Profion modd i gael cymorth gyda chostau gofal – sut maen nhw’n gweithio

Hyd yn oed os ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gydol eich oes, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi gyfrannu rhywbeth at gost eich gofal hirdymor. Darllenwch ein canllaw i gael gwybod sut y cyfrifir y costau ac a fydd angen i chi dalu.

Canfod pwy fydd yn talu am ofal hirdymor

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn mynd tuag at bethau fel eich Pensiwn y Wladwriaeth ond nid ydynt yn cyfrif tuag at gostau gofal cymdeithasol. Rheolir y math hwn o ofal gan eich awdurdod lleol. Dyma pam mae’n rhaid i chi ymgeisio’n uniongyrchol i’r awdurdod lleol os byddwch angen help i dalu am ofal hirdymor.

Bydd eich awdurdod lleol (neu’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) yn cynnal asesiad o anghenion gofal yn gyntaf er mwyn canfod pa gymorth sydd ei angen arnoch.

Y cam nesaf yw canfod pwy sy’n mynd i dalu. Gallai’ch awdurdod lleol dalu am y cyfan ohonynt, am rywfaint ohonynt neu ddim o gwbl.
Penderfynir ar eich cyfraniad at gost eich gofal ar ôl asesiad ariannol, a elwir yn brawf modd.

Sut mae prawf modd yn gweithio

Mae prawf modd yn edrych ar:

  • eich incwm rheolaidd – fel pensiynau, budd-daliadau neu enillion
  • cyfalaf – fel cynilion arian a buddsoddiadau, tir ac eiddo (gan gynnwys eiddo tramor), ac asedau busnes

Os bydd eich incwm a chyfalaf yn uwch na swm penodol, bydd yn rhaid i chi gyfrannu tuag at eich costau gofal.

Os ydych yn berchennog cartref

Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, mae’n bosibl y caiff ei werth ei gyfrif fel cyfalaf ar ôl 12 wythnos os byddwch yn symud yn barhaol i gartref nyrsio neu ofal preswyl.

Fodd bynnag, ni fydd eich cartref yn cael ei gyfrif fel cyfalaf os oes unrhyw un o’r bobl ganlynol yn byw yno o hyd. Maent yn cynnwys:

  • eich gŵr, eich gwraig, eich partner neu’ch partner sifil
  • perthynas agos sy’n 60 neu’n hŷn, neu’n analluog
  • perthynas agos dan 16 oed yr ydych yn gyfreithiol atebol i’w gynnal
  • eich cyn ŵr, eich cyn wraig, eich cyn bartner sifil neu’ch cyn bartner os yw’n unig riant

Efallai bydd eich awdurdod lleol neu’ch ymddiriedolaeth leol yn dewis peidio â chyfrif eich cartref yn gyfalaf mewn amgylchiadau eraill, er enghraifft os yw’ch gofalwr blaenorol yn byw yno a’u bod wedi cael gwared â’i gartref ei hun er mwyn gofalu amdanoch.

Os ydych chi’n symud i gartref gofal ac yn penderfynu rhentu eich eiddo, bydd ei werth yn cael ei ystyried fel cyfalaf ond ni ystyrir yr incwm o’r rhent ond gallwch ei dalu i’r awdurdod lleol er mwyn lleihau eich dyled os oes gennych chi gytundeb gohirio talu. Mae cytundebau gohirio talu yn ddewis ar gyfer pobl sy’n berchen ar eu cartref eu hunain ond sy’n symud i gartref gofal.

Profion modd ar gyfer gwahanol fathau o ofal

Prawf modd Cartref Gofal

Os ydych yn symud i gartref gofal a bod gennych fwy na’r symiau a nodir yn y tabl isod, bydd yn rhaid i chi dalu holl ffioedd y cartref gofal fel arfer.

Mae’r trothwy hwn yn cynnwys gwerth eich eiddo oni bai bod eich partner neu ddibynnydd arall yn dal i fyw yno.

Os yw’r prawf modd yn pennu y dylai’r awdurdod lleol dalu am eich lle mewn cartref gofal, bydd rhaid i chi gyfrannu eich holl incwm heblaw am swm bach o arian i chi ei gadw ar gyfer treuliau personol.

Prawf modd Gofal Cartref

Gallwch wynebu costau am eich gwasanaethau gofal cartref os oes gennych chi fwy na’r symiau a nodir yn y tablau isod.

Ni ystyrir gwerth eich cartref wrth gyfrifo faint mae’n rhaid i chi ei dalu.

Dylai pob awdurdod lleol gyhoeddi a rhyddhau manylion am ei bolisi codi tâl ar gyfer gofal cartref, yn ogystal â sut byddan nhw’n cyfrifo faint i’w godi arnoch chi a faint o’ch incwm fyddwch chi’n cael ei gadw at eich defnydd personol chi.

Sut mae’ch asedau a’ch cynilion yn effeithio ar bwy sy’n talu am ofal cartref

Rhanbarth Mae’r awdurdod lleol neu’r ymddiriedolaeth leol yn helpu i dalu am gostau gofal os oes gennych asedau a chynilion sydd _
Lloegr yn llai na £23,250    
Yr Alban yn llai na £25,250    
Cymru*_ yn llai na £30,000    
Gogledd Iwerddon yn llai na £23,250    

*Bydd eich awdurdod lleol neu’ch ymddiriedolaeth leol yn dal yn disgwyl i chi gyfrannu rhywfaint o’ch incwm os ydych o dan y cyfyngiadau hyn.

Fydd rhaid i chi gyfrannu at gostau gofal eich partner?

