Pryd yw'r amser gorau i brynu car?
Mae cael bargen dda ar gar newydd neu ail-law yn dibynnu ar yr amser o’r flwyddyn y byddwch yn ei brynu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar y calendr fel eich bod yn medru manteisio ar ffactorau tymhorol sy’n effeithio ar y fasnach geir gan fanteisio ar y mis gorau i brynu car. Felly, os ydych chi’n chwilio am yr amser gorau o’r flwyddyn i brynu car, dyma rai dyddiadau i chi feddwl amdanynt.
Pryd yw’r amser gorau i brynu car newydd
Gallai dewis yr adeg orau o’r flwyddyn i brynu car arbed miloedd o bunnoedd i chi o bosib. Dyma ddylech chi ei gadw mewn cof:
- Yn Chwefror ac Awst mae llawer o werthwyr yn cynnig bargeinion go iawn, gan fod gwerthiannau yn araf wrth i brynwyr aros am y platiau cofrestru newydd sy’n dod ym Mawrth a Medi. Ond, os byddwch yn manteisio ar y tawelwch yma, bydd eich platiau rhif ‘hen’ yn gwneud i’ch car ymddangos yn hŷn nag yw mewn gwirionedd, felly bydd yn colli ei werth yn gyflymach.
- Ar ddiwedd pob chwarter – yn arbennig ar ddiwedd Mehefin a Rhagfyr – gall gwerthwyr fod yn awyddus i gyrraedd eu targedau gwerthiant chwarterol ac felly’n fwy tebygol o gynnig bargen i chi.
- Canfyddwch pryd y mae modelau newydd neu fodelau sy’n bodoli sydd wedi eu ‘diweddaru’ yn cael eu rhyddhau, yna prynwch y fersiwn flaenorol yn ystod ei wythnosau olaf yn ffenestri’r modurdai. Bydd gwerthwyr yn awyddus i glirio’r stoc yma ac yn fwy tebygol o gynnig bargen dda i chi. Ond cofiwch y bydd y model hŷn yn colli ei werth yn gyflymach na’r rhai newydd, er ei fod yn fras yr un oed.
- Mae ceir codi to yn fwy poblogaidd yn yr haf, felly efallai y bydd bargeinion yn ystod y gaeaf.
- Fel arfer bydd y galw am gerbydau gyriant pedair olwyn ar ei fwyaf yn ystod yr hydref a’r gaeaf oherwydd y tywydd gwaeth, felly fe allwch gael mwy o ddisgownt yn yr haf.
- Mae’r canolfannau gwerthu ceir yn dawelach ar ddyddiau’r wythnos, felly ewch yno ar ddydd Gwener – pan fydd y gwerthwr hefyd yn awyddus i gyrraedd ei darged wythnosol. Bydd hyn yn rhoi mantais i chi wrth fargeinio â’r gwerthwr.
- Arhoswch am rai misoedd ar ôl ei lansio cyn prynu model newydd – erbyn hynny bydd llai o fwrlwm yn y canolfannau arddangos amdani felly fe all y gwerthwr gynnig gwell bargen i chi.
Pryd yw’r amser gorau i brynu car ail-law
Mae patrymau tymhorol yng ngwerthiant ceir newydd yn cael effaith ar gost ceir ail-law. Felly amserwch eich pryniant yn iawn ac fe allech chi gael bargen wirioneddol:
- Mawrth a Medi yw’r misoedd prysuraf o ran gwerthu ceir newydd, yn aml trwy fargeinion cyfnewid un car am un arall. Felly bydd gan werthwyr ceir lawer o geir ail-law i’w gwerthu, sydd yn golygu eich bod chi mewn sefyllfa gref wrth fargeinio.
- Bydd gwerthwyr yn aml iawn yn awyddus i glirio ceir ail-law ym mis Gorffennaf ac yn gynnar ym mis Awst yn barod ar gyfer y modelau newydd a’r newid yn y plât cofrestru ar 1 Medi.
- Mae Rhagfyr ac Ionawr yn fisoedd tawel i’r fasnach ceir ail-law. Nid yw ceir ar feddyliau pobl o gwmpas y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd felly mae gwerthwyr mewn modurdai a gwerthwyr preifat yn awyddus iawn i daro bargen.
- Peidiwch â phrynu ceir to codi ail-law yn ystod y gwanwyn a’r haf – arhoswch tan y gaeaf pan fydd y galw yn llai.
- Prynwch gerbydau gyriant pedair olwyn yn yr haf – mae’r galw ar ei uchaf yn hwyr yn yr hydref ac yn y gaeaf oherwydd y tywydd gwael.
Eich cam nesaf
I gael y fargen orau ar gar ail-law, darllenwch sut i fargeinio wrth brynu car newydd neu ail-law.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?