Dim ots beth yw’ch incwm neu sefyllfa ariannol, mae’n gwneud synnwyr i gadw rheolaeth ar sut rydych yn gwario’ch arian parod. Mae’r ymagwedd pot jam - yn rhannu’ch arian i botiau gwahanol ar gyfer treuliau gwahanol - yn ffordd wych o sicrhau y telir eich biliau a bod eich arian yn mynd yn union ble rydych eisiau iddo fynd.
Cyn i chi gychwyn – lluniwch gyllideb
Er mwyn i’r dull pot jam weithio, yn gyntaf mae angen ichi gael darlun clir o faint o arian sydd gennych yn dod i mewn a ble mae’n mynd bob mis neu bob wythnos.
Gallwch ganfod hyn yn gyflym a rhwydd trwy ddefnyddio ein cynllunydd cyllideb.
Dewiswch flaenoriaethau’ch gwariant
Y cam nesaf yw edrych yn ofalus ar bopeth rydych yn gwario arian arno a phenderfynu pa rai ohonynt sy’n ‘anghenion’ a pha rai sy’n ‘ddymuniadau’.
- Dechreuwch drwy restru’ch anghenion - pethau fel eich rhent neu forgais a biliau hanfodol eraill fel nwy a thrydan.
- Ar ôl trefnu’r pethau hanfodol, edrychwch ar eich dymuniadau. Gallai hyn olygu ychwanegion, fel mynd allan a hobïau, neu nodau hirdymor fel talu’ch dyledion a chynilo ar gyfer y Nadolig.
- Os na allwch fforddio’ch holl ddymuniadau, bydd yn rhaid ichi benderfynu pa rai sydd bwysicaf ichi neu ystyried ffyrdd o dorri costau.
- Dychmygwch jwg wedi’i lenwi â dŵr sy’n cynrychioli’r arian sydd gennych yn dod i mewn bob mis.
- Nawr dychmygwch botiau jam gwag - un ar gyfer pob peth mae angen ichi dalu amdano bob mis. Yna penderfynwch faint o arian i’w roi ym mhob pot.
Defnyddio cynhwyswyr gwirioneddol fel potiau jam neu amlenni
Ar ôl bod gennych ddarlun clir o’ch anghenion gwario bob mis, mae’n amser penderfynu pa fath o gynhwyswr yr hoffech ei ddefnyddio ar gyfer eich cyllidebu.
Naill ai gallwch ddefnyddio cynhwyswyr gwirioneddol fel potiau jam neu amlenni, neu sefydlu cyfrifon banc gwahanol ar gyfer pob math o wario.
Wrth ddefnyddio cynhwyswyr gwirioneddol i gyllidebu, rydych yn cymryd arian parod o’r pot penodedig i dalu pob bil wrth iddo ddod i mewn. Hefyd rydych yn gwneud yr un peth cyn mynd i siopa.
Ceisiwch lynu at reol o ‘pan mae wedi mynd, mae wedi mynd’. Er enghraifft, os yw’ch pot jam petrol yn wag peidiwch â chaniatáu i’ch hunan ddipio i mewn i’ch pot trydan yn lle.
Ac os oes gennych unrhyw arian parod yn weddill yn y potiau ar ddiwedd yr wythnos neu’r mis, ceisiwch fynd i’r arfer o’i roi tuag at
gronfa cynilion argyfwng.
Manteision
- Mae’r dull hwn yn gweithio’n arbennig o dda os yw’ch arian yn dod i mewn unwaith yr wythnos ond mae’ch biliau’n fisol. Mae rhoi arian mewn pot bob wythnos yn ei wneud yn haws i dalu’r biliau mwy ar ddiwedd y mis.
- Mae cael arian parod mewn cynhwyswyr yn eich atgoffa faint rydych yn ei wario yn ystod y mis – ac felly gall eich helpu i wario llai o arian.
Anfanteision
- Nid yw talu am bopeth gydag arian parod yn gyfleus bob tro.
- Bydd angen ichi fod yn arbennig o ofalus ynghylch diogeledd os cadwch eich holl gyllideb wythnosol yn y tŷ.
