Mae siopa doeth yn cychwyn cyn i chi gyrraedd y siop. Gwrandewch ar hyn - yn ôl Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff, pob mis, mae teulu cyffredin yn taflu gwerth bron £60 o fwyd a brynwyd heb ei fwyta - mae hynny dros £700 y flwyddyn!
Meddyliwch beth allech chi ei wneud gyda’r arian ychwanegol yna! Mae’n fan cychwyn gwych i osod nod cynilo ar gyfer gwyliau, car, cynilo arian wrth gefn – beth bynnag sy’n eich ysbrydoli.
Awgrym mawr
Os mai dim ond wedi picio allan i gasglu manion ydych chi, defnyddiwch fasged siopa. Fel yna rydych chi’n fwy tebygol o fynd at y til os yw’n trymhau, yn hytrach na llenwi troli gyda phethau ychwanegol.
?
Beth ddylech chi ei wneud gyda’r arian dros ben? Nawr eich bod wedi arbed ychydig bunnoedd, mae gennym syniadau fydd yn eich galluogi i gychwyn arbed. Rhowch gynnig arnynt yma.
Faint o amser fydd yn ei aymryd: 30 munud
Offer angenrheidiol:
- Pin a Phapur
-
Syniadau ar gyfer ryseitiau – O lyfrau coginio, cylchgronau neu ar-lein
Darllenwch drawsgri fiad y fideo
1. Ewch trwy’ch rhewgell, oergell a chypyrddau
Yn gyntaf, gwiriwch y bwyd yn eich cypyrddau, oergell a rhewgell er mwyn osgoi prynu bwydydd sydd gennych chi’n barod. Beth sydd angen ei ddefnyddio? Pa brydau allwch chi eu paratoi gyda chynnwys eich cegin? Eisteddwch i lawr a nodi rhai syniadau ar gyfer prydau mewn llyfr nodiadau, a chreu rhestr o unrhyw gynhwysion sydd eu hangen.
2. Peidiwch â dychryn - does dim rhaid i gynllunio prydau bwyd fod yn faich
Nawr eich bod yn gwybod pa fwydydd sydd yn y gegin, mae’n amser meddwl am yr wythnos i ddod. Gwiriwch fod gennych chi ambell ddewis ar gyfer brecwast, diodydd, byrbrydau a phecynnau bwyd. Nodwch syniadau ar gyfer pump neu chwe phrif gwrs a bod yn barod i greu pryd ychwanegol o beth bynnag sydd dros ben. Dyna ni.
3. Ysgrifennwch restr siopa span
Efallai’ch bod yn teimlo eich bod yn tyfu i fod yn rhy debyg i’ch mam, ond hi sydd gallaf! Bydd ysgrifennu rhestr siopa yn arbed amser, arian a gwastraff bwyd i chi. Nodwch rywbeth ar gefn amlen, teipiwch i mewn i’ch ffôn neu ei nodi ar bad magnetig ar yr oergell - anfonwch signal mwg os yw hynny’n gweithio i chi (neu… gwell peidio).
Ewch ar-lein cyn i chi fynd i siopa - Cymharwch brisiau yn y siopau mawr o gysur clyd eich cartref, gan roi eich rhestr siopa yn mySupermarket.
Bydd y wefan yn dweud wrthych chi ble allwch chi ‘Gyfnewid ac Arbed’ ar gyfer eitemau rhatach o’r un siop, neu ‘Newid ac Arbed’, trwy symud eich basged siopa i siop wahanol.
P’un a ydych chi’n rhoi’ch rhestr lawn i mewn neu ddim ond yr eitemau mwyaf drud, efallai y cewch eich synnu pa archfarchnad yw’r rhataf. Yna gallwch fynd ar-lein, neu bicio i’r siop pan fyddwch chi’n barod.
Prynwch beth ydych chi ei angen, nid beth sydd wedi darfod - Cadwch restr gyfredol o beth sydd angen ei brynu, fel nad ydych chi’n anghofio’r hanfodion. Yna canolbwyntiwch eich siopa ar fwyd i baratoi’r prydau sydd gennych chi dan sylw, yn hytrach nac ailgyflenwi popeth sydd wedi darfod yn awtomatig.
Ymchwiliwch i ryseitiau newydd - Ychwanegwch ryseitiau newydd i’ch repertoire, er mwyn defnyddio bwyd sydd yng nghefn y rhewgell, neu roi cynnig ar brydau bargen. Ewch trwy’ch llyfrau coginio, cylchgronau a blogiau bwyd, neu chwiliwch am ysbrydoliaeth trwy deipio ‘rysáit’ ac enw’r cynhwysyn yn Google. Yna nodwch unrhyw eitemau ychwanegol sydd eu hangen ar eich rhestr siopa.
Gwnewch le i’ch siopa - Os yw’ch cypyrddau, oergell a rhewgell eisoes yn orlawn, stopiwch cyn i chi siopa. Gwnewch le trwy ddefnyddio’r bwyd sydd gennych chi’n barod, yn hytrach na chreu perygl o daflu pethau i wneud lle ar gyfer siopa newydd.
Tynnwch luniau - Tynnwch lun o du fewn eich oergell a chypyrddau bwyd cyn mynd i’r archfarchnad. Yna os byddwch chi’n anghofio pa fwyd sydd gennych chi’n barod, gallwch wirio ar eich ffôn.
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?