Rhannu’r cartref teuluol wrth wahanu os oeddech chi’n cyd-fyw – rhentu

Efallai y bydd un neu ddau ohonoch yn dymuno parhau i rentu eich cartref ar ôl i chi wahanu, yn enwedig os yw’n gyfleus ar gyfer gwaith, ysgol eich plant, neu ei fod yn agos at ffrindiau neu deulu. Bydd y dewisiadau sydd ar gael i chi os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn dibynnu ar eich cytundeb tenantiaeth ac a ydych chi’n rhentu gan landlord preifat neu gymdeithasol.

Sicrhau’r hawliau i’ch cartref

Os ydych yn newid amodau’ch tenantiaeth, sicrhewch fod y landlord yn cytuno i hyn yn ysgrifenedig cyn i chi derfynu’ch tenantiaeth bresennol. Unwaith y byddwch chi wedi terfynu’ch tenantiaeth, ni fydd gennych chi hawl i aros yn yr eiddo.

Mae’r erthygl hon wedi ei hanelu at gyplau nad ydynt yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac sy’n ceisio trefnu beth i’w wneud ynglŷn â chartref y teulu wedi iddynt wahanu. Os hoffech gael gwybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud yn y cyfnod cynnar, darllenwch ein canllaw Diogelu eich hawliau i’ch cartref yn ystod gwahaniad – rhentu.

Cael cyngor arbenigol

Yn gyffredinol mae’n llawer gwell os gallwch gytuno gyda’ch cyn bartner beth fyddwch chi’n ei wneud ynglŷn â’ch cartref. Serch hynny, mae’r gyfraith dai yn gymhleth iawn. Golyga hyn efallai y bydd gennych chi hawliau i fyw mewn eiddo, i drosglwyddo neu derfynu’r denantiaeth – neu gyfrifoldebau i dalu’r rhent – nad ydych yn ymwybodol ohonynt os ceisiwch roi trefn ar bethau eich hun. Mae’n syniad da siarad â chyngorwr o elusen hawliau tai (yn ogystal â chyfreithiwr teulu).

Rhannu’r cartref teuluol drwy gyfryngu

Os nad ydych chi a’ch cyn bartner yn cytuno ynglŷn â’r hyn ddylai ddigwydd – efallai os yw’r ddau ohonoch ar gytundeb tenantiaeth, neu fod gennych chi blant, dylech ystyried defnyddio cyfryngwr, sy’n drydydd parti diduedd. Gallwch ddod o hyd i gyfryngwr:

Beth all y llys ei benderfynu

Mewn rhai achosion, efallai y gallwch fynd i’r llys i gael caniatâd i barhau i fyw yn yr eiddo.

Os oes gennych chi blant a fydd yn byw gyda chi am y rhan helaeth o’r amser, efallai y byddwch yn medru mynd i’r llys i gael y denantiaeth wedi ei throsglwyddo i’ch enw chi. Dylai’r flaenoriaeth fod ar sicrhau bod gan eich plant rywle addas i fyw, yn enwedig os ydynt yn ifanc (ac yn dal yn yr ysgol).

Beth yw’ch dewisiadau os mai chi yw’r unig denant?

Os yw’r denantiaeth yn eich enw chi yn unig gallwch ofyn i’ch cyn bartner i adael, er gall eich cyn bartner fynd i’r llys i geisio’r hawl i aros yn y cartref. Bydd pwy bynnag fydd yn aros yn gorfod sicrhau y gall fforddio i dalu’r rhent.

Rhentu gan landlord preifat

Nid oes gan eich cyn bartner unrhyw hawliau i aros yn eich cartref, oni bai bod ganddo ef neu hi orchymyn llys yn nodi i’r gwrthwyneb. Gallwch ofyn iddo ef neu hi adael ac ni fyddai ganddo ef neu hi yr hawl i aros yno yn yr hirdymor.

Os penderfynwch adael yr eiddo – ac yn hapus i’ch cyn bartner aros yno – bydd yn rhaid i chi derfynu’ch tenantiaeth yn ffurfiol er mwyn caniatâu i’ch cyn bartner gymryd tenantiaeth newydd.

Nodwch yn ysgrifenedig beth a gytunwyd ar lafar gyda’ch landlord: gall e-bost neu neges destun fod yn dderbyniol. Mae’n bwysig i chi wneud hyn; neu gallech gael eich cyhuddo o droi’ch cefn ar y denantiaeth a gofyn i chi dalu’r rhent ar ôl i chi symud allan.

Rhentu gan landlord cymdeithasol

Gwiriwch a oes gennych chi’r hawl i drosglwyddo’ch tenantiaeth i’ch cyn bartner. Bydd y cyfan yn dibynnu ar gynnwys cytundeb eich tenantiaeth bresennol gyda’ch landlord cymdeithasol (cymdeithas dai, cwmni cydweithredol tai, Y Weithrediaeth Dai, awdurdod lleol).

Gallech fod yn ildio hawliau gwerthfawr iawn drwy drosglwyddo tenantiaeth, felly ceisiwch gyngor cyn gwneud dim.

Beth yw’r dewisiadau os yw enw’r ddau ohonoch ar y cytundeb rhentu?

Os yw enw’r ddau ohonoch ar y cytundeb tenantiaeth, mae’r ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu’r rhent i gyd tan ddiwedd y denantiaeth. Ceisiwch gytuno ar beth ydych am ei wneud.