Fydd eich cynilion chi ddim yn cael eu hystyried os ydyn nhw’n cael eu cadw ar wahân. Fodd bynnag, os yw mewn cyfrif ar y cyd gyda’ch partner sydd angen gofal, yna mae’n bosib y bydd hynny’n cael ei ystyried. Mae rhai pobl yn rhannu eu harian cyn yr asesiad ariannol er mwyn osgoi hyn.

Drwy wneud hynny, mae’n bosib na fydd rhaid gwario cymaint ar ofal os yw’r person a fydd yn cael gofal dros y terfynau uchod.

Os ydych chi’n penderfynu gwahanu’r arian, yn llygad y gyfraith mae’r ddau ohonoch yn berchen ar hanner y cyfrif ar y cyd, felly byddai rhannu’r arian yn ei hanner yn briodol.

Er enghraifft:
Os oes gan gwpl £50,000 mewn cyfrif ar y cyd a bod un ohonyn nhw’n mynd i gartref gofal.
Yna asesir bod y person yn y cartref gofal yn berchen hanner hynny, sef £25,000. (50% o £50,000).
Mae hynny £1,750 dros y terfyn cyfalaf uchaf (£25,000 - £23,250).
Felly, rhaid gwario £3,500 o’r cyfrif ar y cyd cyn bod y cyfanswm cyffredinol yn gostwng i £23,250 (50% o £46,500) ar gyfer eu hanner.
Yn yr achos hwn, byddai rhannu’r arian ymlaen llaw yn golygu mai dim ond angen gwario £1,750 yn hytrach na’r £3,500. Ac mae’r partner arall yn cadw ei £25,000 ei hun. Gallai’r symiau posib fod yn sylweddol po fwyaf yr ydych chi dros y terfyn cynilion.

Pam fod ble rydych chi’n byw yn effeithio ar faint fyddwch chi’n ei dalu am ofal?

Mae’r uchafswm y mae’n rhaid i chi ei dalu yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw yn y Deyrnas Unedig.
Gellir rhannu’r gost o fyw mewn cartref gofal rhwng:

  • Eich costau gofal
  • Costau gwesty, yn cynnwys cost y llety a’r bwyd

Mae costau gofal yn amrywio ledled y DU. Mae’r gost yn dueddol o fod yn uwch lle mae costau cyflogaeth a phrisiau eiddo yn ddrutach.
Yn yr Alban, rydych chi’n cael cyfraniad gofal personol tuag at gostau eich gofal personol os ydych dros 65 oed.

Gallwch ganfod sut mae eich awdurdod lleol yn codi tal am wasanaethau gofal.

Gallwch ganfod eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, chwiliwch am eich Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol leol ar wefan nidirect.

Cael gwared ar asedau i osgoi talu am ofal

Astudiaeth achos

“Roedd Dad yn poeni’n ofnadwy y byddai’n rhaid iddo werthu’r tŷ pan aeth Mam i gartref gofal oherwydd ei Alzheimers. Ond am ei fod yn dal i fyw yn y cartref teuluol, nid oedd y cyngor wedi cynnwys y tŷ yn ei gyfrifiadau.” – Fiona

Weithiau, mae rhywun yn trosglwyddo buddsoddiadau neu weithredoedd eiddo’n fwriadol i rywun arall, fel aelod o’r teulu, er mwyn bod islaw’r trothwy ac osgoi talu cost lawn ei ofal. Yr enw ar hyn yw ‘amddifadu o asedau’. Fodd bynnag, nid yw gwneud hyn yn golygu o reidrwydd y bydd yr asedau hynny’n cael eu diystyru mewn prawf modd.

Fodd bynnag, nid yw gwneud hyn yn golygu o reidrwydd y bydd yr asedau hynny’n cael eu diystyru mewn prawf modd. Mae’n debyg y byddai’r awdurdod lleol yn ystyried bod gennych yr asedau o hyd. Gelwir hyn yn ‘gyfalaf tybiannol’ (notional capital) a fyddech chi ddim yn gymwys i gael cymorth hyd nes eich bod wedi talu costau gofal digonol fel bod y cyfalaf tybiannol wedi gostwng i drothwy’r prawf modd.

Ystyriaeth arall yw a fyddai’r cartref gofal mae’r awdurdod lleol yn fodlon talu amdano mor braf â’r un fyddech chi wedi’i ddewis pe baech yn talu’n breifat.
Os oes gennych gynilion a chyfalaf a’ch bod am gyfrifo’r ffordd orau o dalu am ofal, dylech geisio cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol.

Pam ei fod yn bwysig eich bod yn cael asesiad o anghenion gofal

Hyd yn oed os ydych yn credu nad yw’ch anghenion gofal yn ddigon pwysig neu fod eich incwm a’ch cynilion yn rhy uchel i fod yn gymwys am gyllid, dylech gael asesiad o’ch anghenion gofal. Mae hefyd yn bwysig os credwch y bydd eich cyfalaf yn gostwng cyn hir i lefel lle gallech gael cymorth. Os felly, dylech sicrhau eich bod yn derbyn y gofal yr aseswyd bod ei angen arnoch ac y byddai’r awdurdod lleol yn fodlon talu amdano pan ddaw’r amser. Neu os ydych mewn cartref gofal, y byddai’r cartref yn dal i gynnig llety i chi ar gyfraddau’r awdurdod lleol.

Bydd yr asesiad yn rhoi’r cyfle i chi drafod eich anghenion gyda gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol a all roi gwybod i chi pa gymorth sydd ar gael.

Am ragor o gymorth annibynnol am ddim ar y mater hwn, gallwch ffonio FirstStop Advice ar: 0800 377 7070 (Llun i Gwener, 9am – 5pm).
Neu anfonwch e-bost atynt: info@firststopadvice.org.uk.

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?