Mae gwahanu o’ch cyn bartner yn golygu y bydd rhaid i chi wneud rhai newidiadau mawr i sut ydych chi’n rheoli eich cyllideb eich cartref ac eraill. Yn aml mae’n ddrytach i bob un ohonoch i fyw ar ben eich hun na byw gyda’ch gilydd. Ond mae sawl ffordd i chi arbed arian a lleihau costau.
Pam y gall cyllideb helpu
Wedi i chi wahanu, dylai llunio cyllideb fod yn fan cychwyn i adolygu eich gwariant. Mae cyllideb yn gofnod o faint o arian sy’n dod i mewn a beth sy’n mynd allan bob mis.
Torri i lawr ar eich gwariant
Ystyriwch a allwch gwtogi unrhyw beth o’ch gwariant o ddydd i ddydd. Bydd hyd yn oed ychydig bunnoedd yma ac acw yn cronni’n fuan iawn.
Gallwch hefyd wario llai trwy gael gwell bargen ar bethau fel eich siopa. Dysgwch sut yn ein canllaw Siopa’n graffach – cyngor da ar arbed arian.
Arbed arian ar eich biliau
Os nad ydych erioed wedi newid eich cyflenwr nwy neu drydan, neu heb newid ers tipyn, mae’n sicr werth gwneud hynny gan y gallai arbed arian i chi.
Gallwch hefyd ystyried newid os, er enghraifft, ydych chi eisiau pris sefydlog. Fel hyn byddwch yn gwybod pa bris ydych chi’n ei dalu am eich nwy a thrydan bob mis neu chwarter.
Efallai y byddwch yn gallu cwtogi ar eich defnydd o ynni ac arbed arian felly.
Os oes gennych fand eang yn y cartref, ac mae gennych linell tir neu ffôn symudol, efallai y byddwch yn gallu newid neu gael cynnig gwell gan eich darparwr presennol.
Teithio am lai o arian
Gall costau teithio, megis eich tocyn trên i’r gwaith neu gost rhedeg car, wneud tolc sylweddol yn eich cyllideb. Efallai y gallwch arbed arian ar gostau petrol, yswiriant car neu docynnau trên.
Talu llai o Dreth Gyngor neu Ardrethi
Yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, os yw eich partner yn symud allan ac mai chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo, gallwch hawlio gostyngiad o 25% ar eich bil y Dreth Gyngor os mai chi yw’r unig oedolyn. Gallwch hefyd hawlio’r gostyngiad os oes oedolyn yn byw gyda chi sy’n fyfyriwr llawn amser, yn ofalwr preswyl neu’n rhywun gydag anabledd meddyliol difrifol.
Os ydych ar incwm isel, mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gallu cael lleihad yn eich Treth Gyngor. Rhaid i chi ymgeisio i’ch cyngor lleol.
Darganfyddwch fwy am leihad y Dreth Gyngor ar y wefan GOV.UK.
Yng Ngogledd Iwerddon, yn ddibynnol ar eich incwm ac amgylchiadau, gallech allu hawlio ‘Budd-dal Tai ardrethi’ neu ‘Ryddhad Ardrethi’. Darllenwch fwy am hyn ar y wefan nidirect.
Cynilion argyfwng
Er y gallai arian fod yn brin wedi gwahanu, mae’n werth ystyried rhoi rhywfaint o arian i’r naill ochr bob wythnos/mis fel cynilion argyfwng. Trwy wneud hynny, pe byddai, er enghraifft, eich boeler neu beiriant golchi yn torri, byddech yn iawn.
Dysgwch sut i gronni cynilion a faint fyddwch chi angen yn ein canllaw Cynilion argyfwngopens in new window.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?