  • Efallai y cytunwch y bydd un ohonoch yn symud allan a throsglwyddir y denantiaeth drosodd yn enw’r partner arall yn unig.
  • Efallai y penderfynwch y bydd y ddau ohonoch yn symud allan.

Gall y naill neu’r llall ohonoch roi rhybudd i derfynu’r denantiaeth, a gall hynny fod yn broblem os yw’ch gwahaniad yn un chwerw.

Rhentu gan landlord preifat

Gall y naill neu’r ddau ohonoch barhau i fyw yn yr eiddo cyn belled â bod eich tenantiaeth yn parhau mewn grym ac y gallwch dalu’r rhent. Yn ddibynnol ar eiriad cytundeb y denantiaeth, efallai na fydd gennych chi hawl fel mater o drefn i’r denantiaeth gael ei chymryd drosodd gan un ohonoch yn unig.

Fodd bynnag, efallai y bydd eich landlord yn fodlon i chi wneud hyn cyn belled â’ch bod yn medru fforddio’r rhent. Gall eich landlord ofyn am fwy nag un geirda neu ‘warantwr’ (a fydd yn addo talu’r rhent os na allwch chi), a gall godi tâl am hyn.

Os bydd un ohonoch yn dymuno aros yn yr eiddo, peidiwch â therfynu’ch tenantiaeth heb gael un arall gan eich landlord. Unwaith y byddwch chi wedi terfynu’ch tenantiaeth, ni fydd gennych chi hawl i aros yn yr eiddo.

Os ydych yn dymuno symud allan, chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu (ac unrhyw ddifrod wedi ei dalu amdano) hyd at ddiwedd eich tenantiaeth neu gyfnod rhybudd. Mae’r ddau ohonoch yn gyfrifol – felly os bydd eich cyn bartner yn methu neu yn gwrthod talu’r rhent – gall y landlord ofyn i chi am y swm cyfan, ac i’r gwrthwyneb gan ofyn i’ch cyn bartner yr un modd.

Rhentu gan landlord cymdeithasol

Mae gan y ddau ohonoch yr hawl i barhau i fyw yn yr eiddo cyn belled â bod eich tenatiaeth yn parhau mewn grym ac y gallwch dalu’r rhent. Efallai y gallwch drosglwyddo’r denantiaeth drosodd i’ch partner – yn ddibynnol ar eiriad y denantiaeth. Ond mae gan rai landlordiaid bolisi o beidio â throsglwyddo tenantiaeth ar y cyd i denantiaeth sengl fel mater o drefn pan fydd perthynas yn chwalu. Yn hytrach byddant yn edrych ar bob achos yn unigol.

Os oes gennych chi’r hyn a elwir yn ‘denantiaeth ddiogel’ mae’n rhoi’r hawl i chi fyw yn yr eiddo am oes – ond fe gollwch yr hawl werthfawr hon os terfynwch y denantiaeth. Ceisiwch gyngor arbenigol cyn penderfynu a ddylid gwneud hyn neu beidio.

Beth yw’r dewisiadau os nad yw’r denantiaeth yn eich enw chi?

Os nad yw’r denantiaeth yn eich enw chi, efallai y byddwch yn medru cael yr hawl hirdymor i fyw yn yr eiddo. Efallai y gallwch chi gael ‘rhybudd meddiannaeth’ (hawliau meddiannaeth yn yr Alban) yn y tymor byr a throsglwyddiad o’r denantiaeth fel ateb hirdymor, ond bydd hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Rhentu gan landlord preifat

Os bydd eich cyn bartner, sydd â’i enw neu ei henw ar y denantiaeth, yn fodlon i symud allan ac i chi aros, dylai’r ddau ohonoch ofyn i’r landlord os cewch wneud hynny. Gall y landlord gytuno i chi wneud hynny cyn belled y bydd yn ffyddiog y gallwch dalu’r rhent.

Fodd bynnag, bydd eich landlord angen sicrwydd bod eich cyn bartner yn fodlon ildio’r denatiaeth a bydd angen iddo ef neu hi ddarparu rhywbeth yn ysgrifenedig (gall fod mor anffurfiol â neges destun neu e-bost) er mwyn profi hynny.

Rhentu gan landlord cymdeithasol

Os yw’r cytundeb rhentu yn enw’ch cyn bartner yn unig ac mae ef neu hi’n cytuno i chi gymryd cytundeb y denantiaeth yn hytrach, dylech gysylltu â’ch landlord cymdeithasol (ac elusen dai efallai) i gael gwybod beth sydd angen i chi wneud.

Terfynu’ch tenantiaeth yn gynnar

Os ydych wedi cychwyn tenantiaeth cyfnod sefydlog gyda landlord preifat, mae’n debyg na allwch ei therfynu’n gynnar. Yn gyfreithiol chi sy’n gyfrifol am dalu’r rhent hyd nes y bydd y cyfnod sefydlog wedi dod i ben. Siaradwch â’ch landlord yn y gobaith y gall fod yn hyblyg; neu fel arall, gallech golli rhan o’ch blaendal neu’r cyfan ohono.

Os ydych yn rhentu eiddo gan landlord cymdeithasol, efallai y gallwch chi derfynu’r denantiaeth yn gynnar, ond meddyliwch yn ofalus cyn ildio hawliau tai gwerthfawr.

Eich cam nesaf

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?