Rhentu: Eich hawliau i’ch cartref yn ystod ysgariad neu ddiddymiad

Os ydych chi’n rhentu eich tŷ gyda’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil, bydd yn rhaid i chi benderfynu a fydd un ohonoch yn parhau i fyw yno neu a allwch chi ddwyn y denantiaeth i ben. Edrychwch beth yw eich dewisiadau os byddwch yn gwahanu.

Deall sut yr ydych yn rhentu eich cartref

Mae gennych yr hawl i aros yn yr eiddo tra byddwch yn dal yn briod neu’n bartneriaid sifil. Ond mae gennych gyfrifoldebau hefyd, sy’n dibynnu ar enw pwy sydd ar y denantiaeth.

Os yw’r cytundeb tenantiaeth yn eich enw chi

Mae gennych hawl i aros yn eich cartref. Rydych yn gyfrifol hefyd am sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu.

Os ydych yn denant ar y cyd gyda’ch cynbartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil)

Mae gennych chi’ch dau’r hawl i barhau i fyw yn yr eiddo. Ond, gall y naill neu’r llall ohonoch roi rhybudd i’r landlord i ddirwyn y denantiaeth i ben (oni bai ei bod yn un tymor sefydlog).

Mae’r union reolau yn dibynnu ar y math o gytundeb tenantiaeth ar y cyd sydd gennych. Efallai y byddwch yn gallu trafod gyda’ch landlord fel bod un ohonoch yn cael parhau i fyw yno ar ôl i’r denantiaeth ddod i ben neu i’r briodas neu bartneriaeth sifil chwalu.

Os yw’r cytundeb tenantiaeth yn enw eich cynbartner

Fo neu hi sy’n gyfrifol am dalu’r rhent. Ond, mae gennych hawliau i barhau i fyw yn yr eiddo tra bydd y denantiaeth yn parhau a thra byddwch yn dal yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gelwir y rhain yn ‘hawliau cartref’.

Yn yr Alban, mae gennych hawliau tebyg i’r rhain fel yr hyn a elwir yn ‘gymar heb deitl’ neu ‘bartner sifil heb deitl’. Os bydd eich cynbartner yn symud o’r eiddo, efallai y byddwch yn gallu cymryd cyfrifoldeb am dalu’r rhent.

Yng Nghymru a Lloegr mae hyn yn rhywbeth y mae gennych hawl i’w wneud, ond yn yr Alban a Gogledd Iwerddon nid yw mor syml ac mae’n dibynnu ar y cytundeb tenantiaeth. Gall eich cynbartner hefyd fedru trosglwyddo neu lofnodi bod y denantiaeth yn dod i chi.

Sicrhau eich hawliau i aros yn y cartref

Efallai na fydd eich hawliau i aros yn eich cartref yn parhau yn unig tra byddwch yn briod neu mewn partneriaeth sifil, gan ddibynnu enw pwy sydd ar y cytundeb tenantiaeth. Bydd eich hawliau yn amrywio ychydig gan ddibynnu lle’r ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig.

Nghymru a Lloegr

Yn ddibynnol ar y math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych chi ac a yw’ch landlord yn un preifat neu un sector cymdeithasol, os yw’r cytundeb tenantiaeth yn enw eich cyn bartner, a’i fod ef neu hi yn symud o’r eiddo, gallwch barhau i dalu’r rhent (i osgoi ôl-ddyledion a’r bygythiad o gael eich troi allan). Ond, ar ôl i’ch priodas neu bartneriaeth sifil ddod i ben, mae eich hawl i aros yn yr eiddo yn dod i ben hefyd.

Ngogledd Iwerddon

Os yw’r cytundeb tenantiaeth yn enw eich cynbartner, ef neu hi sy’n gyfrifol am barhau i dalu’r rhent. Ond, er enghraifft, os bydd ef neu hi wedi symud allan ac nad yw’n talu rhent bellach, tra byddwch yn dal yn briod neu mewn partneriaeth sifil efallai y bydd gennych hawl i fyw yn yr eiddo a thalu rhent. Siaradwch â’ch landlord am gael eich enw chi ar y cytundeb tenantiaeth gan y bydd yn rhoi mwy o ddiogeliad i chi.

