Setting up multiple bank accounts
Defnyddio gwahanol gyfrifon banc ar gyfer gwahanol fathau o wariant
Mae’n well gan rai pobl sefydlu gwahanol gyfrifon banc ar gyfer gwahanol fathau o wariant misol.
Mae hyn yn un ffordd o gadw arian ar gyfer biliau pwysig, fel eich rhent, ar wahân o’ch arian gwario bob dydd.
I’ch helpu i benderfynu faint o gyfrifon i’w hagor, gallech roi eich gwariant mewn ychydig o brif feysydd yn unig – er enghraifft:
- Un cyfrif ar gyfer eich rhent neu forgais a biliau rheolaidd
- Un cyfrif ar gyfer cynilion, a
- Prif gyfrif ar gyfer popeth arall.
Unwaith rydych wedi agor cyfrif ar wahân ar gyfer pob maes o wariant, byddwch angen dweud wrth eich banc i:
- sefydlu archebion sefydlog sy’n trosglwyddo arian yn awtomatig o’ch prif gyfrif i’r cyfrifon ychwanegol yn syth ar ôl i’ch Credyd Cynhwysol neu gyflog ddod i mewn
- sefydlu Debyd Uniongyrchol ar gyfer pob un o’ch biliau
Darganfyddwch sut i sefydlu Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog.
Manteision
- Gallwch wario o’ch prif gyfrif gan wybod fod eich prif filiau wedi’u talu
- Gallwch ledaenu cost y biliau y gallech fod angen eu talu bob rhyw ychydig o fisoedd, fel trydan neu nwy
Anfanteision
- Bydd angen i chi reoli’ch holl gyfrifon yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn aros mewn credyd ac yn osgoi ffioedd a chostau.
Dewis y math cywir o gyfrif
Ar gyfer eich prif gyfrif a’ch cyfrif ‘rent a biliau’, chwiliwch am gyfrif cyfredol neu sylfaenol heb ffi sy’n caniatáu i chi sefydlu Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog.
Gwiriwch nad oes raid i chi dalu isafswm i mewn i’r cyfrif bob mis.
Darllenwch ein canllaw ‘Dewis cyfrif bank ar gyfer eich taliadau budd-dal’
Defnyddio gwefan cymharu prisiau i ddod o hyd i gyfrif banc
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn os ydych chi’n ceisio dod o hyd i gyfrif banc sy’n addas i chi.
Argymhellwn y gwefannau canlynol er mwyn cymharu cyfrifon cyfredol:
Go Compare*
Moneyfacts
Money Saving Expert
Money Supermarket
- Mae Go Compare yn eich galluogi i ddefnyddio teclyn Midata a gefnogir gan y llywodraeth i lanlwytho’ch trafodion blaenorol. Bydd hyn yn rhoi argymhellion cyfrif cyfredol i chi’n seiliedig ar eich gwariant personol.
Cofiwch:
- Ni fydd y gwefannau cymharu i gyd yn rhoi’r un canlyniadau i chi. Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio mwy nag un safle cyn penderfynu.
- Ymchwiliwch y math o gyfrif banc sydd ei angen arnoch cyn dewis un
- Darganfyddwch ragor yn ein canllaw ar wefannau cymharu.
Defnyddio cyfrif pot jam undeb credyd
Cynllunnir cyfrifon pot jam yn arbennig er mwyn caniatáu i chi roi arian mewn ‘potiau’ gwahanol o fewn yr un cyfrif.
Mae rhai undebau credyd yn cynnig y cyfrifon hyn ond nid ydym yn eu hargymell gan eu bod yn codi ffi fisol o hyd at £24, ynghyd â ffioedd i dynnu arian allan.
Mae agor nifer o gyfrifon banc dim-ffi yn ffordd well o wahanu’ch arian i wahanol fathau o wariant.
Fodd bynnag, mae rhai landlordiaid cymdeithasol yn cynnig cyfrifon pot jam undeb credyd i’w tenantiaid, ac efallai y byddant yn talu’r ffi fisol drostynt. Os gallwch chi gael cyfrif pot jam heb dalu unrhyw ffioedd, efallai y byddai’n werth ei ystyried.
Defnyddio potiau jam go iawn
Gallwch ddefnyddio potiau go iawn fel potiau jam neu amlenni i’ch helpu i reoli eich arian.
Os ydych yn cyllidebu drwy ddefnyddio potiau go iawn:
- marciwch bot ar gyfer pob un o’ch anghenion gwario
- cymerwch arian parod o’r pot i dalu pob bil wrth iddo ddod i mewn
- cymerwch arian parod allan cyn mynd i siopa
Ceisiwch lynu at reol o ‘pan mae wedi mynd, mae wedi mynd’.
Er enghraifft, os yw’ch pot jam petrol yn wag peidiwch â mynd i mewn i’r pot arian trydan yn hytrach.
Os oes gennych chi unrhyw arian parod yn weddill yn y potiau ar ddiwedd y mis, ceisiwch fynd i’r arfer o’i roi tuag at gronfa cynilion argyfwng.
Manteision
- Mae cael arian parod mewn potiau yn eich atgoffa faint rydych yn ei wario yn ystod y mis - ac felly gall eich helpu i wario llai o arian.
Anfanteision
- Nid talu am bopeth gydag arian parod yw’r ffordd orau bob tro
- Byddwch yn colli allan ar fanteision talu biliau trwy Ddebyd Uniongyrchol, fel tariffau rhatach a’ch biliau’n cael eu talu’n awtomatig
- Bydd angen i chi fod yn arbennig o ofalus ynghylch diogelwch os cadwch lawer iawn o arian parod yn y ty
A oedd y canllaw hwn o ddefnydd i chi?
Wnewch chi rannu’ch sylwadau?