth eich pryniad. Gallai hyn olygu bod eiddo – neu eich ad-daliadau morgais – yn rhy ddrud dros nos.
-
Byddwch yn ofalus gyda datblygwyr a dulliau gwerthu cymhellol – peidiwch ag ildio i bwysau trwm i dalu blaendal cyn eich bod wedi cael cyfle i feddwl yn ofalus a cheisio cyngor annibynnol.
-
Gwiriwch y gwaith papur – gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl ganiatadau, trwyddedau a chydsyniadau cynllunio angenrheidiol cyn ichi lofnodi unrhyw fath o gontract neu gytundeb.
-
Treth – gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried yr holl dreth y bydd rhaid ichi ei thalu, yn y Deyrnas Unedig ac yn y wlad lle rydych wedi prynu’r eiddo.
Cael morgais ar gyfer eiddo tramor
Os oes gennych chi forgais lle talwch yr ad-daliadau mewn arian tramor, rhaid i’r darparwr benthyciadau ddweud wrthych os bydd y cyfraddau cyfnewid yn amrywio fwy nag 20%. Gallai’r amrywiaethau hyn mewn cyfraddau effeithio ar eich gallu i gwrdd â’ch ymrwymiadau morgais i’r dyfodol.
I ddiogelu benthycwyr, rhaid i ddarparwyr benthyciadau gynnig y dewis i chi ad-dalu’r morgais mewn arian gwlad arall.
Ceisiwch gyngor cyfreithiol ac ariannol annibynnol
?
Ceisiwch gyngor annibynnol
“Rydym yn argymell yn gryf bod pobl sy’n ystyried prynu eiddo dramor yn ceisio cyngor cyfreithiol ac ariannol annibynnol ar bob cam o’u pryniad.”
Ffynhonnell: Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad
Ceisiwch gyngor cyfreithiol bob tro gan gyfreithiwr sy’n annibynnol o bawb arall sy’n gysylltiedig â’r gwerthiant – yn cynnwys y gwerthwr neu ddatblygwr a’r asiant tai.
Sicrhewch fod eich cyfreithiwr yn rhugl yn Saesneg a’r iaith leol, a’u bod yn deall cyfraith eiddo yn y wlad rydych yn prynu ynddi a sut mae’r gyfraith honno’n perthyn i bobl nad ydynt yn breswylwyr.
Os ydych yn penodi cwmni cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig, gwiriwch eu bod wedi’u cofrestru gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn arbenigo mewn trafodion rhyngwladol a throsglwyddo eiddo.
Dod o hyd i gynghorydd cyfreithiol ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru a Lloegr
Dod o hyd i gynghorydd cyfreithiol ar wefan Cymdeithas Cyfreithwyr Yr Alban
Dod o hyd i gynghorydd cyfreithiol ar wefan Cymdeithas Cyfreithwyr Gogledd Iwerddon
Os ydych yn penodi cynghorydd yn y wlad lle rydych yn prynu’r eiddo, dylai fod yn bosibl ichi ddod o hyd i restrau o bobl broffesiynol sy’n siarad Saesneg ar wefan eich Llysgenhadaeth Brydeinig leol.
Gwiriwch wefan Llysgenhadaeth Prydain am restrau o gyfreithwyr lleol sy’n siarad Saesneg a chyfieithwyr cymwys
Cyngor ariannol
Gallwch ddod o hyd i gynghorwr ariannol annibynnol trwy’r dolenni isod. Mae pob un o’r gwefannau canlynol yn caniatáu i chi chwilio yn ôl cod post a rhai am gynghorwyr arbenigol yn unig.
Gwefan MyLocalAdviser
Gwefan unbiased
Gwefan findanadviser
Os nad ydych yn siŵr sut i fynd ati i ddewis y cynghorydd ariannol cywir, gweler ein canllaw Dewis cynghorydd ariannol.
Os bydd pethau’n mynd o chwith wrth brynu tramor
Ni reoleiddir pryniad eiddo tramor gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) felly ni chewch eich diogelu gan Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol na’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol os bydd pethau’n mynd o chwith, hyd yn oed os defnyddiwch gynghorydd ariannol neu frocer morgeisi a gofrestrir gyda’r FCA yn y Deyrnas Unedig i drefnu’r pryniant ar eich rhan.
Camau nesaf
Canfyddwch ragor am brynu eiddo dramor ar wefan Which?
Darllenwch gyngor gan Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar brynu eiddo dramoropens in new window
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?