Alban

Os yw’r cytundeb tenantiaeth yn enw eich cynbartner, mae gennych yr hawl i fyw yn y cartref fel petaech yn denant a byw yno gyda’ch plant (hyd yn oed os byddan nhw yn oedolion). Ni all eich cynbartner ddwyn y denantiaeth i ben heb eich cytundeb ysgrifenedig.

Sicrhau eich hawliau yn y llys

Os na allwch chi a’ch cynbartner gytuno pwy ddylai barhau i fyw yn y cartref teuluol, ac os yw’r denantiaeth yn ei enw ef neu hi, efallai y byddwch yn gallu mynd i’r llys i sicrhau’r hawl i aros yn yr eiddo.

Os bydd y llys yn cytuno, bydd hyn yn rhoi’r hawl i chi aros yn yr eiddo am gyfnod penodol o amser, neu gall eich helpu i orfodi hawliau sydd gennych yn barod i aros yno.

Yng Nghymru a Lloegr, mae cymorth cyfreithiol ar gael os byddwch yn gwneud cais i’r llys oherwydd trais domestig, er bod prawf modd ar ei gyfer.

Yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, mae cymorth cyfreithiol ar gael o hyd heb yr angen i ddangos bod trais domestig wedi digwydd, ac mae prawf modd ar ei gyfer.

Pan fydd gennych yr hawl i gymryd y denantiaeth

Efallai y bydd gennych hawl i gymryd y denantiaeth drosodd gan eich cynbartner.

  • Yng Nghymru a Lloegr, bydd yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych a beth sydd yn y cytundeb.
  • Yng Ngogledd Iwerddon, mae gennych fwy o hawliau i wneud hyn os byddwch yn rhentu gan y Weithrediaeth Dai neu gymdeithas dai nag os byddwch yn rhentu’n breifat.
  • Yn yr Alban, os na fydd eich landlord yn cytuno i chi gymryd y denantiaeth gan eich cynbartner, gallwch wneud cais i’r llys am yr hyn a elwir yn ‘orchymyn trosglwyddo tenantiaeth’.

Ond, mae bob amser yn werth siarad â’ch landlord yn gyntaf oherwydd efallai y bydd yn barod i chi gymryd y denantiaeth yn eich enw chi yn unig.

Sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu

Os yw eich enw chi ar y cytundeb tenantiaeth, chi sy’n gyfrifol am dalu’r rhent. Os yw’n denantiaeth ar y cyd gyda’ch cynbartner, mae’r ddau ohonoch yn gyfrifol am sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu. Felly os bydd ef neu hi yn methu neu yn gwrthod talu rhent, gall y landlord ofyn i chi am y swm cyfan.

Beth bynnag yw eich sefyllfa, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi blaenoriaeth i’ch taliadau rhent. Os na allwch dalu eich rhent, gall eich landlord geisio cymryd camau i’ch troi allan.

Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn Budd-dal Tai os ydych ar incwm isel.

  • Darllenwch ragor am Fudd-dal Tai ar wefan GOV.UK os ydych yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.
  • Os ydych yng Ngogledd Iwerddon gallwch gael gwybodaeth am Fudd-dal Tai ar wefan y Weithrediaeth Dai.

Datrys problemau gyda’ch landlord

Mae’n syniad da siarad â’ch landlord cyn gynted ag y gallwch i ddangos bod gennych gynllun yn ei le i dalu’r rhent, gan gynnwys unrhyw ôl-ddyledion. Os bydd eich landlord yn gwrthod trafod, neu os oes arnoch rent iddo, cysylltwch ag elusen sy’n cynghori.

Yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth neu Shelter

Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r Gwasanaeth Hawliau Tai i wirio eich hawliau

Yn yr Alban,cysylltwch â Cyngor ar Bopeth yr Alban neu Shelter

Eich cam nesaf

A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?