Cyfnewid contract a chwblhau wrth brynu cartref
Nes y cyfnewidir contractau, gall prynwr a gwerthwr y cartref dynnu allan o’r cytundeb heb wynebu unrhyw gostau difrifol. Mae’r canllaw hwn yn archwilio’r broses, yn cynnwys faint o amser mae’n cymryd i fynd o gyfnewid i gwblhau, sut i dynnu allan o werthu tŷ cyn cyfnewid a sut i baratoi ar gyfer symud.
Cyn i chi gyfnewid contractau
?
Mae cyfnewid contractau yn rhwymol gyfreithiol, felly rhaid bod yn sicr eich bod eisiau bwrw ymlaen cyn llofnodi unrhyw beth.
Defnyddiwch ein rhestr wirio ddefnyddiol i sicrhau nad ydych wedi methu cam:
- Gofynnwch i’ch cyfreithiwr esbonio unrhyw amodau neu dermau nad ydych yn eu deall. Cadwch mewn cyswllt rheolaidd i atal unrhyw oedi wrth brosesu gwaith papur.
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cytuno ar ddyddiad cwblhau ar gyfer y gwerthiant.
- Gwiriwch fod y chwiliadau wedi eu cwblhau.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd wedi ei gynnwys yn y cynnig, e.e. gosodiadau a ffitiadau, a’i gael ar bapur.
- Gwiriwch fod gennych gronfeydd ar gyfer blaendal daliant neu gontract os yw’r gwerthwr yn gofyn am un (fel arfer £500 i £1,000).
- Gwiriwch fod gennych eich cynnig morgais ar bapur.
- Gwiriwch fod gennych y cronfeydd ar gyfer blaendal eich morgais.
- Os yw’r gwerthwr yn tynnu allan cyn i chi gyfnewid contractau, nid oes gennych unrhyw hawl cyfreithiol i adfer unrhyw gostau ganddo, er y gallwch gymryd yswiriant indemniad i dalu am unrhyw gostau a wastraffwyd – gall eich cyfreithiwr eich cynghori am hyn.
- Gwiriwch y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ar gyfer eich cartref newydd. Mae hyn yn graddio effeithlonrwydd ynni eich adeilad. Bydd yr EPC hefyd yn argymell sut i wella effeithlonrwydd eich cartref.
- Os bydd gwerthwyr yn ceisio ail-drafod y pris prynu yn ystod y cam hwn, mynnwch gyngor gan eich cyfreithiwr a gofyn iddo eich helpu gyda’r trafodaethau.
- Trefnwch yswiriant adeiladau a gwnewch yn siŵr ei fod yn ddilys o’ch dyddiad cwblhau. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllaw Diogelu eich hun a’ch cartref.
- Gwiriwch y contract fydd eich cyfreithiwr yn anfon atoch cyn ei lofnodi a’i ddychwelyd.
Cyfnewid contractau
Wrth gyfnewid contractau bydd y cyfreithiwr neu drawsgludwr yn darllen y contractau dros y ffôn mewn sgwrs wedi ei recordio.
Byddant yn sicrhau bod y contractau’r un fath ac yna’n eu postio i’w gilydd. Unwaith y bydd contractau wedi eu cyfnewid, rydych wedi’ch rhwymo’n gyfreithiol i brynu’r eiddo.
- Gwiriwch fod y cyfreithiwr/trawsgludwr wedi cofrestru trosglwyddiad perchnogaeth gyda’r gofrestrfa dir.
- Rhowch wybod i’r rhydd-ddeiliad (os yw’n eiddo prydlesol) mai chi yw’r perchennog newydd.
- Os yw’n bwrcasiad rhan o rydd-ddeiliad, bydd y cyfreithiwr yn trefnu cyhoeddi tystysgrif newydd.
Dyddiad cwblhau
Dyma’r dyddiad pan fyddwch yn gallu symud i mewn i’ch cartref newydd. Mae’r gwerthwr eiddo’n debygol o gadw’r allweddi i chi eu casglu.
- Ar y diwrnod cwblhau, bydd eich cyfreithiwr yn trefnu i drosglwyddo’r arian i gyfreithiwr y gwerthwr.
- Yn ddelfrydol, mae’r holl brynwyr a gwerthwyr yn y gadwyn yn cwblhau ar yr un diwrnod, fel arall efallai y bydd rhaid i chi aros i’r gwerthwr gwblhau prynu ei gartref newydd cyn y gallwch symud i mewn.
- Os oes gennych ran o rydd-ddaliad, gwiriwch sut i gofrestru eich enw ar gofrestr y cwmni.
Faint o amser rhwng cyfnewid a chwblhau?
Y prynwr a’r gwerthwr sy’n penderfynu ar faint o amser sydd angen rhwng cyfnewid a chwblhau.
Weithiau bydd partïon eraill yn y gadwyn yn effeithio ar hyn. Er enghraifft, os yw’r gwerthwr yn aros i’r tŷ mae’n ei brynu ei hun fynd trwodd cyn symud allan.
Awgrymiadau ar gyfer paratoi i symud
- Hysbyswch bawb eich bod wedi newid cyfeiriad – trwydded yrru, banciau, cwmni pensiwn, gwaith, cwmni ffôn symudol, ac ati.
- Cofrestrwch gyda chwmnïau gwasanaethau, cyflenwyr band eang, cyflenwyr dŵr ac ar gyfer y dreth gyngor.
- Trefnwch i ddanfon post ymlaen.
- Cyn symud i mewn, gofynnwch i’r gwerthwyr ble mae’r prif dap cau a mesuryddion ynni a gwirio fod y gosodiadau a ffitiadau yn eu lle (os yn berthnasol).
- Gofynnwch am y llawlyfr cyfarwyddiadau ar gyfer unrhyw nwyddau trydanol maent yn gadael ar eu holau.
- Byddwch hefyd angen allweddi i’r drysau a’r ffenestri.
- Casglwch allweddi a glanhau’r eiddo cyn i’r cwmni symud gyrraedd.
- Os oes gennych blant ifanc ac anifeiliaid anwes, trefnwch i rywun eu gwarchod ar y diwrnod symud.
- Cadwch eitemau gwerthfawr, megis gemwaith, gyda chi.
- Paciwch flwch o hanfodion ar gyfer eich diwrnod cyntaf yn eich cartref newydd. Gallai hyn gynnwys tegell, mygiau, coffi/te, papur tŷ bach, brwshys dannedd a phast dannedd.
EICH CAM NESAF
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?