- Byddwch yn colli allan ar fân fanteision talu biliau trwy Ddebyd Uniongyrchol, fel tariffau rhatach a’ch biliau’n cael eu talu’n awtomatig.
Defnyddio gwahanol gyfrifon banc ar gyfer gwahanol fathau o wariant
Yn lle defnyddio cynhwyswyr, mae’n well gan rai pobl sefydlu gwahanol gyfrifon banc ar gyfer gwahanol fathau o wariant misol.
I’ch helpu i gyfrifo faint o gyfrifon i’w hagor, casglwch eich anghenion a dymuniadau mewn ychydig o brif feysydd yn unig - er enghraifft:
- Rhent neu Forgais
- Biliau
- Car
- Nadolig a/neu wyliau
- Cynilion argyfwng
Ar ôl ichi agor cyrif ar wahân ar gyfer pob maes o wariant, mae angen ichi gyfarwyddo’ch banc i:
- Sefydlu archebion sefydlog sy’n trosglwyddo arian yn awtomatig o’ch prif gyfrif i’r cyfrifon ychwanegol hyn un neu ddau ddiwrnod ar ôl ichi gael eich talu
- Sefydlu Debyd Uniongyrchol ar gyfer pob un o’ch biliau
Manteision
- Ar ôl i’ch archebion sefydlog gael eu talu, gallwch wario o’ch prif gyfrif heb y risg na fydd digon o arian ar ôl ar gyfer biliau misol pwysig.
- Mae’n ffordd wych o ledaenu cost yr eitemau unwaith-y-flwyddyn fel gwyliau, Nadolig a threth car.
Anfanteision
- Bydd angen ichi reoli’ch holl gyfrifon yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn aros mewn credyd ac yn peidio â thynnu ffioedd a thaliadau.
- Gall agor nifer o gyfrifon effeithio ar eich sgôr credyd.
Dewis y math cywir o gyfrif
Ar gyfer eich prif gyfrif a chyfrifon biliau, edrychwch am gyfrif cyfredol neu sylfaenol sy’n caniatáu ichi sefydlu Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog.
Hefyd gwiriwch nad yw’r banc yn gosod isafswm o arian mae’n rhaid ichi ei dalu i mewn i’r cyfrif bob mis.
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i cyfrifon cyfredol.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu cyfrifon cyfredol:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
Defnyddio cyfrif pot jam
Cynllunir cyfrifon pot jam yn arbennig er mwyn caniatáu ichi rannu’ch arian yn ‘botiau’ gwahanol o fewn cyfrif sengl.
Fel arfer mae cyfrifon pot jam yn gweithio fel hyn:
- Pan fydd arian yn dod i mewn i’ch cyfrif, rhoddir swm cytun heibio ar gyfer biliau hanfodol
- Yna telir y biliau hyn drwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog
- Mae’r arian dros ben ar gael ichi ei ddefnyddio, naill ai ar gerdyn rhagdaledig neu gallwch ei godi o beiriant arian parod
Manteision
- Mae’n rhaid ichi reoli un cyfrif banc yn unig.
- Fel arfer mae darparwr y cyfrif yn rheoli’ch holl Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog ar eich rhan.
- Weithiau mae’r cyfrifon hyn yn dod gyda chyngor ar gyllidebu.
Anfanteision
- Codir ffi weinyddol o rhwng £5 a £15 arnoch bob mis. Fodd bynnag, mae rhai landlordiaid tai cymdeithasol a chynghorau wedi bod yn gweithio gydag undebau credyd i gynnig cyfrifon cyfredol i denantiaid gyda ffioedd is. Os yw’ch landlord yn un ohonynt, efallai y byddant yn talu’r ffi weinyddol ar eich rhan.
Agor cyfrif pot jam
Nid yw cyfrifon pot jam ar gael yn eang eto, ond mae cryn nifer o undebau credyd yn eu cynnig. I ddod o hyd i’ch undeb credyd lleol, ewch i’r gwefannau hyn:
Hefyd gallwch chwilio ar-lein am ‘gyfrifon pot jam’ i weld ble gallwch gael un ac i gymharu ffioedd a gwasanaethau gwahanol ddarparwyr.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?