Ydych chi’n feichiog neu newydd gael babi? Os felly, gallwch leihau eich costau drwy gael presgripsiynau a gofal deintyddol y GIG yn rhad ac am ddim gyda Thystysgrif Eithriad Mamolaeth.
Beth allwch chi ei gael
Mae gofal deintyddol y GIG am ddim yn y Deyrnas Unedig tra byddwch yn feichiog, ac am flwyddyn gyfan wedi i’ch babi gael ei eni.
Fodd bynnag, ar gyfer presgripsiynau mae’n dibynnu lle rydych yn byw
- Yn Lloegr, mae presgripsiynau yn rhad ac am ddim tra byddwch yn feichiog ac am flwyddyn wedi’r enedigaeth, os oes gennych chi Dystysgrif Eithriad Mamolaeth ddilys (MatEx). Gallai hyn arbed £9.15 i chi ar bob presgripsiwn
- Mae presgripsiynau am ddim i bawb yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Sut allwch chi hawlio’r gwasanaethau rhad ac am ddim hyn
?
A ydych chi’n gymwys?
Os ydych yn feichiog neu wedi cael babi yn ystod y 12 mis diwethaf, rydych yn gymwys.
Y cyfan sydd ei angen arnoch yw Tystysgrif Eithrio Mamolaeth, wedi’i llofnodi gan eich meddyg neu fydwraig.
Mae’r dystysgrif hon yn eich caniatáu i gael presgripsiynau a gofal deintyddol am ddim gan y GIG.
Gallwch gael y ffurflen gais Eithriad Mamolaeth (FW8), gan eich meddyg neu fydwraig.
Byddant yn ei llofnodi a’i hanfon i mewn ar eich rhan a byddwch yn cael eich tystysgrif yn y post.
Dangoswch eich tystysgrif yn y fferyllfa wrth gael presgripsiwn yn Lloegr a dweud wrth dderbynnydd y deintydd eich bod yn gymwys am driniaeth yn rhad ac am ddim ar y GIG am eich bod yn feichiog pan fyddwch yn gwneud apwyntiad deintyddol.
Os nad yw’ch tystysgrif yn cyrraedd mewn pryd
Gallwch hawlio ad-daliad os oedd rhaid ichi dalu cyn i’ch tystysgrif gyrraedd.
Gofynnwch i’ch fferyllydd am dderbynneb a ffurflen hawlio (FP57).
Gyda’ch deintydd, ffurflen FP64 yw hi.
Trefnu’ch apwyntiad deintyddol
?
Wyddoch Chi?
Mae pob plentyn yn derbyn presgripsiynau am ddim tan eu bod yn 16 oed (neu’n 18 oed os mewn addysg llawn amser) a gofal deintyddol am ddim tan eu bod yn 18 oed.
Mae amryw ohonom yn osgoi gwneud apwyntiad gyda’r deintydd, ond mae’n gwneud synnwyr i weld y deintydd tra bydd am ddim.
Rydych yn fwy tebygol o gael dannedd a deintgig sensitif tra’ch bod yn feichiog. Felly gallai mynd at y deintydd helpu i leddfu unrhyw boen.
Yn Lloegr, bydd trefnu apwyntiad nawr yn arbed y £23.80 y byddai’n rhaid i chi ei dalu am wiriad fel rheol. Neu hyd at £282.80 am driniaethau drutach fel pont neu goron.
Yng Nghymru, bydd trefnu apwyntiad nawr yn arbed y £14.70 y byddai’n rhaid i chi ei dalu am wiriad fel rheol. Neu hyd at £203 am driniaethau drutach fel pont neu goron.
Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, rhaid i unrhyw un nad yw’n gymwys i gael triniaeth ddeintyddol am ddim neu help gyda chostau dalu 80% o gost eu triniaeth ddeintyddol, wedi ei gapio ar £384.
Gwnewch yn siwr eich bod yn cael popeth sy’n ddyledus i chi
Mae budd-daliadau ac arbedion eraill ar gael ar gyfer menywod beichiog a theuluoedd.
Mae ein Llinell amser arian babi yn rhoi rhestr bersonol lawn i chi o’r holl ddyddiadau sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd a’ch babi newydd.
Mae’n hawdd ei lenwi ac mae’n eich helpu i weithio allan a ydych chi’n sicrhau bod yr holl gymorth ariannol ar gael i chi.
Mae’n cynnwys popeth o drefnu eich absenoldeb mamolaeth a’ch tâl i hawlio Budd-dal Plant.
Nid oes gennych unrhyw beth i’w golli o’i gwblhau a gallai arbed llawer o arian i chi.
Hefyd, darllenwch ein canllaw Budd-daliadau a hawliau y gallwch eu hawlio pan fydd gennych fabi.
Am ragor o wybodaeth
- Yng Nghymru a Lloegr mae gan wefan NHS Choices fwy o wybodaeth am ofal deintyddol am ddim a phresgripsiynau am ddim.
- Yn yr Alban, darganfyddwch fwy am ofal deintyddol am ddim ar wefan Llywodraeth yr Alban.
- Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am ofal deintyddol am ddim ar wefan nidirect.
Am fwy o awgrymiadau i gadw costau presgripsiwn i lawr, edrychwch ar MoneySavingExpert’s Cheap & Free Prescriptionsopens in new window.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?