Prynu arian tramor
Os ydych yn mynd dramor, mae’n syniad da i fynd â rhywfaint o arian tramor gyda chi er mwyn talu am bethau hanfodol fel bwyd a diod, cildyrnau a thacsis. I gael y ddêl orau, dylech gymharu prisiau arian tramor ar-lein a’i brynu cyn i chi fynd.
Ble i brynu arian tramor
Gair i gall Mae cael eich arian tramor ymlaen llaw yn gallu eich helpu i gynllunio gwyliau fforddiadwy. Drwy wneud hyn, bydd gennych amser i chwilio am y fargen orau ac osgoi ansefydlogrwydd yn y cyfraddau cyfnewid arian.
Mae banciau, bureaux de change, Swyddfa’r Post, rhai asiantaethau teithio, rhai archfarchnadoedd mwy a siopau eraill, gwefannau arbenigol a broceriaid cyfnewid arian i gyd yn gwerthu arian tramor.
Gallwch naill ai fynd yno eich hunan i’w nôl, neu drefnu iddo gael ei ddanfon atoch. Yn aml, byddwch yn cael y cyfraddau gorau os ydych chi’n archebu arian ar-lein, ond mae rhai anfanteision o wneud hyn.
- Byddwch yn talu tâl o oddeutu £5 am ei ddanfon, oni bai y cynigir ei ddanfon yn rhad ac am ddim.
- Bydd angen i chi fod adref er mwyn arwyddo amdano pan fydd yn cyrraedd, er mae’n bosibl y byddant yn fodlon ei ddanfon i gyfeiriad gwaith.
- Mae’n bosibl na chewch yr opsiwn i ddewis pa arian papur rydych ei eisiau – mae’n ddefnyddiol yn aml i fod ag arian papur o symiau bach pan fyddwch yn cyrraedd er mwyn talu am bethau fel cildyrnau.
Gan ddibynnu ar ble fyddwch yn prynu eich arian mae’n bosibl y byddant yn ei ddanfon yn rhad ac am ddim os ydych yn archebu mwy na swm penodedig – yn nodweddiadol dros £500.
Mynnwch gael y ddêl orau ar arian tramor
Bydd y cyfraddau cyfnewid a’r ffioedd byddwch yn eu talu am brynu eich arian yn amrywio rhwng gwahanol ddarparwyr. Mynnwch y ddêl orau ar eich arian trwy ddilyn y camau syml hyn.
- Prynwch o flaen llaw – mae’r bureaux de change yn y maes awyr, mewn gorsafoedd trenau a’r porthladdoedd fferi’n ddrutach o lawer na darparwyr ar y stryd fawr ac ar-lein.
- Chwiliwch am y ddêl orau – defnyddiwch wefannau cymharu prisiau cyfnewid arian er mwyn canfod y ddêl orau. Gallan nhw ddangos i chi faint y cewch chi am eich arian unwaith fod y gyfradd gyfnewid ac unrhyw daliadau a godir wedi cael eu cymryd i ystyriaeth. Mae TravelMoneyMax.com o Money Saving Expert yn lle da i chwilio am y fargen orau.
- Prynu arian tramor gyda cherdyn credyd neu ddebyd – mae prynu arian teithio yn cael ei ystyried fel codi arian parod, felly os ydych yn prynu ar eich cerdyn credyd gallai’ch darparwr cerdyn godi llog arnoch – ac efallai ffi hefyd – hyd yn oed os ydych yn talu’r hyn sy’n ddyledus ar eich cerdyn yn llawn bob mis. Mae rhai darparwyr arian teithio’n codi ffi ychwanegol eu hunain os talwch â cherdyn credyd.
Ffyrdd eraill o dalu am bethau mewn gwlad arall
Canfyddwch y ffordd orau o dalu am bethau tra byddwch dramor yn ein canllawiau isod.
Cardiau rhad i’w defnyddio dramor
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?