Gall prynu’r polisi yswiriant cywir am bris fforddiadwy fod yn anodd os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd. Mae’r dudalen hon yn crynhoi’r hyn sydd angen i chi ei wybod i gael y polisi gorau ar gyfer eich anghenion am bris rhesymol.
Eich hawliau cyfreithiol
Ni chaniateir i gwmnïau yswiriant wrthod eich yswirio oherwydd eich bod yn anabl na chynnig telerau gwaeth ichi na chwsmeriaid eraill. Fodd bynnag, gallant weithredu amodau arbennig neu godi tâl ychwanegol arnoch am bolisi os gallant ddangos bod mwy o risg y byddwch angen gwneud hawliad.
I bwy mae deddfwriaeth anabledd yn gymwys?
Hyd yn oed os nad ydych yn ystyried eich bod yn unigolyn anabl, mae’n bosibl y bydd gennych yr hawl gyfreithiol i beidio â dioddef gwahaniaethu oherwydd eich cyflwr. Er enghraifft, os oes gennych:
- gyflwr iechyd corfforol fel canser, MS neu HIV
- salwch meddwl megis iselder
Mae’r ddeddfwriaeth yn gymwys i unrhyw unigolyn sydd ag ‘amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor’ ar ei allu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol.
Yswiriant teithio
Pethau i’w gwirio wrth brynu yswiriant teithio
Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd - y cyfeirir ato gan yswirwyr fel ‘cyflwr a oedd yn bodoli eisoes’ - mae angen ichi gymryd gofal arbennig wrth chwilio am yswiriant teithio. Os nad ydych yn datgan gwybodaeth pan fydd y cwmni yswiriant yn gofyn, gallai eich yswiriant fod yn annilys.
Hefyd dylech wirio bod y polisi’n rhoi sicrwydd am unrhyw gyfarpar drud mae angen ichi fynd ag ef gyda chi.
Ble i brynu yswiriant teithio os ydych yn anabl neu os oes gennych chi gyflwr meddygol
Mae rhai cwmnïau yswiriant yn gwerthu polisïau a gynllunnir yn benodol ar gyfer pobl anabl neu bobl â chyflyrau iechyd. Gallwch ddod o hyd i lawer o’r rhain trwy wneud chwiliad ar y rhyngrwyd. Fel arall, efallai y byddwch am ddefnyddio brocer arbenigol i chwilio’r farchnad ar eich rhan ac i argymell polisi addas. Mae gan Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) gronfa ddata o froceriaid y gallwch ei chwilio yn ôl anabledd neu gyflwr meddygol.
Neu gallech ystyried yr argymhellion a gyhoeddir gan Which? a Martin Lewis.
Gweler argymhellion yswiriant ar gyfer pobl gyda chyflyrau meddygol ar
wefan Which?.
Sut i wirio eich polisi yswiriant teithio
Os ydych am wirio bod y polisi rydych ar fin ei brynu’n ddigon da, rydym wedi creu rhestr o nodweddion a lefelau sicrwydd ichi ei wirio o’i gymharu â hi.
Yswiriant bywyd
Os oes sicrwydd bywyd gennych eisoes
Os oes gennych bolisi yswiriant bywyd eisoes a’ch bod yn datblygu cyflwr iechyd neu anabledd, nid oes rhaid ichi hysbysu’ch cwmni yswiriant oni bai ei fod yn gofyn yn benodol ichi wneud hynny yn y polisi. Beth bynnag a wnewch, peidiwch â chanslo’ch polisi gan ei fod yn annhebygol y byddwch yn gallu ei amnewid nawr bod gennych yr hyn mae yswirwyr yn ei alw yn ‘gyflwr a oedd yn bodoli eisoes’.
Pethau mae angen ichi eu gwybod wrth brynu yswiriant bywyd.
Ni ddylai bod yn anabl neu fod â chyflwr meddygol eich atal rhag cael sicrwydd bywyd, ond yn y mwyafrif o achosion bydd yn costio mwy a hefyd gallai fod yn anos dod o hyd iddo (gweler ‘Eich hawliau cyfreithiol’ uchod). Peidiwch â chael eich temtio i guddio gwybodaeth am eich cyflwr. Gallai hyn olygu bod eich polisi’n annilys ac efallai na fydd y cwmni yswiriant yn talu os oes rhaid ichi wneud hawliad.
Os nad ydych yn siŵr pa fath o bolisi neu lefel o sicrwydd i’w gael, darllenwch ein herthygl Yswiriant bywyd – dewiswch y polisi a’r sicrwydd iawn
Ble i brynu yswiriant bywyd os ydych yn anabl neu os oes gennych chi gyflwr meddygol
Efallai y byddwch am ddefnyddio brocer arbenigol i chwilio’r farchnad ar eich rhan ac i argymell polisi addas. Fel arall, os oes gennych salwch penodol, ceisiwch gysylltu â’r elusen berthnasol i gael cyngor ar yswiriant bywyd. Er enghraifft, mae Ymchwil Canser DU yn cynnig gwybodaeth am yswiriant bywyd ar gyfer dioddefwyr canser.
Pethau i gadw llygad arnynt wrth brynu yswiriant bywyd – ar
wefan Which?.
Yswiriant cartref
A ddylech sôn am eich anabledd wrth brynu yswiriant cartref?
Ni ddylai’r ffaith eich bod yn anabl neu’ch bod â chyflwr iechyd effeithio ar eich gallu i gael sicrwydd yswiriant cartref cystadleuol.
Llawer o gyfarpar drud i’w hyswirio?
Os yw eich cartref wedi’i addasu gydag eitemau drud fel lifftiau grisiau, taclau codi a lifftiau baddon, sicrhewch eu bod i gyd wedi’u hyswirio ar gyfer difrod damweiniol dan eich polisi cynnwys.
Peidiwch â chael eich temtio i beidio cael yswiriant digonol ar gyfer eich cynnwys. Adiwch, ystafell wrth ystafell, beth fyddai popeth yn ei gostio i’w brynu eto.
Chwilio am yswiriant cartref
Barod i brynu? Darllenwch ein herthygl Yswiriant cartref - sut i gael y fargen orau.
Yswiriant car
Os oes yswiriant car gennych eisoes
Os ydych yn datblygu cyflwr iechyd neu anabledd dylech hysbysu’ch cwmni yswiriant car. Ni all godi premiwm uwch arnoch na chynyddu’ch tâl-dros-ben heb dystiolaeth eich bod yn risg fwy.
Os ydych yn gyrru cerbyd wedi’i addasu
Os ydych yn gyrru cerbyd sydd wedi’i addasu’n arbennig i gwrdd â’ch anghenion, gall y cwmni yswiriant gynyddu eu taliadau er mwyn gwrthbwyso cost uwch unrhyw waith trwsio y gallai fod ei angen yn y dyfodol.
Os ydych yn defnyddio cerbyd a ddarperir gan y
cynllun Motability, cynhwysir yswiriant gydag ef.
Mae rhai cwmnïau a broceriaid yswiriant yn arbenigo mewn yswiriant ar gyfer gyrwyr anabl.
Gweler yr yswirwyr arbenigol a argymhellir gan
Foduro Anabl DU.
Mae gan Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) gronfa ddata o froceriaid y gallwch ei chwilio er mwyn dod o hyd i’r rhai hynny sy’n yswirio cerbydau wedi’u haddasu.
Chwiliwch am frocer yswiriant arbenigol trwy ddefnyddio
gwasanaeth Canfod Brocer BIBA.^